Covid-19: Clybiau brecwast 'gam yn rhy bell' i ysgolion

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae rhedeg clybiau brecwast "gam yn rhy bell" i nifer o ysgolion wrth iddyn nhw geisio ymdopi gydag effeithiau Covid-19, yn ôl un undeb.

Mae NAHT Cymru yn mynnu bod angen gohirio'r ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu brecwastau am ddim i blant cynradd yn ystod y pandemig.

Er bod y clybiau ar agor mewn nifer o ysgolion, dydy'r ddarpariaeth ddim wedi ail-ddechrau mewn rhai ardaloedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru dylai clybiau brecwast weithredu fel arfer oni bai ei fod yn afresymol i wneud hynny.

Mae cynghorau Conwy a Sir Gaerfyrddin wedi dweud bod eu clybiau i gyd ar agor, tra does 'na ddim un wedi ail-ddechrau eto yn awdurdod sir Caerffili.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Lynn Griffiths fod ysgolion am i ddisgyblion a staff i fod yn ddiogel

Yn ôl pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, Lynn Griffiths, mae'n dalcen caled i ailagor y clybiau mewn ffordd sy'n cyd-fynd gyda chanllawiau Covid.

Y tymor diwetha' roedd clwb yr ysgol yn gwasanaethu rhyw 170 o blant ac yn un o'r mwya' yn yr ardal.

"Heb os fyddai pob un pennaeth yn y wlad eisiau cynnig y cyfleuster yma i rieni ond y gwir amdani ydy 'da ni mewn cyfnod anodd iawn a pheryglus iawn gyda'r rhifau Covid yn codi," meddai.

"Cyfrifoldeb y pennaeth a'r corff llywodraethol ydy sicrhau bod y cyfundrefnau yna yn diogelu'r disgyblion sy'n mynychu'r clwb brecwast."

Fe fydd yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod a llywodraethwyr yr ysgol a bwriad Mr Griffiths yw ailagor y clwb wedi hanner tymor ar Dachwedd 2.

'Cam rhy bell'

Ond mae'r pwysau ar ysgolion yn afrealistig yn ôl undeb NAHT Cymru.

Mae Malachy Edwards o'r undeb yn dweud bod nifer o ofynion o fewn ysgolion yn cymhlethu'r sefyllfa.

"Gyda'r cyfyngiadau ar waith o ran arweiniad Llywodraeth Cymru, y swigod ystafell ddosbarth, hefyd y pellhau cymdeithasol, amseroedd cychwyn, yr holl lanhau - y pethau yma mewn ymateb i Covid - da'n ni'n teimlo - nad yw ysgolion yn gallu darparu clybiau brecwast hefyd," meddai.

"Yn y bôn, mae clybiau brecwast yn gam rhy bell i lawer o'n hysgolion ni."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Huw Williams, ei wraig Clare a’u plant Gethin 10 a Gwen 9 oed

Mae Huw Williams yn feddyg teulu yn Nhrelái yng Nghaerdydd ac mae ei wraig Clare yn gweithio i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae eu plant Gethin, 10 oed a Gwen sy'n naw yn mynd i glwb brecwast yn Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd bob bore o 07:30.

Yn ôl Huw, mae'n adnodd gwerthfawr iddyn nhw fel teulu ac maen nhw wedi ei ddefnyddio ers i'r plant ddechrau'r ysgol.

"Fydde Clare a fi ddim yn gallu gwneud ein gwaith heb y clwb brecwast - fydde ni'n gorfod gweithio'n rhan amser neu gael ffordd arall o warchod y plant yn enwedig nawr yn ystod Covid," ychwanegodd Huw.

"Dan ni ddim yn gallu dibynnu ar ein rhieni achos ma' nhw'n hen a hefyd 'da ni ddim yn gallu cymysgu gyda chartrefi eraill - felly mae'n amhosib gwneud unrhyw ffordd arall."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod sicrhau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn rhan bwysig o'i gwaith ehangach i wella bwyd a maeth mewn ysgolion.

"Dylai clybiau brecwast weithredu fel arfer mewn ysgolion cynradd, oni bai ei fod yn afresymol i wneud hynny," dywedodd llefarydd.

"Rydym wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer ysgolion a bydd angen i awdurdodau lleol ystyried iechyd a diogelwch disgyblion a staff wrth ddarparu brecwast mewn ysgolion, gan gynnwys gofynion ymbellhau cymdeithasol."