Gwaharddiad teithio Ewrop: 'Angen trafod brys'

Mae Llywodraeth Cymru'n gofyn am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i drafod effaith cyfyngiadau teithio sydd wedi eu cyflwyno gan nifer o wledydd Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Iwerddon ond yn caniatáu i gerbydau nwyddau deithio rhwng eu porthladdoedd nhw a phorthladdoedd Caergybi ac Abergwaun am ddau ddiwrnod.

Hefyd mae Ffrainc yn atal traffig sy'n anelu am y cyfandir o borthladd Dover am 48 awr sy'n golygu y bydd oedi o ran allforio cynnyrch o Gymru.

Bydd Boris Johnson yn cadeirio cyfarfod o'r pwyllgor argyfwng COBR(A) ddydd Llun i drafod y gwaharddiadau teithio a ddaeth wedi i straen newydd mwy heintus o'r coronafeirws ddod i'r amlwg yn y DU.

'Er lles iechyd y cyhoedd'

Mae Iwerddon, yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Yr Eidal, Ffrainc a Canada wedi atal hediadau i'r DU am y tro.

Dywed datganiad Llywodraeth Iwerddon taw "er lles iechyd y cyhoedd na ddylai pobl ym Mhrydain, o ba bynnag cenedl, deithio i Iwerddon" ddydd Llun a dydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae lorïau wedi bod yn ciwio i gyrraedd porthladd Dover oherwydd y cyfyngiadau teithio newydd

Yn ôl cwmni Irish Ferries, sy'n cynnal teithiau rhwng Caergybi a Dulyn a rhwng Doc Penfro a Rosslare, mae caniatâd i wneud teithiau hanfodol. Ond mae'n cynghori teithwyr i geisio osgoi stopio yn ystod y siwrne ac i leihau cysylltiadau â phobl eraill gymaint â phosib.

Mae cwmni Stena Line â rheolau tebyg ar ei wasanaethau rhwng Caergybi a Dulyn a rhwng Abergwaun a Rosslare, ac mae angen i bobl ddangos prawf eu bod yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol.

Mae'r cwmni hefyd yn trefnu teithiau uniongyrchol rhwng Rosslare a Cherbourg yn Ffrainc.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gofyn am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i drafod y sefyllfa, yn enwedig y goblygiadau i borthladdoedd Cymru."

Cyfrifoldeb y ddwy lywodraeth yw mynd i'r afael â'r sefyllfa ym mhorthladd Caergybi, medd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi.

Ond mae angen ystyried datblygiadau'r oriau diwethaf, meddai, fel rhan o'r trafodaethau dyddiol sy'n digwydd eisoes ers rhai wythnosau dan gadeiryddiaeth Heddlu Gogledd Cymru wrth baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio wedi Brexit.

Ffynhonnell y llun, Traffic Wales

Disgrifiad o'r llun, Camerâu Traffig Gymru'n dangos ciwiau ar gyrion Caergybi ddydd Iau diwethaf wrth i gwmnïau storio nwyddau cyn 1 Ionawr

"Welon ni wythnos dwytha' yng Nghaergybi be sy'n digwydd pan dydi petha' ddim yn rhedeg fel ddylian nhw yn Lerpwl ac yn y blaen, felly mae angen cynllunia' yng Nghaergybi," dywedodd.

"Ma' 'angen cynllun [mewn ymateb i'r] argyfwng yma fel 'dan ni'n weld o rŵan, y cynllun ar gyfer y cyntaf o Ionawr, a wedyn y cynllun hirdymor."

'Storm berffaith'

I ffermwyr, mae 'na rybudd bod y cyfyngiadau ar borthladdoedd a felly allforio nwyddau yn creu'r "storm berffaith" wrth ystyried y cyfyngiadau cenedlaethol sydd ar Gymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Hefin Jones, sy'n ffermio yn Llanarthne ac yn aelod o NFU Cymru: "Ar un llaw ry'n ni'n gweld bod cyfyngiadau yn mynd i fod yn y porthladdoedd, a chyplysu hynna gyda system o haenau gwahanol bellach a nhw'n golygu bod bwytai a thafarndai ynghau.

"Felly fydd cynnyrch ddim yn symud fel y dylai, a rhagflas yw hyn o'r hyn all ddigwydd o ddiffyg cytundeb masnach gyda thrafodaethau Brexit.

"O ran yr effaith, mae nifer o farchnadoedd wedi anfon negeseuon i ddweud na fydd yna alw am wyn ysgafn, mae nifer o archfarchnadoedd wedi siarad gyda'i proseswyr, y proseswyr wedi asesu'r sefyllfa a'r neges wedi cael ei throsglwyddo yn barod i ffermwyr.

"Mae nifer o ffermwyr wedi gwneud trefniadau i symud yr wyn o'r fferm ond y pryder bellach yw na fydd hi'n bosib eu symud nhw."

Dadansoddiad o Borthladd Caergybi, Liam Evans

Dyma ail borthladd masnachol fwyaf Prydain gyda rhyw 2m o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru bob blwyddyn.

Yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Dover ar gais Llywodraeth Ffrainc, mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn caniatáu i loriau sydd â nwyddau angenrheidiol basio drwy'r porthladdoedd am y 48 awr nesaf.

Y gobaith ydy rhwystro anrhefn llwyr a sicrhau fod nwyddau ffres dal yn gallu symud.

Ond fydd hynny'n fawr o gysur i'r rheiny oedd am deithio adref cyn y Nadolig neu oedd yn bwriadu cludo da byw - mae'r opsiynau iddyn nhw bellach yn brin.

Mae'r pandemig wedi cael effaith ddinistrol ar lawer economi ond does dim dwywaith fod y cyfyngiadau newydd hyn dros y 48 awr nesaf yn ddigynsail ac yn cyfrannu at y caledi hynny.

Heddiw, mae Caergybi yn dawel a chwestiynau mawr am ba effaith all hyn gael ar y wlad gyfan.