Â鶹ԼÅÄ

Cynnydd yn achosion Ceredigion yn 'bryder mawr'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Liz Evans
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Elizabeth Evans: "Mae 'na fisoedd a Gaeaf caled iawn o'n blaenau ni"

Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 yng Ngheredigion yn "bryder mawr" yn ôl cynghorydd sir.

Dros y penwythnos fe rybuddiodd Cyngor Ceredigion bod yna gynnydd o achosion o Covid-19 yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Dyffryn Aeron, gyda dros 35 o achosion positif yn yr ardal dros gyfnod o wythnos.

Daeth rhybudd hefyd i bobl ardal Aberystwyth i ddilyn canllawiau Covid wedi mwy o achosion, ac mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos bod y gyfradd yn cynyddu bob dydd.

Fore Llun daeth cadarnhad gan Gyngor Ceredigion bod grwpiau o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd Aberaeron wedi cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu am 14 diwrnod yn dilyn dau achos positif o'r haint.

Mae ysgolion ardal Aberteifi wedi ailagor ddydd Llun wedi i nifer yr achosion o coronafeirws yn y cyffiniau ostwng yn sylweddol dros y dyddiau diwethaf.

"Mae'n bryder mawr ac mae'n rhaid cadw'n ddiogel", meddai cynghorydd tref Aberaeron, Elizabeth Evans.

"Maen anodd dweud pam bod niferoedd yn codi [yng Ngheredigion] ond yn anffodus mae'r feirws yn drwm iawn yn y gymuned nawr."

"Mae Aberteifi yn cofnodi llai o achosion erbyn hyn ond achosion wedi codi eto yn Aberystwyth a Dyffryn Aeron a thref Aberaeron a'n cael effaith fawr ar ysgolion.

Ffynhonnell y llun, Victoria Cummings
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dr Matt Morgan ymhlith y cyntaf i dderbyn y brechlyn Covid-19 ddydd Mawrth

Daw sylwadau Ms Evans wrth i baratoadau fynd yn eu blaen i frechu'r grŵp cyntaf o bobl yng Nghymru yn erbyn yr haint.

Mae staff rheng flaen y GIG a phobl dros 80 oed ar frig y rhestr ar gyfer y brechlyn.

Wrth siarad â Â鶹ԼÅÄ Radio Wales, dywed Dr Matt Morgan, ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, fod cyflwyno brechlyn yn garreg filltir yn y pandemig yma yng Nghymru.

"Rwy'n teimlo'n falch, mewn ffordd, bod gwyddoniaeth a meddygaeth a dynoliaeth wedi gwneud y brechlyn hwn mewn llai na hyd beichiogrwydd mewn gwirionedd.

"O'r adeg y derbyniwyd y claf cyntaf i ofal dwys yng Nghaerdydd gyda Covid, bydd yn 38 wythnos i'r diwrnod yfory, ac mae'n eithaf rhyfeddol bod y brechlyn yma yn yr amser hwnnw.

"Oherwydd hynny, rwy'n teimlo'n obeithiol, am y tro cyntaf ers amser maith dwi'n meddwl.

"Ond hefyd, rydw i'n realistig - nid yw hyn yn mynd i wella pethau dros nos ac mae'r holl bethau eraill y mae cymdeithas a'r cyhoedd wedi bod yn eu gwneud, ysywaeth, yn parhau i fod yn bwysicach nag erioed."

'Gaeaf caled iawn o'n blaenau'

Ychwanegodd Ms Evans ei bod hi'n croesawu'r ffaith bod yna frechlyn o'r diwedd, ond gan fod y broses o frechu pawb yn mynd i fod yn araf - oherwydd gofynion y brechlyn - mae'n pwysleisio bod angen i bawb barhau i fod yn ofalus.

"Mae 'na fisoedd a Gaeaf caled iawn o'n blaenau ni ac mae'n rhaid cadw'n ddiogel am fod achosion yn codi yn enwedig yng Ngheredigion.

"Mae'n rhaid bod yn ofalus nad yw pobl yn cysylltu gyda'u meddygon teulu yn gofyn am y brechlyn am y bydd e'n cael ei ddosbarthu drwy apwyntiad yn unig."

Pynciau cysylltiedig