Abergwyngregyn: Yr heddlu'n dod o hyd i gorff dyn mewn afon

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Abergwyngregyn brynhawn Mawrth

Mae corff dyn wnaeth syrthio i afon yn Abergwyngregyn wedi cael ei ganfod.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 16:00 ddydd Mawrth.

Roedd aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a thîm Gwylwyr y Glannau wedi bod yn chwilio.

Dywedodd y tîm achub mynydd eu bod wedi cael eu galw yn dilyn adroddiadau bod peiriannydd ffôn wedi disgyn i'r afon.

Yn ôl yr heddlu cafodd corff y dyn ei dynnu o'r dŵr toc cyn 19:45 nos Fawrth.

Mae ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, James Brown

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth yr afon orlifo yn Abergwyngregyn ddydd Sul yn dilyn glaw trwm

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Alun Oldfield: "Mae ein cydymdeimlad twymgalon gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anhygoel o anodd yma.

"Mae ymchwiliad bellach ar y gweill i sefydlu beth ddigwyddodd."

Ddydd Sul, fe wnaeth cartrefi ddioddef llifogydd am yr eildro eleni yn Abergwyngregyn ar ôl i afon orlifo yn dilyn glaw trwm.

Yn gynharach ddydd Mawrth, roedd cynghorwyr Plaid Cymru wedi gofyn am gyfarfod brys i drafod y llifogydd.