Cyfnod clo newydd 'yn berthnasol i Loegr' nid Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae prif weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud fod y cyhoeddiad gan Lywodraeth San Steffan am gyfnod clo newydd "yn berthnasol i Loegr."

Mewn cynhadledd i'r wasg nos Sadwrn fe wnaeth Boris Johnson gyhoeddi fod cyfnod clo cenedlaethol yn dod i rym yn Lloegr am fis, gan ddechrau ddydd Iau.

Bydd ysgolion a cholegau'r wlad yn parhau i fod ar agor i fyfyrwyr dros y ffin, ond bydd disgwyl i fwytai, tafarndai a siopau nad ydynt yn gwerthu nwyddau hanfodol i fod ar gau yn ystod y cyfnod yma.

Roedd prif swyddog meddygol Lloegr, Chris Whitty a phrif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, Syr Patrick Vallance hefyd yn siarad yn ystod y gynhadledd i'r wasg nos Sadwrn.

Ychwanegodd Mr Johnson y bydd y cynllun ffyrlo i weithwyr yn parhau drwy fis Tachwedd yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol yn Lloegr.

Mewn neges ar Twitter amser cinio ddydd Sadwrn, dywedodd Mark Drakeford y bydd y cyfnod clo byr sydd mewn grym yma yng Nghymru yn dod i ben ar 9 Tachwedd.

Ychwanegodd y byddai cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ddydd Sul "i drafod unrhyw broblemau posib ar y ffin ar gyfer Cymru yng ngoleuni unrhyw gyhoeddiad gan Rif 10."

Hyd yma mae cyfanswm o 1,872 o bobl wedi marw yng Nghymru ers dechrau'r haint.

Cafodd 1,301 achos newydd eu cofnodi ddydd Sadwrn ag 13 marwolaeth yn rhagor, ac mae nifer yr achosion positif drwy'r wlad bellach yn 50,872.

Ffynhonnell y llun, Twitter

Disgrifiad o'r llun, Neges Mark Drakeford ar ei gyfrif Twitter ddydd Sadwrn

Fel yn achos y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth, o dan reolau'r cyfnod clo byr Cymreig presennol, mae'n rhaid i bobl aros adref.

Mae'n rhaid cael rheswm dilys i adael eich cartref, sef:

  • prynu bwyd;
  • casglu meddyginiaethau;
  • darparu gofal;
  • ymarfer corff;
  • mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o adref. Mae gweithwyr allweddol yn eithriad i hyn.

Mae'n rhaid parhau i wisgo mygydau mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n parhau ar agor.