Â鶹ԼÅÄ

'Dim cyfyngiadau lleol pan ddaw'r cyfnod clo i ben'

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 15 sir a dwy ardal arall - Llanelli a Bangor - dan gyfyngiadau lleol ar hyn bryd

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi awgrymu mai system o gyfyngiadau cenedlaethol fydd yn cael ei ddefnyddio wedi i'r cyfnod clo byr ddod i ben, yn hytrach na rhai lleol.

Ar hyn o bryd system o gyfyngiadau lleol sydd mewn grym- ond dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles mai'r bwriad ydy cael un set o ganllawiau i'r wlad gyfan o hyn ymlaen.

A chafodd hyn ei danlinellu yn Sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth wrth i Mark Drakeford amddiffyn y penderfyniad i gyflwyno'r cyfnod clo cenedlaethol newydd.

Wrth gyfeirio at yr haint yn ymledu dywedodd Mr Drakeford na allai cyfyngiadau lleol "droi'r llanw yn ôl".

"Mae o'n hawdd i'w amddiffyn (y cyfnod clo cenedlaethol) oherwydd na all yr ymdrechion sydd wedi eu gwneud gan bobl yn yr ardaloedd dan gyfyngiadau lleol lwyddo yn ddigon cyflym i droi yn ôl y llanw coronafeirws fel y mae o ar hyn o bryd yn cyflymu ar draws Cymru," meddai.

Roedd Mr Drakeford yn ymateb i feirniadaeth gan Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Dywedodd Mr Davies nad oedd y llywodraeth wedi gallu cyfiawnhau eu penderfyniad gan ofyn iddynt ryddhau data sy'n dangos fod yr haint yn ymledu o gymuned i gymuned.

Bydd cyfnod clo llym, tebyg i'r un ym mis Mawrth, yn dod i rym yng Nghymru o 18:00 ddydd Gwener nes 9 Tachwedd.

Mae 15 sir a dwy ardal arall - Llanelli a Bangor - dan gyfyngiadau lleol ar hyn bryd.

Cafodd y cyfyngiadau cyntaf eu cyflwyno yng Nghaerffili ar ddechrau Medi, ond does yr un sir wedi llwyddo i adael cyfyngiadau o'r fath hyd yma.

'Rheoliadau symlach, cenedlaethol'

Ychwanegodd Mr Miles y bydd y cyfnod clo llym yn sicr o ddod i ben ar 9 Tachwedd, hyd yn oed os nad ydy'r ffigyrau achosion a marwolaethau wedi gostwng.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun nad oedd yn disgwyl gweld effaith y cyfnod clo llym am rai wythnosau wedi iddo ddod i ben.

"Y bwriad yw sicrhau bod rheoliadau cenedlaethol yn hytrach na phatrwm o reoliadau lleol ar ddiwedd y cyfnod clo byr fydd yn dod i ben ar 9 Tachwedd," meddai Mr Miles ar y Post Cyntaf.

"Hyd yn oed os yw rhifau'r lledaeniad yn cynyddu bydd e yn dod i ben."

Doedd Mr Miles fodd bynnag ddim yn fodlon diystyru ailgyflwyno cyfnodau clo lleol yn y dyfodol chwaith.

"Dwi ddim yn credu y gallwch chi ddweud yn sicr na fydd gwahaniaethau, ond y bwriad yn sicr ydy cael system o reoliadau symlach, cenedlaethol," meddai.

Dywedodd y bydd y Prif Weinidog yn ymhelaethu yn ystod y dyddiau nesaf ar gynlluniau'r llywodraeth ar gyfer y cyfnod wedi i'r cyfnod clo ddod i ben.  Â