Â鶹ԼÅÄ

Grym y gân wrth ddysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Candelas yn chwarae yn Tafwyl nos SadwrnFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa anghyfarwydd ar hyn o bryd - torf fawr yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg fyw: mae dysgu am fiwsig a diwylliant cyfoes yn mynd law yn llaw â dysgu'r iaith

"Dwi'n credu bod caneuon yn dod a lot o bobl at y Gymraeg..."

Yma o Hyd yw hoff gân dysgwyr Cymraeg yn ôl pôl piniwn ar gyfer Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg Radio Cymru.

Daeth yr hen ffefryn i'r brig fel Hoff Gân Gymraeg y Dysgwyr o restr fer o 10 cân oedd wedi eu dewis gan diwtoriaid y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Fe ofynnon ni i bennaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg, Helen Prosser, pa ran sydd gan gerddoriaeth Gymraeg i'w chwarae ar daith pobl tuag at ddysgu Cymraeg?

"Rwy'n credu bod sawl rôl i gerddoriaeth Gymraeg," meddai Helen Prosser.

"Dwi'n credu ei bod yn ddyletswydd arnon ni fel sector i gyflwyno pob agwedd ar ddiwylliant i'n dysgwyr ond mae caneuon yn arbennig o bwysig."

Apêl Yma o Hyd

Mae Yma o Hyd wedi ennill sawl pôl piniwn am hoff gân dros y blynyddoedd ac wedi cyrraedd brig siartiau iTunes ar ddechrau 2020.

Sy'n profi meddai Helen Prosser bod y rhai sy'n dysgu "ddim gwahanol i neb arall!"

"Mae'n anthem ond dyw e!" ychwanegodd.

"Mae'n neges bwerus a chryf bod ni yma o hyd a mae'n amlwg bod dysgwyr yn chwarae rhan mor fawr yn yr ymdrech i adfer y Gymraeg ac adfywio'r Gymraeg felly maen nhw hefyd yn gweld bod y neges honno yn un bwysig."

Rôl miwsig Cymraeg

"Dwi'n credu bod 'na hyn a hyn o ganeuon fel Yma o Hyd neu Calon Lân, mae pobl sydd wedi eu magu'n siarad Cymraeg jyst yn gwybod amdanyn nhw, yn gallu canu nhw. Ac os felly dylen ni fod yn agor y drysau i ddysgwyr allu adnabod nhw hefyd

"Dwi'n gallu sôn o brofiad personol am hyn. Nes i ddysgu Cymraeg yn Nhonyrefail a mynd i'r brifysgol yn Aberystwyth. O'n i'n gallu siarad Cymraeg - o'n i wedi dysgu - ond oedd 'na gagendor diwylliannol yn yr ystyr, pan oedden ni'n mynd i'r Cŵps ar nos Sadwrn, o'n i'n methu ymuno yn Lleucu Llwyd ar y pryd.

"Felly fi wastad wedi teimlo bod e'n bwysig trio cau'r gagendor yna cymaint â phosib fel bod pobl o leia' yn adnabod y caneuon.

"Mae pawb yn licio pan maen nhw'n clywed rhywbeth ar y radio chi'n gallu ymuno a chanu, mae'n creu ryw syniad o berthyn.

"Felly rydyn ni'n cyflwyno caneuon am y rheswm hwnnw yn ein cyrsiau.

"Hefyd rydyn ni'n defnyddio caneuon at ddibenion dysgu geirfa a phatrymau hefyd.

"Felly mae pob math o ddadleuon diwylliannol ac addysgol dros gyflwyno caneuon [wrth ddysgu]."

Cyflwyniad i'r iaith

Mae yna ddysgwyr Cymraeg dros y byd sydd wedi dod at yr iaith ar ôl clywed bandiau neu fiwsig Cymraeg gyntaf, pobl fel Gisella Albertini o'r Eidal, wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl gwirioni gyda Datblygu.

Ydy dysgu am y gerddoriaeth boblogaidd yn helpu i ddod i ddealltwriaeth ddyfnach o'r iaith a'i diwylliant?

Ydy, meddai Helen Prosser, ond nid nes bod dysgwyr yn dod at lefel uwch.

"Rydyn ni'n cyflwyno ambell i gân werin bob hyn a hyn, falle rywbeth fel Meic Stevens, Dwi Eisiau Dawnsio, lle mae 'na ailadrodd patrymau.

"Ond y gwir yw, erbyn bod dysgwyr yn cyrraedd y lefel uwch, pan mae'r holl batrymau yn eu lle, maen nhw'n gallu sgwrsio ar y pwynt yna, wedyn 'dyn ni'n trafod lot ar gefndir a diwylliant ac ati ac mae'r caneuon yn rhan o hynny."

Cafodd pleidlais Hoff Gân Gymraeg y Dysgwyr ei chyflwyno ar Raglen Ifan Evans, Radio Cymru, a'r pum cân ddaeth i'r brig oedd:

1. Yma o Hyd - Dafydd Iwan

2. Sebona Fi - Yws Gwynedd

3. Adra - Gwyneth Glyn

4. Harbwr Diogel - Elin Fflur

5. Dere Mewn - Colorama

Y bum cân arall ar y rhestr oedd Y Cwm, Huw Chiswell; Rebel Wicend, Bryn Fôn; Paid â Bod Ofn, Eden; Llwytha'r Gwn gan Candelas a Dihoeni gan Sŵnami.

Cadw'r Gymraeg 'ar yr agenda'

"Dwi'n credu bod caneuon yn dod â lot o bobl at y Gymraeg, falle unig gysylltiad rhai pobl â'r Gymraeg os ydyn nhw'n byw mewn ardaloedd di-Gymraeg

"Fi'n byw yn Nhonyrefail a fi'n gallu meddwl am gorau yn y pentref lle 'dyw pobl ddim yn siarad Cymraeg ond maen nhw'n canu yn Gymraeg.

"Felly mae'n bwysig iawn cadw'r Gymraeg ar agenda pobl drwy ganeuon."

Mae Yma o Hyd hefyd bellach wedi dod yn anthem y tu hwnt i'r gymuned Gymraeg yn unig, er enghraifft mewn gemau rygbi hefyd.

Amrywiaeth

Bydd y dair cân uchaf ar y rhestr nawr yn cael eu defnyddio yng ngwersi'r Ganolfan.

"Nid dyma fydd diwedd y daith ar gyfer yr hoff ganeuon. Bydd gennym ni Yma o Hyd, Sebona Fi ac Adra, tair cân wahanol iawn, yn cael eu rhoi o fewn gwers," meddai Helen.

"Gobeithio bydd y gystadleuaeth hon yn cael dylanwad: dylanwad a chyflwyno'r diwylliant."

Ac i brofi nad yr anthemau cyfarwydd yn unig sy'n denu dysgwyr, fel gweddill y boblogaeth, fe ofynnodd rhaglen Recordiau Rhys Mwyn ar Radio Cymru i ddysgwyr anfon cais ar gyfer eu hoff gân amgen nhw.

Dewisodd Gareth Thomas o Lanfair ym Muallt Osmosis gan Llwybr Llaethog a Dave R Edwards; International Velvet gan Catatonia oedd dewis Hayley Steed o Essex; aeth Peter Williams o Lundain am Yma gan Blodau Papur a dewisodd Gareth o Abertawe Bydd Wych gan Rhys Gwynfor - digon o amrywiaeth iach!

Hefyd o ddiddordeb: