Cytuno ar reolau'r Nadolig: Angen 'bod yn gyfrifol'

Bydd unrhyw lacio ar gyfyngiadau sy'n cael eu cytuno ar gyfer y Nadolig ddim yn anogaeth i "wneud pethau peryglus" yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Mae llywodraethau'r DU wedi dod i gytundeb ar y rheolau, ac mae'r Â鶹ԼÅÄ yn Yr Alban wedi cael gwybod y gallai olygu bod hyd at dri chartref yn cael cyfarfod dan do rhwng 23-27 Rhagfyr.

Roedd Mr Drakeford yn siarad cyn cyfarfod o holl lywodraethau'r DU brynhawn Mawrth, pan ddywedodd Mr Drakeford ei fod yn obeithiol iawn y bydd modd cytuno ar ddull ar y cyd dros gyfnod yr Å´yl.

Ond ychwanegodd y bydd yn cyfarfod ag aelodau o'r cabinet cyn diwedd yr wythnos i benderfynu a fydd angen cyfyngiadau llymach yng Nghymru cyn y Nadolig.

Daw hyn wedi i gynnydd gael ei weld yn nifer yr achosion o Covid-19 ymhlith pobl o dan 25 oed.

Nid yw'n glir beth fydd y cytundeb, ond dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps, y byddai mwy o ryddid i ymweld ag anwyliaid.

Yn y Senedd, ychwanegodd Mr Drakeford ei siom na fydd prif weinidog y DU, Boris Johnson, yn bresennol yn y cyfarfod COBRA.

"Fe fyddech chi'n meddwl o ystyried pwysigrwydd y penderfyniad y bydd rhaid ei wneud yno y byddai'r prif weinidog yn meddwl fod hon yn sgwrs y byddai'n dewis bod yn rhan ohoni," meddai.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd unrhyw lacio ar y rheolau yn arwain "yn anochel" at gynnydd mewn achosion o coronafeirws.

Cabinet i gwrdd eto

Yn y Senedd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei bod yn "hanfodol nad ydym yn colli enillion caled y misoedd diwethaf er mwyn pedwar neu bum niwrnod, ac felly bod rhaid i bobl wybod bod risg gydag unrhyw lacio".

Cytunodd Mr Drakeford: "Pa bynnag ryddid y byddwn yn gallu cynnig dros gyfnod y Nadolig, bydd rhaid i bobl ddefnyddio hynny'n gyfrifol.

"Dyw'r ffaith bod rhywfaint o lacio yn bosibl ddim yn anogaeth i dreulio'r cyfnod yna yn gwneud pethau peryglus."

Wrth ateb cwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, ychwanegodd Mr Drakeford y bydd y cabinet "yn cwrdd eto cyn diwedd yr wythnos i weld a oes gwersi i ni ddysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn llefydd eraill".

Galwodd am ddull ar y cyd yn y DU yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac hefyd "y modd y byddwn yn gorfod delio gyda goblygiadau anochel y llacio".

Dywedodd Mr Davies y bydd "busnesau ar draws Cymru yn bryderus wrth feddwl am gyfyngiadau pellach".