Â鶹ԼÅÄ

'Pleidlais annibyniaeth os daw Plaid Cymru i rym'

  • Cyhoeddwyd
rali caerdydd

Bydd Plaid Cymru'n cynnig refferendwm ar annibyniaeth i Gymru os yw'r blaid yn ffurfio llywodraeth, ac yn cael cefnogaeth gan fwyafrif aelodau'r Senedd ar ôl yr etholiad ym mis Mai, meddai'r arweinydd.

Mewn araith yn ddiweddarach, bydd Adam Price yn dweud bod angen rhywbeth "newydd a gwell" yn sgil pandemig Covid-19, ac mai "annibyniaeth yw'r syniad fwyaf radical yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw".

Dyma'r tro cyntaf i'r blaid fynd i mewn i ymgyrch etholiadol yng Nghymru yn cynnig pleidlais ar annibyniaeth yn y tymor cyntaf.

Mae'r pŵer i alw refferendwm ar annibyniaeth gan Lywodraeth y DU, wnaeth hynny yn Yr Alban yn 2014 ar ôl i'r SNP ennill mwyafrif.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ei araith rithiol, mae disgwyl i Mr Price ddweud bod datganoli dan fygythiad gan lywodraeth Boris Johnson, ac nad oes modd atal galwadau yn Yr Alban am ail refferendwm.

"Mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael fel rhan o weddillion y Deyrnas Unedig, mewn ffurf newydd o Loegr a Chymru - fyddai'r canlyniad gwaethaf un o bob posibilrwydd.

"Am y rhesymau yma rwyf yn addo heddiw y byddai llywodraeth Plaid Cymru, all sicrhau mwyafrif yn y Senedd, a gyda chymeradwyaeth y blaid, yn cynnig refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn y tymor cyntaf."

Yn y gorffennol mae Mr Price wedi dweud y byddai refferendwm yn ail dymor llywodraeth Plaid Cymru, a chyn 2030.

Mae'r newid yn ei safbwynt yn dilyn adroddiad a gomisiynwyd gan y blaid oedd yn argymell dwy refferendwm ar annibyniaeth.

Roedd un yn argymell refferendwm "aml-ddewis" er mwyn asesu barn y cyhoedd, ac roedd yn ail yn bleidlais ar yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yn y refferendwm cyntaf.

Nawr, mae Mr Price yn addo un bleidlais rhwng annibyniaeth a'r sefyllfa bresennol.

'O'r ymylon i'r prif ffrwd'

Bydd Mr Price yn dweud mai annibyniaeth yw'r "syniad mwyaf radical yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw", a bod polau diweddar ar y pwnc yn awgrymu lefelau uchaf erioed o gefnogaeth.

Bydd yn dadlau bod annibyniaeth wedi symud "o'r ymylon i'r prif ffrwd".

Cafodd sawl gorymdaith o blaid annibyniaeth eu cynnal yn 2019 yn sgil dadlau gwleidyddol am Brexit, ac fe ddaeth miloedd o bobl i ddangos eu cefnogaeth.

Mae disgwyl i Mr Price apelio'n uniongyrchol drwy ddweud bod "baneri a gorymdeithiau yn cynnau'r tân", ond os am annibyniaeth, "mae'n rhaid i chi bleidleisio amdano drwy bleidleisio dros Blaid Cymru".

Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig

Mae penderfyniad arweinyddiaeth Plaid Cymru i wrthod argymhellion ei chomisiwn ei hun yn arwydd o ba mor sydyn y mae'r ddadl ynghylch annibyniaeth wedi datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda nifer gynyddol o gefnogwyr Llafur, yn fwyaf arbennig, o blaid y syniad.

Mae cyhoeddiad Adam Price yn rhan o ymdrech gan ei blaid i osod y cwestiwn cyfansoddiadol wrth galon etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf, yn y gobaith y bydd cefnogwyr annibyniaeth i gyd yn cronni dan faner Plaid Cymru.

Mewn gwirionedd, mae'n annhebyg y bydd na fwyafrif o blaid annibyniaeth yn y Senedd nesaf, a gellir ystyried y cyhoeddiad yn fwy o dacteg etholiadol nac o gynllun realistig i gyflawni prif nod Plaid Cymru.

Gyda nifer o bleidiau eraill sy'n gefnogol i annibyniaeth yn bwriadu enwebu ymgeiswyr flwyddyn nesa', fe fydd y cyhoeddiad hefyd yn fodd i ateb cyhuddiadau o lusgo traed gan blaid newydd Neil McEvoy ac eraill.