Gall Cymru wynebu diweithdra tymor hir wedi Covid

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gallai nifer y bobl sy'n ddi-waith am gyfnod hir godi i oddeutu 44,000, yn ôl ymchwil sydd wedi cael ei gomisiynu gan y Â鶹ԼÅÄ.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen buddsoddi i leddfu'r sefyllfa ond yn rhybuddio bod amser anodd i ddod.

Ers dechrau 2020 mae canran y bobl sydd heb waith yng Nghymru wedi cynyddu o 41% o gymharu â chynnydd o 18% yn Lloegr, sy'n golygu bod 20,000 yn rhagor o bobl yng Nghymru yn chwilio am waith.

Ac er newyddion da diweddar am frechlyn posib a diwedd ar gyfnodau clo, mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu.

Yn ôl David Hagendyk o'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru gallai nifer y di-waith yng Nghymru godi i hyd at 44,000.

"Mae'r cyfnod yma yn mynd â ni nôl i'r 1990au cynnar a'r dirwasgiad oedd yn bod bryd hynny," meddai.

"Mae'n hollol hanfodol bod y llywodraeth yn gweithredu'n gyflym i atal hyn rhag digwydd."

Gohirio gyrfa am y tro

Dywed James Aubrey ei fod wastad wedi eisiau bod yn beilot, a'i fod wedi teilwra ei arholiadau a'i brofiad gwaith i gyrraedd y nod.

Roedd rhaid iddo fenthyg £100,000 i dalu am ei hyfforddiant dwy flynedd, gyda'r bwriad o dalu'r arian yn ôl dros y 10 mlynedd nesaf.

Fel arfer ni fyddai hynny'n broblem, ond y diwydiant awyr yw un o'r rhai sydd wedi diodde' fwyaf yn ystod y pandemig.

Ffynhonnell y llun, James Aubrey

Disgrifiad o'r llun, Mae James Aubrey wedi benthyg £100,000 i hyfforddi i fod yn beilot

Ers Covid dyw cwmnïau ddim yn recriwtio peilotiaid ac felly mae James wedi penderfynu chwilio am swydd yn y byd manwerthu fel bod ganddo incwm yn y tymor byr.

Mae'n poeni bydd hi'n gryn amser cyn y gall e ddychwelyd i'r byd hedfan awyrennau.

Economi Cymru yn 'fregus'

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi neilltuo dros £1bn i gefnogi busnesau ac amddiffyn swyddi yn ystod y pandemig.

Ond er hynny mae diweithdra'n cynyddu'n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr.

Disgrifiad o'r llun, Dywed David Hagendyk bod rhaid i'r llywodraeth weithredu ar frys i osgoi diweithdra uchel

Yn ôl David Hagendyk un rheswm am hynny yw bod rhai sectorau'n cyflogi mwy o bobl.

"Mae'n hymchwil yn dangos bod un o bob pump gweithiwr yma yng Nghymru yn gweithio mewn sectorau sy'n wynebu trafferthion - y sectorau hynny a gafodd eu heffeithio gan y cyfnod clo cyntaf," meddai.

"Ymhlith y sectorau mae cwmnïau cysylltiedig â lletygarwch a thwristiaeth, hedfan a siopau'r stryd fawr - ac mae hynny'n cyfrif am chwarter miliwn o weithwyr yma yng Nghymru."

Y rheolwr sydd methu cysgu

Ar draws Cymru mae'r sector lletygarwch wedi cael ei tharo'n galed wrth i elw gwestai, tafarndai a thai bwyta ddisgyn yn sylweddol.

Disgrifiad o'r llun, 'Dwi methu cysgu'r nos,' medd Heidi Bakewell, rheolwraig tafarn ym Morfa Nefyn

Ddechrau'r flwyddyn fe wnaeth tafarn Bryncynan ym Morfa Nefyn wario £1m ar ail-wneud y lle. Roedd y rheolwraig, Heidi Bakewell yn gobeithio adennill oddeutu hynny mewn refeniw, ond dim ond chwarter hynny y mae'r dafarn wedi'i dderbyn.

Ar ben hynny roedd Heidi wedi cyflogi staff newydd - staff sydd bellach yn wynebu colli eu gwaith o bosib.

"Dwi ddim wedi cysgu y ddwy noson ola' 'ma wrth feddwl be 'dan ni'n mynd i'w wneud," meddai.

"Ai rhannu oriau rhwng pawb yw'r ateb fel bod pawb yn cael rhywfaint o gyflog? Ond eto dyw hynna ddim digon iddynt fyw arno.

"Ma' gynnon ni dri chef ac 11 staff blaen tÅ· - bydd un chef yn gorfod mynd ac mae'n debyg bydd rhaid i fi ostwng nifer ein staff blaen tÅ· i bump."

'Mae buddsoddi yn allweddol'

Dywed Gweinidog yr Economi, Ken Skates, mai'r unig ffordd i ddelio gyda'r hyn sydd i ddod yw buddsoddi mewn "swyddi a mwy o swyddi".

"Ry'n wedi arfer buddsoddi mewn pobl a chefnogi pobl drwy gyfnodau economaidd anodd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, 'Dyw'r rhagolygon am gyflogaeth yn y dyfodol ddim yn ffafriol,' medd Gweinidog yr Economi

"Ry'n yn hyderus bod gennym gynlluniau a pholisïau i atal yr effaith y gall diweithdra hirdymor gael ar ein gwlad."

Ond mae Mr Skates yn cyfaddef nad oes un o'r rhagolygon wedi bod yn hynod o "ffafriol".

Cost ail-hyfforddi

Dywed David Hagendyk y gallai cost ail-hyfforddi pobl sy'n debygol o fod yn ddi-waith am gyfnod hir fod yn fawr - efallai cymaint â £218m.

"Ry'n ni wedi gweld Llywodraeth Cymru'n ehangu prentisiaethau a'r lleoedd sydd ar gael mewn colegau hyfforddi er mwyn ymdopi gyda'r her ond ar hyn o bryd dwi'm yn meddwl bod graddfa'r ymateb yn ddigonol," meddai.

Dywed Llywodraeth Cymru bod angen mwy o arian o San Steffan er mwyn helpu gydag ail-hyfforddi.

Drwy fformiwla Barnett gallai Cymru dderbyn £375m sydd wedi'i anelu i gefnogi sgiliau.

Mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd Cymru'n derbyn £1.3bn o arian newydd gan Lywodraeth y DU yn 2021/22 a hynny drwy'r cyllid sydd ar gael drwy fformiwla Barnett i feysydd datganoledig fel iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai.

Mae'r arian hwn yn fwy na dwbl y £600m a ddarparwyd ar gyfer 2020/21.

Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates: The Price of Lockdown, Â鶹ԼÅÄ One Wales, 20:30 nos Lun 30 Tachwedd ac yna ar I-player.