Mwy o achosion o Covid yn ardal Llanbed a Dyffryn Aeron

Disgrifiad o'r llun, Mae Cyngor Ceredigion yn poeni am y cynnydd o achosion yn Llanbed a Dyffryn Aeron

Dywed Cyngor Ceredigion bod yna gynnydd o achosion o Covid-19 yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Dyffryn Aeron.

"Y gyfradd bresennol yng Ngheredigion," medd llefarydd, "yw 159.6 fesul 100,000 o'r boblogaeth (o 13:00 5 Rhagfyr 2020), sy'n dangos bod y gyfradd yn cynyddu bob dydd.

"Dros yr wythnos diwethaf, yr ydym wedi gweld dros 35 o achosion positif yn yr ardal.

"O ganlyniad i waith Tîm Olrhain Cyswllt Ceredigion, gallwn weld sut mae'r feirws wedi lledaenu. Mae'r achosion yn cynnwys pobl yn dod at ei gilydd yn gymdeithasol ac mae'r haint hefyd yn lledaenu yn y gweithle.

"Ble bynnag yr ydym a phwy bynnag sydd yn ein cwmni, rhaid i ni i gyd fod yn wyliadwrus bob amser a sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau.

"Bydd cadw pellter cymdeithasol, golchi eich dwylo'n rheolaidd a gwisgo masg yn eich amddiffyn chi a'r rhai o'ch cwmpas," ychwanegodd llefarydd.

Ffynhonnell y llun, IAN CAPPER / GEOGRAPH

Ddydd Sadwrn roedd yna rybudd i bobl ardal Aberystwyth i ddilyn canllawiau Covid wedi mwy o achosion.

Bydd ysgolion ardal Aberteifi yn ailagor ddydd Llun wedi i nifer yr achosion o coronafeirws yn y cyffiniau ostwng yn sylweddol dros y dyddiau diwethaf.

Dywed Cyngor Ceredigion bod Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd yn gweithio gyda chydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac maent yn dweud eu bod wedi cyflwyno sawl hysbysiad dros yr wythnosau diwethaf lle mae angen gwella.

Mae yna rybudd bod yn rhaid i unrhyw un â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref dim ond i gael prawf.