Â鶹ԼÅÄ

'Sefyllfa ail don Covid-19 yn waeth na'r brig cyntaf'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Rwy'n teimlo bod cleifion yn fwy sâl y tro hwn," meddai Dr Ceri Lynch

Mae meddyg gofal dwys yn un o'r ysbytai sydd wedi cael ei effeithio waethaf gan ail don Covid-19 yn dweud bod staff eisoes yn teimlo dan straen aruthrol.

Mae Dr Ceri Lynch, sy'n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant, hefyd yn credu bod y sefyllfa nawr yn "waeth" nag yn ystod brig cyntaf y feirws yn y gwanwyn.

Mae'n dweud bod mwy o gleifion yn dod i'r ysbyty yn ddifrifol wael gyda'r clefyd a bod iechyd sawl claf yn dirywio'n gyflymach nag o'r blaen.

Dywedodd bod hynny er gwaethaf gwell dealltwriaeth o'r feirws a thriniaethau gwell.

'Gwaeth y tro hwn'

Yn ôl Dr Lynch gallai hyn fod oherwydd bod pobl yn aros yn rhy hir cyn cael help.

"Rwy'n teimlo ei fod yn waeth y tro hwn," meddai.

"Roeddem yn disgwyl ail don ac yn teimlo na fyddai mor ddifrifol -  ond rwy'n teimlo bod cleifion yn fwy sâl y tro hwn.

"Dydw i ddim yn gwybod a yw hynny oherwydd bod pobl yn aros cyn dod i'r ysbyty neu a yw'r clefyd yn mynd yn fwy difrifol.

"Rwy'n teimlo ein bod wedi cael mwy o farwolaethau a phobl ifanc yn eu plith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Ceri Lynch yn dweud fod absenoldeb staff oherwydd y feirws yn bryder cynyddol

Mae Dr Lynch hefyd yn dweud fod staff yn ei huned yn aml yn eu dagrau ar ôl gweld effeithiau'r feirws ar unigolion a'u teuluoedd.

"Y peth tristaf i ni yw'r teuluoedd sydd wedi colli sawl aelod o'r teulu," meddai.

"Gallaf feddwl am ychydig o deuluoedd yn ystod yr wythnosau diwethaf - felly mae'r teuluoedd hynny wedi cael eu dinistrio - fyddan nhw byth yn gwella.

"Rydyn ni'n gwahodd teuluoedd i fod gyda'u perthnasau ar ddiwedd eu hoes ond dydyn nhw ddim wedi gallu dod i mewn am eu bod wedi'u heintio eu hunain.

"Mae'n drist iawn gorfod gwneud hyn dros y ffôn neu Skype."

'Pwysau aruthrol'

Yn ôl Dr Lynch mae'r pwysau ar staff hyd yn oed yn uwch nawr o'i gymharu â'r don gyntaf oherwydd bod ysbytai bellach yn ceisio parhau i ddarparu cymaint o wasanaethau hanfodol a bo modd tra hefyd delio â Covid-19.

Yn y gwanwyn cafodd bron pob triniaeth nad oedd yn rhai brys eu gohirio ar draws y gwasanaeth iechyd.

"Rydyn ni wedi bod yn mynd drwy hyn ers misoedd bellach," meddai.

"Fe gafon ni beth gorffwys yn yr haf ond ro'n ni'n gweithio'n galed iawn i ddal i fyny â'r gwaith arall a oedd wedi'i ohirio yn y don gyntaf.

"Nawr ry'n ni dan bwysau aruthrol oherwydd Covid eto."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Lynch fod staff yn ei huned yn aml yn eu dagrau ar ôl gweld effeithiau'r feirws

Mae Dr Lynch hefyd yn awgrymu fod absenoldeb staff yn bryder cynyddol.

"Mae pawb wedi blino," meddai.

"Rydym i gyd yn byw mewn cymunedau sydd wedi'u cloi, mae ein plant yn cael eu hynysu o'r ysgol, mae llawer o staff wedi'u heintio eu hunain neu'n gorfod ynysu â symptomau neu wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi'i heintio.

"Mae pobl dan straen. Ry'n ni'n gorfod dyblu ein gwaith tra'n gofalu am gleifion Covid a gweddill yr achosion - mae'n ymddangos yn ddiddiwedd."

Yn yr wythnosau diwethaf bu'n rhaid i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddelio â 186 o achosion a 51 o farwolaethau yn gysylltiedig â phobl yn dal Covid-19 yn yr ysbyty.

Am gyfnod ddiwedd mis Medi bu'n rhaid i'r ysbyty gau i gleifion newydd bron yn llwyr, ond mae'r cyfyngiadau hynny bellach wedi'u llacio a chyfraddau heintio - mae'n ymddangos - wedi sefydlogi.

'Cymunedau difreintiedig'

Mae'r ysbyty hefyd yn gwasanaethu cymunedau sydd wedi cofnodi rhai o'r cyfraddau uchaf o drosglwyddo Covid-19 yn y DU.

"Mae'r rhain yn gymunedau difreintiedig lle mae llawer o dlodi," meddai Dr Lynch.

"Cymunedau lle mae teuluoedd yn aml yn byw'n agos iawn at ei gilydd ac yn rhaid gofalu am ei gilydd gartref.

"Felly bydd pobl yn dod allan o'u tai i helpu i ofalu am ei gilydd - maen nhw'n gymunedau clos iawn.

"Yn anffodus, mae hynny'n golygu bod Covid yn lledaenu'n haws a phan fydd pobl yn ei ddal maen nhw yn debygol o fod yn fwy sâl."

Bydd ffigyrau newydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener fydd yn dangos pa mor brysur yw ysbytai Cymru ar hyn o bryd.