£15m i gynyddu'r gwasanaeth olrhain dros y gaeaf

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd nifer y swyddogion olrhain bron yn dyblu

Mae £15.7m yn cael ei roi i benodi 1,300 o swyddogion olrhain cysylltiadau ychwanegol yng Nghymru.

Mae'n golygu bydd y gweithlu'n codi o 1,800 i 3,100 "mewn da bryd" i ddelio â'r galw uwch sydd i'w ddisgwyl am y gwasanaeth rhwng misoedd Rhagfyr a Mawrth.

Hefyd mae tîm newydd hefyd yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru gyfan i gefnogi timau lleol ymateb i "ymchwydd mewn achosion ar ddiwrnodau pan fydd niferoedd yr achosion positif newydd yn arbennig o uchel".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni'n disgwyl i'r gaeaf hwn fod yn un anodd, ac mae'n bosib y bydd nifer yr achosion yn cynyddu."

Lefelau heintio ar gynnydd?

Cafodd 29 o farwolaethau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 797 o achosion newydd wedi eu cofnodi.

Roedd y niferoedd uchaf yn Rhondda Cynon Taf, 86, a Chastell-nedd Port Talbot, 82.

Ond bod y ffigyrau diweddaraf - hyd at 6 Tachwedd - yn awgrymu bod lefelau heintio yng Nghymru ar gynnydd.

Ychwanegodd bod lefelau'n gostwng yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a'i bod yn rhy gynnar i ddweud yn bendant yn Yr Alban.

Cyrraedd 90% o gysylltiadau

Mae'r system Profi, Olrhain, Diogelu, meddai Mr Gething, "wedi perfformio'n dda hyd yma" yng Nghymru, gan olrhain dros 90% o gysylltiadau.

Ond roedd y cyfnod 'clo tân' byr yn gyfle i adolygu a gwella'r gwasanaeth wrth baratoi ar gyfer misoedd prysur y gaeaf.

Bydd yr arian ychwanegol, ynghyd â buddsoddiad mewn labordai profi yng Nghymru, yn helpu "nodi'n gyflym" unigolion â symptomau, gan "ddod o hyd i fannau problemus newydd... a gofyn i gymaint o gysylltiadau â phosibl i hunan-ynysu".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Vaughan Gething bod y system Profi, Olrhain, Diogelu "wedi perfformio'n dda hyd yma"

Wrth nodi "arwyddion cynnar positif" fod nifer achosion Covid-19 yn gostwng yng Nghymru wedi'r cyfnod clo byr, rhybuddiodd Mr Gething bod angen i bobl ymatal rhag ymddwyn "yn ôl yr arfer" a pharhau i ddilyn rheolau iechyd.

Er bod nifer "sylweddol" o bobl yn cael triniaeth ysbyty, dywedodd bod niferoedd achosion yn gostwng yn rhai o'r ardaloedd sydd wedi eu taro waethaf.

Mae'r cyfartaledd dros saith diwrnod wedi gostwng o oddeutu 770 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth i tua 420 ym Merthyr Tudful, meddai, ac wedi bron â haneru yn Wrecsam i oddeutu 150 o achosion i bob 100,000.

Pwysleisiodd Mr Gething fod angen "adeiladu" ar hynny nawr bod cyfyngiadau llai caeth mewn grym ar draws Cymru "a sicrhau nad ydyn ni'n llithro'n ôl" ac ymddwyn fel nad yw'r feirws yn bod.

"Os rydyn ni am gadw'r feirws dan reolaeth, rhaid i ni stopio plygu'r rheolau neu eu hymestyn i'r eithaf," meddai yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd bod hynny'n golygu "peidio bwcio dau fwrdd mewn tafarndy ar y tro a symud cadeiriau i osgoi'r rheol o bedwar", sef y rheol sy'n cyfyngu nifer y bobl gan gyfarfod mewn man cyhoeddus o'r fath dan do.

Oedi taliad £500 hunan-ynysu

Soniodd Mr Gething hefyd am yr oedi wrth brosesu taliadau £500 i bobl ar incwm isel sy'n gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid-19.

"Heriau ymarferol" sydd wrth wraidd yr oedi, meddai.

Mae'r taliadau wedi bod ar gael yn Lloegr a'r Alban ers mis Hydref.

Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhoi taliadau'n dyddio'n ôl i fis Medi.

Dywedodd Paul Davies AS: "Dydw i ddim yn gwybod pam ei bod wedi cymryd mor hir i gyflwyno'r taliad yma."

Ychwanegodd ei bod yn "bwysig bod pobl ar incwm isel yn cael y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu".

Dywedodd Plaid Cymru na ddylai'r taliadau gael eu trethu na chwaith effeithio ar fudd-daliadau.

"Nid yw 'heriau ymarferol' yn esgus ddigon da at pam fydd taliadau'n cael eu talu hyd at ddechrau Tachwedd yn lle Medi fel yn Yr Alban a Lloegr", meddai Helen Mary Jones AS.

Ychwanegodd bod angen sicrhau ei bod hi'n "hawdd ac yn realistig" i bobl hunan-ynysu os ydy'r cynllun am lwyddo.