Â鶹ԼÅÄ

Y Swyddfa Gartref yn ymddiheuro i bobl Penalun

  • Cyhoeddwyd
Nwyddau
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymgeiswyr lloches ddechrau cyrraedd y safle ddiwedd Medi

Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymddiheuro i drigolion Penalun ger Dinbych-y-pysgod am beidio â chysylltu â nhw cyn addasu gwersyll hyfforddi milwrol yn gartref dros dro i ymgeiswyr lloches.

Gwnaed yr ymddiheuriad mewn cyfarfod cymunedol arbennig oedd wedi ei drefnu ar-lein gan Gyngor Sir Benfro.

Roedd aelodau'r cyhoedd wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau o flaen llaw i banel oedd yn cynnwys yr AS lleol Simon Hart, y bwrdd iechyd lleol a chynrychiolydd o'r Swyddfa Gartref.

Yn ystod y cyfarfod ar-lein, roedd yna gadarnhad y bydd ceiswyr lloches yn aros ar y safle ym Mhenalun am hyd at 12 mis, cyn i'r safle gael ei drosglwyddo nôl i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe wnaeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, hefyd gadarnhau fod yna drafodaethau yn cael eu cynnal i geisio mwy o arian ar gyfer gwasanaethau ar y safle.

Ond doedd hi ddim yn glir o'r cyfarfod a oedd yna unrhyw arian ychwanegol ar gael.

Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau wedi eu cynnal o blaid ac yn erbyn y defnydd o'r safle ar gyfer ymgeiswyr lloches

Dywedodd Deborah Chittenden un o swyddogion y Swyddfa Gartref eu bod wedi gweithredu yn gyflym oherwydd "angen brys" i ddarparu llety addas i ymgeiswyr lloches.

Dywedodd fod "rhain yn bobl gyffredin, rhai gydag addysg dda. Dyw nhw ddim yn droseddwyr," meddai.

"Roedd angen defnyddio'r safle hwn - roedd angen gweithredu'n gyflym yn wyneb angen brys i gefnogi ymgeiswyr lloches oedd yn ddigartref."

Plismona'r ardal

Dywedodd y cynghorydd sir lleol Jon Preston fod y safle yn anaddas a bod y gymuned wedi cael ei "diystyru yn llwyr".

Roedd ef am gael rhyw fath o iawndal i'r ardal.

Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am ddiogelwch fod yna dîm o swyddogion yn barhaol ar y safle, a bod yna gyrffiw o 22:00 mewn grym.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Anthony Evans o Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i droseddau ddigwyddodd yn ystod protestiadau diweddar ar y safle, a bod adnoddau plismona ychwanegol yn cael eu darparu, gan gynnwys plismona pentre' Penalun.