Profion ddwywaith yr wythnos i staff rheng flaen y GIG

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r prawf llif cyflym yn gallu rhoi canlyniad o fewn tua hanner awr

Bydd staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael prawf Covid-19 ddwywaith yr wythnos hyd yn oed os nad oes symptomau ganddyn nhw.

Bydd y rhaglen brofi, a fydd yn cael ei gyflwyno'n ddiweddarach y mis hwn, yn defnyddio prawf cyflym sy'n rhoi canlyniad ar ôl tua hanner awr.

Fe fyddan nhw'n cael eu cynnig i feddygon, nyrsys a staff eraill megis porthorion, glanhawyr a staff arlwyo.

Bydd profion hefyd i staff unedau hosbis, ac i'r rhai sy'n cynnig gwasanaethau hosbis yn y cartref.

Dyma'r math o brawf sydd wedi ei gynnig yn dorfol mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething y bydd y GIG yn dechrau'r rhaglen brofi i'r grwpiau yma o 14 Rhagfyr, gan ddechrau gyda'r rhai mewn gwasanaethau lle mae risg uchel o drosglwyddo'r haint, ac yna i ardaloedd risg is ym mis Ionawr.

Dywedodd: "Mae'n hanfodol i bawb ddeall na all profi yn unig ddileu'r risg sy'n gysylltiedig gyda Covid-19."

Pwysleisiodd bod angen y profion ochr yn ochr â mesurau ataliol eraill fel y defnydd o PPE, pellter cymdeithasol a hylendid dwylo.

Llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd yw Andrew RT Davies, a dywedodd: "Fel llawer o'u cyhoeddiadau, mae'n hanfodol nawr eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] yn bwrw 'mlaen a darparu'n profion yma i leoliadau iechyd a gofal ar draws Cymru.

"Bydd y profion yn rhoi tawelwch meddwl i'n staff iechyd a gofal ardderchog, a theuluoedd y pobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, wrth iddyn nhw frwydro'r feirws."

Dadansoddiad gohebydd iechyd Â鶹ԼÅÄ Cymru, Owain Clarke

Mae ysbytai a lleoliadau gofal yn fwy tueddol o fod yn fregus pan mae achos o coronafeirws.

Un rheswm am hyn yw y gallai aelod o staff fod gyda'r feirws, ond heb wybod hynny am nad oes symptomau.

Mae staff cartrefi gofal eisoes yn cael prawf ddwywaith yr wythnos, ond dyw hynny ddim yn gyffredin yn y GIG ac mae fel arfer yn digwydd ar ôl i achosion ddod i'r amlwg.

Er bod y profion cyflym yn llai sensitif na'r rhai sy'n cael eu prosesu mewn labordy, y rhesymeg yw y bydd y cynllun dwywaith yr wythnos yn lleihau'r risg.

Mae staff yn gallu rhoi'r prawf cyflym i'w gilydd.