Parhau i gynnal profion torfol yn 'wastraff adnoddau enfawr'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd y cynllun ei gyflwyno am y tro cyntaf yng Nghymru yn Merthyr Tudful ar 21 Tachwedd

Fe allai parhau i gynnal profion torfol yng Nghymru fod yn "wastraff adnoddau enfawr", yn ôl arbenigwr iechyd cyhoeddus blaenllaw.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod llai na 1.5% o bobl yn profi'n bositif mewn cynlluniau peilot ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf.

Dywedodd Dr Angela Raffle nad oedd llawer o dystiolaeth i awgrymu ei fod yn helpu i atal trosglwyddiad.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar ei strategaeth brofi yn y dyfodol.

Ond mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi mynnu bod gan brofion torfol "ran i'w chwarae".

Dywedodd Dr Raffle, uwch ddarlithydd mewn gwyddorau poblogaeth ym Mhrifysgol Bryste, fod profion torfol yn "hynod ddwys o ran adnoddau".

"Yn syml, nid ydym yn gwybod a fyddwch chi'n dod o hyd i ddigon o achosion a fyddai wedi trosglwyddo llawer, ac sydd ddim [yn trosglwyddo Covid-19] dim ond oherwydd i chi ddod o hyd [i achosion positif]," meddai.

"Ac nid ydym yn gwybod a allai dweud wrth lawer o bobl eu bod yn negyddol danseilio unrhyw fudd posib.

"Fe allai fod yn wastraff adnoddau ar y raddfa fwyaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r fyddin wedi bod yn helpu gyda'r profion torfol

Dywedodd Dr Raffle fod pryderon hefyd ynghylch cywirdeb y profion sy'n cael eu defnyddio o fewn cynlluniau profi torfol ac sy'n cynhyrchu canlyniadau mewn cyn lleied ag 20 munud.

Mewn labordai, canfuwyd bod y profion yma yn tua 70% yn effeithiol wrth ganfod achosion cadarnhaol.

Ond dywedodd Dr Raffle fod peilotiaid, fel un yn Lerpwl, yn eu cael yn llawer is.

"Dywedodd Llywodraeth y DU, i ddechrau, fod y prawf wedi'i werthuso'n helaeth," meddai wrth raglen Politics Wales.

"Yr hyn rydyn ni'n ei wybod o Lerpwl yw mai dim ond hanner yr achosion positif a gododd y canolfannau prawf yno."

Ond dywedodd cyfarwyddwr gweithredol iechyd y cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Dr Kelechi Nnoaham, fod y peilotiaid yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn.

"Yn ein peilot fe wnaethon ni ddarganfod tua 70% o sensitifrwydd, sy'n golygu os oes gennych chi 10 o bobl sydd wedi'u heintio mewn gwirionedd, bydd y prawf yn codi saith ohonyn nhw," meddai.

Ychwanegodd Dr Nnoaham fod "risg o amgylch negatifau ffug" a oedd yn effeithio ar negeseuon y bwrdd iechyd o amgylch y profion.

Codi'n sylweddol ym Merthyr

Yn Lerpwl, nododd y Prif Weinidog Boris Johnson ac Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock, fod cyflwyno profion torfol yno wedi cyfrannu at ostyngiad sydyn mewn cyfraddau achosion.

Ym Merthyr Tudful, mae nifer yr achosion coronafeirws fesul 100,000 o bobl wedi codi'n sylweddol ers cyflwyno'r profion torfol - o 245.3 i 808.9.

Dywedodd Dr Raffle os oedd profion torfol yn "torri'r gadwyn mewn gwirionedd" yna, mewn theori, dylai achosion ddechrau cwympo.

Ond dywedodd Dr Nnoaham fod y cynnydd mewn achosion yn adlewyrchu cynnydd ledled Cymru gyfan ac na fyddai effaith profion torfol yn amlwg "am ychydig wythnosau eto".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, y dylid ehangu profion torfol ledled Cymru.

Dywedodd mai Slofacia oedd yr "enghraifft orau", lle dywedodd eu bod wedi profi 97% o'r boblogaeth rhwng 10-65 oed ac wedi gostwng cyfraddau heintiau 60%.

"Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn edrych ar beth fyddai'r pethau ymarferol o redeg y math hwnnw o system yng Nghymru," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed Boris Johnson fod cyflwyno profion torfol yn Lerpwl - y lle cyntaf yn y DU i wneud profi torfol - wedi cyfrannu at ostyngiad sydyn mewn cyfraddau achosion

Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd yn y Senedd, fod profion torfol yn "offeryn pwysig" i atal y feirws, ond nid "yr unig ateb".

"Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw ei ategu gyda'r system frechu a sicrhau nad yw'r adnoddau'n cael eu rhoi yn y lleoedd anghywir," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "ystyried y camau nesaf ar gyfer profi cymunedol" yn dilyn y peilotiaid ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf.

"Byddwn nawr yn gwerthuso'r peilotiaid yn iawn i ddeall eu heffaith a'u heffeithiolrwydd yn llawn."

'Ymdrech wych'

Wrth siarad ar raglen Â鶹ԼÅÄ Politics Wales ddydd Sul, dywedodd Mark Drakeford: "Rydyn ni'n siŵr bod gan brofion torfol ran i'w chwarae.

"Byddwn yn gwerthuso'r hyn yr ydym wedi'i wneud ym Merthyr, byddwn yn dysgu o'r hyn sy'n digwydd yng Nghwm Cynon, byddwn yn gweld y ffordd orau i'w ddefnyddio.

"Gobeithio y byddwn yn gallu cymryd y gwersi cadarnhaol gan Merthyr. Mae Merthyr wedi bod yn ymdrech wych gan y cyngor lleol, gan y bwrdd iechyd lleol, gan y boblogaeth leol.

"Byddwn yn dysgu llawer am sut i'w wneud yn rhywle arall ac i ddefnyddio'r dyfeisiau llif ochrol hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol," ychwanegodd.

Mae'r gyfradd achosion dros saith diwrnod ar ei huchaf ym Merthyr Tudful - ar 808.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth rhwng 3-9 Rhagfyr.

Dyma'r tro cyntaf i unrhyw awdurdod yng Nghymru fynd heibio i 800 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Mae ffigwr Merthyr (808.9) bron i ddwywaith cyfradd saith diwrnod Cymru gyfan, sef 430.1 fesul 100,000.