Â鶹ԼÅÄ

Torri record am nifer dyddiol achosion newydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Profion coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi'r nifer dyddiol uchaf o achosion coronafeirws ers dechrau'r pandemig.

Cofnodwyd 1,916 o achosion newydd yn ystod y cyfnod 24 awr diweddaraf hyd at ddydd Sadwrn.

Cafodd 14 o farwolaethau pellach eu cofnodi hefyd, ac mae dros filiwn o bobl Cymru erbyn hyn wedi cael prawf Covid-19.

Mae cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru bellach yn 2,709, a chyfanswm yr achosion positif yn 88,992.

O'r marwolaethau diweddaraf, roedd pump yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, pedair yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, tair yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac un yr un yn ardaloedd Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Y siroedd oedd â'r nifer uchaf o achosion newydd oedd Caerdydd, gyda 240, a Rhondda Cynon Taf, ble cofnodwyd 239 o ganlyniadau positif.

Roedd yna hefyd:

  • 217 o achosion newydd yn Abertawe;

  • 179 yng Nghaerffili;

  • 145 yng Nghastell-nedd Port Talbot;

  • 127 yng Nghasnewydd; a

  • 126 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd 19,577 o brofion eu cynnal ddydd Sadwrn, sy'n dod â'r cyfanswm i 1,002,802. O'r rheiny, roedd 913,810 â chanlyniad negatif.

Pynciau cysylltiedig