Â鶹ԼÅÄ

Tad yn apelio ar bawb i barchu'r cyfnod clo byr

  • Cyhoeddwyd
Eifion Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eifion Davies yn apelio ar bawb i ddilyn y canllawiau cymdeithasol yn dilyn profedigaeth ei deulu

Ar drothwy'r cyfnod clo byr newydd mae teulu yr aelod cyntaf o'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru i farw o coronafeirws wedi apelio ar bobl i "gadw at y canllawiau".

Roedd Gerallt Davies, 51 oed, yn barafeddyg yng ngorsaf Cwmbwrla ger Abertawe ac yn dad i ddau o fechgyn. Bu farw ar 20 Ebrill yn Ysbyty Treforys.

Fe oedd yr aelod cyntaf o'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru i farw o Covid-19.

Dywedodd ei gydweithwyr bod ei farwolaeth yn "ergyd anferth".

Bu'n barafeddyg am 25 mlynedd, ac yn wirfoddolwr i wasanaeth ambiwlans Sant Ioan am dros 40 mlynedd.

Mewn cyfweliad arbennig ar gyfer rhaglen y Post Cyntaf ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru mae ei dad, Eifion, yn dweud fod y teulu yn hiraethu o hyd, ac yn awyddus i "neud eu gorau i neud popeth gallan nhw i ddiogelu pobol".

Mae e yn apelio ar bawb i ddilyn y canllawiau ac yn diolch i feddygon a nyrsys a "phob un sy yn helpu yn y gwasanaeth iechyd ar daith bywyd".

Wrth ei holi am ei deimladau ynglŷn â'r ymdrechion i ddod o hyd i frechlyn i ddelio gyda'r haint mae'n dweud eu bod yn "gobeithio'r gorau bod pethe yn mynd i wella, a'n bod ni yn gallu gorchfygu'r gelyn yma. Mae hyn yn frwydr".

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gerallt Davies ei anrhydeddu â MBE am ei wasanaeth i'r maes cymorth cyntaf

Ers marwolaeth Gerallt mae Eifion yn dweud fod yr haint presennol yn ei atgoffa o siarad glywodd e gan ei dad am y Ffliw Sbaenaidd wnaeth heintio 500m o bobol, sef tua thraean poblogaeth y byd ar y pryd, yn 1918.

"Ganrif wedyn mae hyn yn digwydd," meddai "gobeithio na welwn ni ddim byd tebyg i hyn eto."

Mae e yn sôn am sut y mae e wedi bod yn edrych ar y ffordd y mae'r haint wedi datblygu dros "bob cornel o'r byd" ac am ei obaith mawr "y bydd pobol yn gallu gochfygu y feirws rhyfedd yma".

Roedd Gerallt yn aelod o'r tîm "first response", gyda'r gwasanaeth ambiwlans ac ar ôl ei farwolaeth fe gafodd ei ddisgrifio gan gydweithwyr fel "arwr". Mae ei dad yn cyfeirio at y gwasanaethau brys yn cysylltu i ddweud eu bod yn "ymfalchïo yn ei waith ai fywyd".

Er yn cyfadde' bod pethe yn "galed" ar y funud i'r teulu, mae yn dweud bod rhaid i'r gwaith pwysig oedd ei fab yn rhan ohono fe barhau.

"Yr unig beth allwn ni fel teulu neud yw gwerthfawrogi ei fywyd, a gwerthfawrogi'r gwaith mae e wedi neud. Mae yn bwysig fod y gwaith yna yn mynd ymlaen, yn parhau."

Fe gafodd y teulu negeseuon o gydymdeimlad o bob cwr o'r byd gan gynnwys Awstralia, America a Sweden. Ond, ochr yn ochr â'r ymateb rhyngwladol, mae yn amlwg fod y negeseuon gan "bobol y Bont", sef ei bentre' ef ei hun wedi bod yn gysur mawr.

"Maen nhw'n galonogol." meddai "ond, fel mae'r rhan fwyaf yn dweud, mae geiriau yn anodd iawn yn y brofedigaeth yma."