Â鶹ԼÅÄ

Llywodraeth i drafod rhagor o gyfyngiadau cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Woman in face masks looking at Christmas treesFfynhonnell y llun, PA Media

Mae'r llywodraeth yn ystyried a oes angen gosod mwy o gyfyngiadau coronafeirws yn y cyfnod cyn y Nadolig, meddai'r prif weinidog.

Fe fydd y cabinet yn cwrdd ddydd Iau i drafod y gwahanol opsiynau, meddai Mark Drakeford wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Dywedodd Mr Drakeford nos Fercher ei fod yn "edrych yn ofalus" ar y math o reolau sy'n berthnasol ar begwn uchaf y drefn o haenau cyfyngiadau ar gyfer Lloegr a'r Alban.

Dywedodd y byddent yn "fwyaf tebygol" yn cael eu gorfodi ledled Cymru yn hytrach na mewn ardaloedd lleol.

Cyhoeddodd bedair llywodraeth y DU ddydd Mawrth y bydd tri chartref yn cael cwrdd y tu fewn am hyd at bum diwrnod dros y Nadolig, ond mae meddyg mewn uned gofal dwys yn dweud ei bod yn pryderu am fis Ionawr yn sgil y newid.

Mae ffigyrau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 41 yn rhagor wedi marw gyda'r feirws, ac roedd 907 yna o achosion newydd.

Mae cyfanswm y marwolaethau bellach yn 2,446 a chyfanswm yr achosion yn 74,735.

O'r achosion newydd roedd 116 yng Nghaerdydd, 104 yn Rhondda Cynon Taf a 98 yn Abertawe.

Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Wales Live nos Fercher ei fod yn credu y "gallem fod mewn sefyllfa adeg y Nadolig gyda'r feirws yn mynd yn gyflym iawn i'r cyfeiriad anghywir" os na fydd camau ychwanegol yn cael eu gweithredu.

"Rydyn ni'n edrych yn ofalus ar y system haenau sydd ganddyn nhw nawr yn yr Alban, ac yn Lloegr, gan edrych ar ba gyfyngiadau pellach sydd ganddyn nhw yn eu system haenau lle mae'n nhw'n dechrau bod yn effeithiol, gan weld a oes unrhyw beth arall gallwn gymryd o hynny i Gymru.

"Gadewch imi fod yn glir nad wyf yn sôn am ddefnyddio system haenau. Rwy'n edrych i weld pa fesurau sydd ar waith yn y drydedd haen yn yr Alban a Lloegr.

"A oes pethau y maent yn ei wneud yno nad ydym yn ei wneud yma yng Nghymru y byddem yn gallu ei wneud... yn fwyaf tebygol ledled Cymru... yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae gennym bedair wythnos ar ôl."

Mae gwahanol gyfyngiadau i haen tri yn Lloegr a Lefel tri yn yr Alban.

Daw system haenau newydd Lloegr i rym pan ddaw'r cyfnod clo yn y wlad honno i ben yr wythnos nesaf. Haen tri yw'r lefel uchaf o gyfyngiadau fydd mewn grym yno.

Rhaid i bobl beidio â chwrdd y tu fewn neu yn y mwyafrif o leoliadau awyr agored gyda phobl nad ydyn nhw'n byw gyda nhw, neu nad ydyn nhw yn eu swigen cymorth; mae tafarndai a bwytai ar gau heblaw am siopau tecawê; a rhaid i westai a lleoliadau adloniant dan do gau.

Polisi cyffredin

Yn gynharach ddydd Mercher fe wnaeth Mr Drakeford ailadrodd ei apêl ar i bobl fod yn synhwyrol yn y cyfnod cyn y Nadolig, a dywedodd ei fod hefyd o blaid gweld pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn dilyn polisi cyffredin o ran cyfyngiadau coronafeirws wedi'r ŵyl.

Mae pedair llywodraeth y DU wedi cytuno ar y trefniadau rhwng 23 a 27 Rhagfyr.

"Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith ein bod wedi dod i gytundeb ynglŷn â'r pum diwrnod dros y Nadolig, ond rwyf hefyd am i ni ddod i safbwynt cyffredin yn y cyfnod yn dilyn hyn hefyd," meddai.

"Rwy'n meddwl ei bod yn gwneud synnwyr i wneud hynny ledled y Deyrnas Unedig. Dwi ddim am ragdybio beth fyddai hynny'n ei olygu."

Fe fydd y cyfyngiadau teithio yn cael eu codi ar draws y pedair gwlad gan roi'r cyfle i hyd at dri chartref ddod at ei gilydd.

Pan fydd swigen o dair aelwyd wedi ei chreu, ni ddylai gael ei newid na'i hymestyn ar unrhyw amod, medd datganiad gan y llywodraethau ar y cyd.

Bydd y rheolau presennol, llymach o fewn y diwydiant lletygarwch yn parhau dros yr un cyfnod.

'Taflu'r gwaith da'

Mae Dr Bethan Gibson yn gweithio yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, a dywedodd bod pryderon am effaith rheolau'r Nadolig.

"Mae'n newyddion da i deuluoedd fel eu bod nhw yn gallu dathlu'r Nadolig ond fel doctor sydd wedi bod yn gweithio yn yr uned gofal dwys rwy'n pryderu nawr am fis Ionawr.

"Gyda mwy o deuluoedd yn gallu dod at ei gilydd rwy'n teimlo ein bod ni wedi taflu'r hyn yr ydyn ni wedi llwyddo i wneud dros y misoedd diwethaf a ninnau ond wythnosau i ffordd o gael vaccine.

"Rydyn ni gyd yn pryderu nawr am fis Ionawr ac y bydd yn surge arall a thrydedd ton."

Fe wnaeth y prif weinidog hefyd rybuddio bod mwy o deuluoedd yn cwrdd dros y Nadolig yn golygu risg uwch o ledaenu'r haint.

Ond dywedodd Mr Drakeford y byddai peidio â rhoi cyfarwyddiadau o gwbl wedi arwain at broblemau.

"Pe na bai yna unrhyw reolau, yna byddai pobl yn llunio rheolau eu hunain. Rwy'n gobeithio y bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn deall y rhyddid sydd ar gael a sut i'w defnyddio."

Mae modd gweld y cyfweliad llawn gyda Mark Drakeford ar raglen Wales Live ar Â鶹ԼÅÄ One Wales am 22:35 nos Fercher, ac yna ar yr iPlayer.