Oedi llawdriniaethau ysbyty wedi wyth marwolaeth Covid

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid cau dwy ward yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wythnos yn ôl wedi 34 achos o Covid-19

Mae llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu o flaen llaw wedi eu hatal dros dro mewn ysbyty er mwyn ceisio ymdopi gyda chynnydd mewn achosion o coronafeirws.

Bydd cleifion fyddai fel arfer yn cael eu cludo i'r adran frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg hefyd yn cael eu hasesu mewn lleoliad arall fel rhan o'r cynllun.

Mae wyth o farwolaethau ac 82 achos o'r coronafeirws wedi eu cysylltu gyda'r ysbyty yn ardal Rhondda Cynon Taf - sy'n ardal dan gyfyngiadau lleol ar hyn o bryd.

Mae'r marwolaethau wedi digwydd yn ystod cyfnod y cynnydd mewn achosion yn ddiweddar, ac felly ddim eto wedi cael eu hadlewyrchu yn ffigyrau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae nifer y cleifion Covid sydd yn yr ysbyty wedi cynyddu 60% yn yr wythnos ddiwethaf, gyda 550 bellach ar wardiau am resymau'n ymwneud â'r feirws, meddai pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae'r gweinidog iechyd wedi dweud bod staff yn yr ysbyty nawr yn cael eu profi yn gyson oherwydd y clwstwr o achosion.

Daeth y mesurau dros dro yn dod i rym am 14:00 ddydd Mercher.

Dim ond nifer fach o lawdriniaethau canser brys fydd yn digwydd yn yr ysbyty am y tro, tra bydd yr adran damweiniau ac achosion brys yn aros ar agor i gleifion sydd yn cerdded i mewn yno.

Bydd canolfan genedigaethau Tirion ar gau tan 5 Hydref.

Bydd achosion argyfwng yn cael eu cludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful neu Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Daw'r camau diweddaraf yn dilyn cau dwy ward yn yr ysbyty yr wythnos diwethaf.

'Camau cyflym a phendant'

Dywedodd Paul Mears, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn cydnabod y pryder y bydd y newidiadau dros dro hyn yn achosi ac fe hoffem sicrhau ein cleifion a'n cymunedau mai rheoli'r achosion hyn yw ein blaenoriaeth.

"Mae ein timau'n parhau i weithio i gymryd yr holl fesurau angenrheidiol i gyflawni hyn, ac rydym wedi cymryd ystod o gamau cyflym a phendant i geisio rheoli'r sefyllfa."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb i'r newyddion am y sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, dywedodd aelod lleol y Senedd Mick Antoniw a'r aelod seneddol lleol Alex Davies-Jones mewn datganiad ar y cyd:

"Rydym yn bryderus iawn am yr achos sylweddol yma o heintiadau Covid-19 yn ein hysbyty leol.

"Yn anffodus mae'r achosion yn adlewyrchiad o'r cynnydd mewn nifer yr achosion yn Rhondda Cynon Taf yn gyffredinol ac rydym y deall y bydd pobl leol yn bryderus iawn am y datblygiad yma."

Ychwanegodd y ddau eu bod yn bwriadu cyfarfod swyddogion o'r bwrdd iechyd i drafod y sefyllfa.

'Cwestiynau am brosesau'

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid yn y Senedd, y Ceidwadwr Andrew RT Davies fod y sefyllfa yn hynod bryderus "yn enwedig gan fod llawer o'r achosion ychwanegol wedi eu cysylltu gyda throsglwyddiad o fewn yr ysbyty, ac felly rhaid gofyn cwestiynau am brosesau a phrotocol".

Ychwanegodd fod y sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar yr olwg gyntaf yn debyg i'r cynnydd mewn achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Gorffennaf.

"Ar y pryd fe gyfaddefodd y gweinidog iechyd y gellid fod wedi rheoli'r sefyllfa honno'n well. Roeddem wedi gobeithio y byddai gwersi wedi eu dysgu, ond mae'n ymddangos nad ydynt.

"Rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru sicrhau fod pob elfen yn cael eu hymchwilio gan gynnwys defnyddio ysbytai maes a'r defnydd o ysbytai 'Covid ysgafn' yn y rhanbarth i helpu ysgafnhau'r pwysau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac i ddiogelu cleifion a staff."Â