Â鶹ԼÅÄ

'Cymunedau BAME wedi cael eu hesgeuluso'

  • Cyhoeddwyd
Amira Hayat
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amira Hayat am weld mwy o gefnogaeth ar gael yn benodol ar gyfer pobl o gefndir BAME.

Mae pobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) wedi "eu hesgeuluso" yn ystod y pandemig ac mae'r cyfnod clo wedi cael effaith "anghymesur" ar eu hiechyd meddwl, yn ôl elusennau.

Dywedodd Diverse Cymru fod argyfwng Covid-19 wedi tanlinellu "anghydraddoldebau cymdeithasol presennol a bod pobl BAME yn wynebu nifer o rwystrau wrth geisio cael cymorth."

Daw'r sylwadau yn dilyn arolwg gan yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru a edrychodd ar effaith y cyfnod clo gwreiddiol ar iechyd meddwl pobl yng Nghymru.

Canfu fod 74% o bobl rhwng 13 a 24 oed, a 60% o bobl dros 25 oed, yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio.

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Samira Salter fod pobl BAME wedi eu hesgeuluso yn ystod y pandemig

Dywedodd Samira Salter o'r elusen cydraddoldeb Diverse Cymru, fod pobl BAME "wedi eu hesgeuluso yn ystod y pandemig a chyn y pandemig.

"Tai gwael, addysg, cyflogaeth...mae Covid wedi tanlinellu'r anghydraddoldebau sydd wedi bod yno erioed," meddai Ms Salter wrth raglen Politics Wales y Â鶹ԼÅÄ.

Yn ôl Ms Salter roedd ffactorau diwylliannol hefyd yn chwarae rhan gyda rhwystr iaith yn aml yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl BAME gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Ychwanegodd bod "y ffaith bod gan lawer o bobl BAME aelwydydd estynedig - felly mae gennych chi lawer o bobl yn yr un cartrefi - yn achosi problemau, yn enwedig wrth gloi".

Roedd Amira Hayat, sy'n 20 oed o Gaerdydd, yn byw gyda straen a gorbryder cyn y pandemig.

Byddai hi'n ymdopi trwy gadw ei hun yn brysur - cwrdd â ffrindiau a mynd am goffi - ond daeth hynny i gyd i stop gyda'r cyfnod clo.

"Doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw un heblaw fy nheulu agos.

"Unwaith i bopeth ddod i stop, dyna pryd sylweddolai fod gen i ryw fath o broblem iechyd meddwl a gorbryder yn bendant oedd yr un amlycaf.

"Cefais fân ymosodiadau o orbryder - byddwn i'n cau fy hun yn fy ystafell.

'Codi ymwybyddiaeth'

"Doeddwn i ddim wir eisiau siarad ag unrhyw un.

"Byddwn i'n cael cur pen gwael iawn - roedd yn emosiynol iawn ar brydiau."

Mae Amira am weld mwy o gefnogaeth ar gael yn benodol ar gyfer pobl o gefndir BAME.

"Os ydw i'n mynd i agor i fyny i berson sydd, er enghraifft, ddim yn Fwslim pan dwi'n siarad am rai pethau, nid yw'n mynd i wneud synnwyr.

"Felly dwi'n meddwl mai'r prif beth rydw i eisiau codi ymwybyddiaeth arno yw bod angen i bobl o liw a phobl gyda chefndir crefyddol fod yno i helpu pobl fel ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Moseley yn galw ar bleidiau gwleidyddol i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth.

Canfu arolwg Mind Cymru fod y cyfnod clo gwreiddiol wedi cael "effaith anghymesur" ar gymunedau BAME.

Dywed adroddiad yr elusen: "Yn hanesyddol mae pobl o gymunedau BAME wedi brwydro i gael mynediad at wasanaethau cymorth iechyd meddwl mewn modd amserol ac effeithiol.

"Mae'r materion sy'n ymwneud â hyn yn rhagddyddio'r pandemig, ond mae'r sefyllfa yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi miniogi'r ffocws ar yr anghydraddoldebau hyn."

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Sara Moseley: "Rydyn ni'n gwybod o siarad â phobl yng Nghymru bod llawer o bobl y tu ôl i ddrysau caeedig wedi bod yn cael amser anodd.

"Mae yna lawer iawn o bobl allan yna nad ydyn nhw'n iach ac maen nhw naill ai ddim yn gofyn am help, neu dydyn nhw ddim yn cael help ac mae hynny'n gwbl hanfodol i'n dyfodol bod yr help hwnnw ar gael."

Mae Mind Cymru bellach wedi lansio ymgyrch yn annog yr holl bleidiau gwleidyddol a'u hymgeiswyr ar gyfer etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth.

  • Politics Wales, Â鶹ԼÅÄ1 Cymru Wales, 10:00, 11 Hydref