Cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl syrthio i afon yng Ngwynedd

Disgrifiad o'r llun, Y gwasanaethau brys yn Abergwyngregyn brynhawn Mawrth

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn lleol fu farw ar ôl syrthio i afon yn Abergwyngregyn yng Ngwynedd ddydd Mawrth.

Roedd Alun Owen, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Al Bonc, yn 32 oed ac yn gweithio fel peiriannydd i gwmni Openreach.

Mewn datganiad brynhawn dydd Mercher, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod yr ymdrech i'w achub wedi dechrau ychydig cyn 16:00 ddydd Mawrth, yn dilyn adroddiadau fod gweithiwr BT wedi ei gipio gan gerrynt yr afon.

"Yn anffodus, er holl ymdrechion y timau achub, cafodd corff dyn lleol 32 oed ei ddarganfod am 19:14," meddai datganiad yr heddlu.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: "Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr y peiriannwr ar yr amser hynod anodd yma, ac hoffwn ofyn fod eu preifatrwydd yn cael ei barchu gan y cyfryngau yr adeg hwn."

'Aelod poblogaidd iawn o'r tîm'

Roedd aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a thîm Gwylwyr y Glannau hefyd wedi bod yn chwilio nos Fawrth.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cydweithio gyda'r heddlu "i geisio deall beth arweiniodd at farwolaeth dyn lleol oedd yn uchel ei barch".

Mae crwner gogledd orllewin Cymru, Dewi Pritchard wedi ei hysbysu am y farwolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Openreach eu bod mewn sioc ac wedi eu tristau o glywed am farwolaeth Mr Owen.

"Roedd Alun yn aelod poblogaidd iawn o'r tîm ac roedd wedi bod yn gweithio fel peiriannydd dros ogledd Cymru ers pum mlynedd," meddai Clive Selley, Prif Weithredwr Openreach.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Alun."

Ychwanegodd bod y cwmni'n cydweithio gyda'r heddlu wrth iddyn nhw ymchwilio i'r digwyddiad.