Â鶹ԼÅÄ

487 o achosion positif newydd Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Test tubesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 487 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf.

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cofnodi pedair marwolaeth newydd o fewn y 24 awr ddiwethaf.

O'r achosion newydd, roedd 60 yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, 143 ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, 96 ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a 67 ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf.

Ond mae'r ffigyrau yn tueddu i fod yn is ar ôl y penwythnos.

Cafodd 10,971 o brofion Covid-19 eu prosesu yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf.

Bellach, mae cyfanswm o 30,608 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru, ac mae 1,673 o'r rheiny wedi marw.