Â鶹ԼÅÄ

Gofalwyr Cymru wedi colli cymorth yn ystod Covid

  • Cyhoeddwyd
tynnu llunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofalwyr Cymru yn hynod bryderus wrth iddyn nhw wynebu y gaeaf a Covid, medd Gofalwyr Cymru

Mae nifer o ofalwyr yng Nghymru sy'n gweithio'n ddi-dâl wedi "blino" ac yn galw am ailgyflwyno'r gefnogaeth maen nhw wedi ei golli yn ystod y pandemig.

Dyna'r neges gan un elusen, wrth i waith ymchwil awgrymu fod problemau iechyd meddwl rhai o'r gofalwyr hynny yn cynyddu.

"Mae'r pandemig wedi rhoi pwysau mawr ar ofalwyr yng Nghymru sy'n gofalu am eu hanwyliaid 24 awr y dydd heb gefnogaeth allanol," medd Claire Morgan, cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru.

"Mae gofalwyr yn wirioneddol poeni sut y mae nhw'n mynd i ymdopi yn y gaeaf yn ystod mwy o gyfnodau clo posib a chyfyngiadau llymach."

Mae'r elusen wedi siarad â bron i 600 o ofalwyr yng Nghymru ac mae mwy na thraen ohonynt yn dweud eu bod yn darparu mwy o ofal ers mis Mawrth.

Dywedodd nifer tebyg bod y gwasanaethau lleol roedden nhw'n arfer eu derbyn wedi lleihau neu ddod i stop yn ystod Covid.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau i ofalwyr yn dychwelyd cyn gynted â phosib," ychwanegodd Ms Morgan.

Gofalu yn ystod Covid

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Mae wedi bod yn gyfnod hynod o anodd," medd un ofalwraig

Mae Jean, sy'n 60 oed, yn gwybod llawer am wasanaethau cymdeithasol - roedd hi'n weithwraig gymdeithasol ei hun am 40 mlynedd cyn iddi ymddeol i ofalu am ei merch yn ardal Abertawe.

Mae Branwen, sydd bellach yn 25 oed, yn byw gydag oedi mewn datblygiad sy'n golygu ei bod hi angen gofal a chefnogaeth hirdymor.

"Mae wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i Branwen," meddai ei mam.

"Mae hi'n hynod o ofnus gan ei bod yn gwrando ar y newyddion gyda fi a'r wythnos yma mae hi wedi bod yn crio wedi iddi glywed am farwolaethau Covid."

Cyn Covid dywedodd Jean bod ei merch yn "ddynes ifanc hynod o fywiog" wrth iddi dreulio ei hwythnos mewn canolfannau gweithgaredd neu mewn swydd.

"Wrth gwrs mae hynna wedi dod i ben," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfnod clo ac hunan-ynysu wedi arwain at fwy o broblemau iechyd meddwl - yn enwedig i ofalwyr di-dâl, medd gwaith ymchwil

"Mae e'n gyfnod llwyr o hunan-ynysu gan fod y rhan fwyaf o'r rhai y mae Branwen yn arfer cymdeithasu â nhw hefyd yn bobol ifanc ag anableddau dysgu," ychwanegodd Jean.

Ond mae'r pandemig yn cael effaith ar fywydau rhieni Branwen hefyd wrth iddyn nhw orfod cyflawni mwy o ddyletswyddau gofal.

"Rwy'n teimlo weithiau fel dianc, gan fod hi mor anodd arnom ar adegau," meddai ei mam.

"Yn sicr mae'r cyfan wedi cael effaith ar ein hiechyd meddwl - does dim amheuaeth am hynny."

(Mae enwau Jean a Branwen wedi cael eu newid ar eu cais nhw)

Mae gwaith ymchwil, sy'n cael ei arwain gan dîm o seicolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn dweud fod problemau iechyd meddwl gofalwyr sy'n edrych ôl plant sydd ag anghenion dysgu yn ystod y cyfnod clo 10 gwaith yn fwy na rhieni eraill.

Roedden y gofalwyr hynny hefyd bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi iselder.

Cafodd arolwg 244 o ofalwyr eu dadansoddi ac roedd naw o bob 10 gofalwr yn ferch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad ar asesiadau gofal yn cael ei gynnal yng Nghymru

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar .

Cyn Covid roedd gan berson oedd angen gofal, a gofalwyr hawl gyfreithiol i ofyn i awdurdodau lleol asesu eu hanghenion.

Ond daeth yr hawliau i ben dros dro yn ystod y cyfnod clo cyntaf yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 2 Tachwedd.

Arian ychwanegol

Mae nifer o ofalwyr yn poeni na fydd y gefnogaeth y maen nhw wedi ei cholli ers y pandemig yn dychwelyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £2.6m i sefydliadau gofal yng Nghymru i dalu am brosiectau yn ystod y tair mlynedd nesaf - prosiectau fydd yn helpu gofalwyr i wybod am eu hawliau ac i wella gwasanaethau.

Ychwanegodd llefarydd bod £50,000 wedi cael ei roi i Gofalwyr Cymru er mwyn iddynt ymestyn eu cefnogaeth iechyd meddwl.

Ddydd Mawrth cyhoeddwyd y bydd swm o £1m ar gael ar gyfer caledi ariannol gofalwyr.

Ychwanegodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y gwaith arbennig sy'n cael ei wneud gan ofalwyr yn ystod amgylchiadau anodd y pandemig".

"Ry'n ni wedi darparu cyllid o dros £2.5m i gefnogi gofalwyr a £8.5m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig."