Gwahaniaethau gwersi ar-lein yn 'annheg i blant'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai plant wedi gorfod mynd adref i hunan-ynysu'r tymor hwn gan fod rhywun yn eu "swigen ysgol" wedi profi'n bositif i Covid-19

Mae'n rhaid gwella'r ffordd mae plant yn cael eu dysgu ar-lein os oes yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu o ganlyniad i achos positif o Covid-19 yn eu dosbarth meddai grŵp o rieni.

Mae astudiaeth wedi awgrymu mai Cymru oedd â'r ddarpariaeth isaf o wersi ar-lein ledled yn y DU pan gafodd ysgolion eu cau yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol.

Dywedodd un rhiant wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod eu plant yn cael "nesaf peth i ddim" i'w wneud gartref yn ystod tymor yr haf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyngor dysgu o bell i ysgolion.

Mae hyn yn cynnwys arweiniad ar ffrydio byw a chynadledda fideo, meddai, ond mater i lywodraethwyr a phenaethiaid ysgolion oedd penderfynu beth oedd y cyfuniad cywir o ddysgu i'w disgyblion.

Ers dechrau'r tymor ysgol ym mis Medi mae dwsinau o ysgolion wedi gorfod anfon dosbarthiadau adref am bythefnos yn dilyn prawf Covid-19 positif.

Yn ystod yr haf, soniodd rhieni ledled y DU am eu "uffern" wrth geisio addysgu o adref, gyda rhai yn eu dagrau wrth iddyn nhw geisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwaith ac addysg eu plant.

Dywedodd un grŵp, 'Llais Rhieni yng Nghymru', eu bod eisiau i gymaint o blant a phosib aros yn yr ysgol, ond bod angen mynd i'r afael â'r gwahaniaeth sydd yn y ddarpariaeth dysgu o bell rhwng ysgolion ledled Cymru.

Ffynhonnell y llun, Ceri Reed

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Ceri Reed mae rhai ysgolion wedi llwyddo yn well nac eraill i ddarganfod y cyfuniad cywir o ddysgu

Dywedodd trefnydd y grŵp Ceri Reed: "Ein gobaith ydy, os bydd yna gyfnod clo arall, y bydd gwersi rhithwir dan arweiniad athrawon yn gallu dechrau ar unwaith.

"Yr hyn rydyn ni eisiau ei osgoi ydy dysgu ar-lein heb unrhyw ryngweithio gyda athrawon.

"Rydyn ni eisiau rhyngweithio dyddiol rhwng yr athro a'r disgyblion. Bydd hyn hefyd yn helpu dysgwyr ag anghenion ychwanegol, sef o leiaf 23% o'r holl ddysgwyr.

"Dros dymor yr haf, fe dderbyniodd rhai plant waith ar-lein; roedd y rheiny a oedd yn derbyn gwersi rhithwir yn y lleiafrif.

"Mae rhai ysgolion yn ymdopi'n well â dysgu yn y dosbarth ac ar-lein. Yr hyn rydyn ni ei eisiau ydy atal unrhyw wahaniaethu rhwng y ddarpariaeth o ysgol i ysgol.

'Disgwyliadau isel'

Dywedodd un rhiant, a oedd yn gweithio gartref trwy'r cyfnod clo gyda dau blentyn oed uwchradd, wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru nad oedd eu hysgol yn darparu fawr ddim ar eu cyfer dros dymor yr haf a bod ganddyn nhw "ddisgwyliadau isel".

"Roedden nhw'n tybio bod pawb yn wynebu anawsterau digidol. Nid oedden nhw'n darparu ar gyfer plant a allai weithio ac a oedd eisiau gwneud hynny," meddai.

"Cafodd rhywfaint o waith ei uwch-lwytho, ond nid oedd unrhyw ddysgu byw ar-lein, lle'r oedd y mwyafrif yr ysgolion sy'n talu ffioedd yn ei ddarparu.

"Fe fyddai wedi bod yn fwy effeithiol tase'r rhagdybiaeth wedi bod y gallai pawb gael mynediad ar-lein.

"Ac fe allen nhw fod wedi mynd i'r afael â'r holl fesurau diogelwch o amgylch ffrydio byw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae ysgolion yn gwneud eu gorau, meddai un undeb athrawon, ond ni fydd gan rai plant fynediad i gyfrifiadur neu dabled

Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Choleg Cymru, fod ysgolion yn gweithio'n anhygoel o galed ar gadw'r amgylchedd dysgu yn ddiogel ac yn agored.

"Mae'n dipyn o her darparu addysg o bell yn ogystal â darparu addysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond serch hynny, mae ysgolion yn gwneud eu gorau glas yn hyn o beth," meddai.

"Maen nhw wedi dysgu llawer o'r heriau fu'n ei wynebu yn ystod tymor yr haf, ac rydyn ni nawr mewn lle llawer gwell nag yr oeddem ni'n ôl ym mis Mawrth."

Fodd bynnag, dywedodd nad oedd modd sicrhau llwyddiant dysgu o bell bob tro oherwydd nad oedd gan bob plentyn fynediad at ddyfais, cysylltiad rhyngrwyd da na thawelwch i weithio ynddo.

Ychwanegodd y byddent yn hapus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi ble a sut i ddarparu cefnogaeth orau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe awgrymodd astudiaeth yn yr haf nad oedd y mwyafrif o blant ysgol yng Nghymru yn cael gwersi ar-lein byw dyddiol na chyfarfodydd rhithiol

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian, mai'r flaenoriaeth oedd cadw ysgolion ar agor, ond os mai dysgu o bell oedd yr unig opsiwn "rhaid sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael mynediad o bell, ffrydio gwersi yn fyw, a chael chyswllt rheolaidd rhwng yr ysgol a'r holl ddisgyblion".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu arweiniad i ysgolion a chynghorau i'w helpu i sicrhau bod plant sydd yn methu mynychu'r ysgol oherwydd Covid-19 yn gallu parhau i ddysgu gartref.

"Ers mis Medi, mae athrawon ledled Cymru wedi creu dros 25,000 o ystafelloedd dosbarth digidol trwy'r platfform ar-lein, Hwb, sy'n fwy na'r cyfanswm a grëwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol," meddai.

"Trwy'r ystafelloedd dosbarth digidol hyn, mae athrawon yn cyflwyno ystod o weithgareddau dysgu cyfunol sydd hefyd yn cefnogi dysgwyr sy'n ynysu gartref.

"Rydyn ni hefyd wedi darparu 9,717 o drwyddedau meddalwedd ar gyfer dyfeisiau digidol i alluogi dysgwyr i gael mynediad at ddysgu ar-lein a 10,848 o ddyfeisiau Mi-Fi i gael cartrefi ar-lein."