Chwilio am wirfoddolwyr brechlyn Covid-19 yn Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn treialon clinigol ar gyfer brechlyn newydd yn erbyn Covid-19.

Mae brechlyn arbrofol newydd wedi dangos canlyniadau cychwynnol addawol ar lefelau gwrthgyrff mewn gwirfoddolwyr iach, ac nid oes pryderon diogelwch difrifol wedi'u nodi hyd yma medd arbenigwyr.

O ganlyniad mae angen profi'r brechlyn ar raddfa eang ac mae astudiaeth sy'n cynnwys 9,000 o bobl mewn 18 rhanbarth ledled y DU ar gychwyn.

Y nod yw recriwtio gwirfoddolwyr 18-84 oed sy'n byw o fewn 30 milltir i Wrecsam i gymryd rhan yn y treialon.

Bwriad yr astudiaeth yw recriwtio sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth gyfan fel y bydd y mwyafrif o bobl yn addas i dderbyn brechlyn yn y pen draw os bydd yr ymchwil yn llwyddiannus.

Gwirfoddolwyr

Mae'r gwyddonwyr tu ôl i'r astudiaeth newydd yn chwilio'n enwedig am bobl sydd gyda risg uwch o ddioddef effeithiau Covid-19 i gymryd rhan. Gallai hyn fod oherwydd eu hoedran, eu sefyllfa gymdeithasol neu eu hethnigrwydd.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys gwirfoddolwyr yn mynd i safle Ysbyty Wrecsam Maelor chwe gwaith dros gyfnod o tua 13 mis.

Dywedodd Dr Orod Osanlou, Prif Ymchwilydd ar gyfer treial Novavax ac Ymgynghorydd mewn Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rwy'n falch iawn y bydd Wrecsam yn cynnal y treial cyffrous hwn ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd, os dangosir ei fod yn effeithiol, yn llwybr posib allan o'r pandemig.

"Mae'r brechlyn wedi bod drwy brofion Cam 1 a Cham 2 eisoes, sydd wedi dangos ei fod yn ddiogel a byddwn yn annog pobl sy'n byw'n agos at Wrecsam i ystyried cymryd rhan yn yr astudiaeth."

Disgrifiad o'r llun, Bydd angen i'r gwirfoddolwyr fod rhwng 18-84 ac yn byw o fewn radiws o 30 milltir i Wrecsam

'Ymchwil yn hanfodol'

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cydlynu ymchwil ac sefydlu astudiaethau yng Nghymru yn genedlaethol: "Mae ymchwil yn gwbl hanfodol i ddod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer Covid-19, a brechlyn yw'r gobaith mwyaf.

"Mae'r cydweithredu sy'n digwydd ledled Cymru i gyflawni nod cyffredin yn rhyfeddol ac rwy'n falch bod ymchwilwyr yng Nghymru yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ddod o hyd i'r triniaethau mwyaf effeithiol.

"Mae ein cymuned ymchwil a'n staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddod o hyd i ateb parhaol i'r pandemig."