Brexit: Cytundeb mor bwysig i siopwyr ag ydyw i fusnesau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gall prisiau unrhyw gynnyrch sy'n cael ei fenforio o'r UE godi'n syth meddai cyflogwr

Mae cytundeb masnach yn bwysig i siopwyr yn ogystal â busnesau, yn ôl cyflogwr.

Dywedodd Gareth Jenkins, pennaeth cwmni FSG Tool and Dye, y byddai methiant y DU i sicrhau cytundeb gyda'r UE yn golygu y bydd trethi'n cael eu hychwanegu at gynnyrch sy'n cael ei allforio i wledydd yr UE.

Yn yr un modd, bydd toll neu dreth yn cael ei godi ar y nwyddau 'pob dydd' y mae pobl yn eu prynu, meddai.

"Mae pobl wedi cael 10 mis o bandemig - pwy sydd eisiau gweld prisiau'n codi?" meddai Mr Jenkins.

Mewnforio'n helaeth ers degawdau

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu y byddant yn gwneud eu gorau glas i sicrhau cytundeb masnach cyn y dyddiad cau ar 31 Rhagfyr, er bod amser yn brin.

Ond mae materion megis hawliau pysgota yn parhau'n faen tramgwydd yn y trafodaethau.

Mae cwmni FSG, sy'n cyflogi 97 o bobl yn eu ffatri yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, yn cynhyrchu peiriannau ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, cwmnïau ceir, a'r diwydiant fferyllol, ac maen nhw'n allforio i 19 o wledydd yn Ewrop.

"Mae'r wlad hon wedi bod yn mewnforio'n helaeth ers degawdau, ac os edrychwch chi ar beth rydym yn ei brynu - ffrwythau, llysiau, bwyd, beth bynnag - edrychwch faint ohono sy'n dod o dramor," meddai Mr Jenkins.

"Mewn trefniant masnach lle mae tollau, mae'r pris yna'n mynd i godi, ac mae'n mynd i godi yn syth. Does neb yn hoffi codiad treth ac nid nawr yw'r amser."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Gareth Jenkins y bydd diffyg cytundeb yn effeithio ar bawb

Ers sefydlu'r Farchnad Sengl Ewropeaidd mae pob math o nwyddau wedi gallu symud yn rhwydd rhwng gwahanol gwsmeriaid ar draws Ewrop.

Faint mae Cymru'n allforio i'r UE?

Yn 2019 cafodd gwerth £18bn o nwyddau eu hallforio o Gymru i weddill y byd.

Aeth bron i draean o'r rheiny i gwsmeriaid yn yr UE, sy'n uwch na'r ganran ar gyfer y DU.

Roedd y gyfran uchaf o allforion - 17% - ar gyfer cwsmeriaid yn yr Almaen, a pheiriannau a chyfarpar trafnidiaeth oedd fwyaf blaenllaw yn y mathau o nwyddau a allforiwyd.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Richard Hyde y gall tollau ar gig oen fod yn drychinebus i ffermwyr defaid yng Nghymru

Mae cig oen ymhlith ein hallforion pwysicaf, gyda gwerth tua £120m yn cael ei werthu dramor bob blwyddyn. Mae 90% o'r gwerthiant i gwmnïau yn yr UE.

Mae disgwyl y bydd lefalau gwahanol o dollau'n cael eu codi ar wahanol ddarnau o gig, gyda rhai rhannau'n denu 70% o dreth os cant eu hallforio i'r UE.

Mae Richard Hyde - arwerthwr gyda chwmni Sunderlands sydd â marchnadoedd da byw yn Nhalgarth a Llanfair-ym-Muallt, Powys - yn credu mai ffermwyr fydd yn dioddef waethaf oherwydd tollau cig oen a allai fod yn "drychinebus", meddai.

"Mae'r fasnach allforion yna'n sylfaenol. Mae Ewrop angen y cig yna ac mae o gennym ni, ac fe allwn ddarparu cynnyrch rhyfeddol o dda."