Â鶹ԼÅÄ

'Mae democratiaeth yn fyw yn America'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

GWYLIWCH: Robert Humphries o Wisconsin yn ymateb i ganlyniad yr etholiad yn America

Mae Robert Humphries yn byw yn Spring Green yn nhalaith Wisconsin, ond mae'n wreiddiol o Gasnewydd, cyn iddo symud i Ohio gyda'i rieni yn 1988.

Mae ganddo ddiddordeb mewn astudio hanes mewnfudwyr o Gymru i'r Unol Daleithiau, ac mae'n cyhoeddi erthyglau yn rheolaidd am y cymunedau Cymreig yno yn y 19eg a'r 20fed ganrif - eu hanes, eu gwleidyddiaeth a'u perthynas â grwpiau ethnig eraill.

Rhannodd ei argraffiadau o'r etholiad gyda Cymru Fyw ar ffurf fideo.

Roedd cyfnod yr etholiad yn un cyffrous i Robert, gyda'r dref fach ble mae'n byw yn gymysgedd o faneri Biden a Trump - hyd yn oed rhai mewn gerddi drws nesaf i'w gilydd.

Roedd Trump wedi cipio talaith Wisconsin o tua 20,000 o bleidleisiau nôl yn 2016, felly yn ôl Robert roedd hi'n anodd gwybod i ba ffordd y byddai'r canlyniad yn mynd. Yn y diwedd, enillodd y Democratiaid Wisconsin yn ôl gyda dros 20,000 o bleidleisiau.

"Yn bersonol, teimlaf dipyn o ollyngdod enfawr a dweud y gwir," meddai ar ôl i'r cyhoeddiad ddod - wedi dyddiau o aros - fod Joe Biden yn fuddugol.

"Er fod Joe Biden wedi ennill y TÅ· Gwyn, dwi'n credu fydd llawer o waith gyda fe dros y blynyddoedd i ddod i drwsio'r problemau sydd dal yn y wlad.

"Mae'r wlad yma mor rhanedig ar bynciau llosg fel hiliaeth, cyfiawnder a hyd yn oed gwyddoniaeth, fel sut i ddelio â'r argyfwng Covid 19."

Mae'n cyfaddef fod yna lawer o gwestiynau dal heb eu hateb, fel a fydd Donald Trump yn ymgeisio yn etholiad 2024, a beth sydd nesaf i'r blaid Weriniaethol?

Fodd bynnag, er y "cyfnod o ansicrwydd" mae'n ei ddisgwyl yn y dyfodol agos, mae'n pwysleisio pa mor galonogol yw hi fod nifer y pleidleisiau yn yr etholiad eleni wedi bod yr uchaf erioed.

"Beth bynnag yw'ch teimladau am y canlyniad, mae democratiaeth yn fyw yn America."

Hefyd o ddiddordeb: