Clwb Bowlio'n derbyn gorchymyn cau Covid yn Sir Gâr

Ffynhonnell y llun, Geograph/Jaggery

Disgrifiad o'r llun, Clwb Bowlio Pen-bre a Phorth Tywyn

Mae clwb bowlio ymysg chwe safle sydd wedi'u cau ar draws Sir Gaerfyrddin mewn ymgyrch gan y cyngor lleol yn erbyn torri rheolau coronafeirws.

Mae swyddogion trwyddedu'r cyngor wedi cyflwyno hysbysiadau cau i Glwb Bowlio Pen-bre a Phorth Tywyn am 14 diwrnod wedi i'r clwb gynnal digwyddiad yno.

Daw hyn yn dilyn achos yn Sir Gaerfyrddin pan gafodd 14 o bobl eu heintio gyda Covid-19 ar ôl noson wobrwyo yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Drefach ddiwedd Awst.

Yn ogystal â chau'r clwb bowlio, mae swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd wedi cyflwyno hysbysiad cau i Infinity Bar yng Nghaerfyrddin am saith diwrnod, hysbysiadau cau am 48 awr i'r Railway Hotel yn Rhydaman, Clwb Lles Glowyr Rhydaman a'r Cylch, a'r Golden Lion Hotel yng Nghaerfyrddin.

Mae hysbysiadau gwella hefyd wedi cael eu cyflwyno i safleoedd sy'n eu cynghori i weithredu neu wynebu canlyniadau tebyg.

Cynnig 'cyngor a chymorth'

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd: "Drwy gymryd y camau hyn, rydym yn ceisio cadw ein cymunedau yn ddiogel. Rydym wedi bod yn ymweld â busnesau ledled Sir Gaerfyrddin ers sawl wythnos gan gynnig cyngor a chymorth, ac rydym yn falch iawn o weld faint o safleoedd sydd wedi rhoi systemau ar waith sy'n cadw pobl yn ddiogel.

"Fodd bynnag, rydym yn siomedig bod nifer o safleoedd yn methu â chymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a dim ond yn yr achosion gwaethaf rydym wedi cymryd camau ar unwaith i'w cau er mwyn diogelu ein cymunedau ac fel bod y perchnogion yn gallu rhoi'r systemau a'r rheolaethau ar waith y mae'r rhan fwyaf o safleoedd wedi eu gweithredu'n llwyddiannus.

"Er ein bod wedi tynnu sylw at ein camau gweithredu dros y penwythnos, bydd ein hymweliadau'n parhau mewn trefi ac ardaloedd gwledig ac rydym yn annog busnesau i sicrhau bod y gweithdrefnau cywir ar waith ac yn cael eu rheoli'n briodol i osgoi cymryd camau."

Disgrifiad o'r llun, Clwb Criced a Phêl-droed Drefach yn Sir Gaerfyrddin - tarddiad yr achos o heintio cymunedol wedi noson wobrwyo yno

Rhaid i bob tafarn a chlwb sicrhau:

  • bod system Profi, Olrhain, Diogelu ar waith i gofnodi'n gywir bob ymweliad â'r safle fel y gellir cysylltu â chwsmeriaid yn hawdd os bydd achos cadarnhaol yn gysylltiedig â'r lleoliad.
  • y cedwir pellter cymdeithasol, a bod digon o arwyddion, pellter rhwng byrddau a seddau, a gweithdrefnau ar gyfer rheoli llwybrau a thoiledau
  • nad yw cwsmeriaid yn yfed a sefyll wrth y bar
  • nad yw cwsmeriaid yn yfed alcohol wrth sefyll, oni bai eu bod yn sefyll wrth fwrdd tal - ym mhob achos arall rhaid iddynt eistedd
  • nad oes cerddoriaeth fyw, ac mai dim ond cerddoriaeth gefndir isel wedi ei recordio sydd yn cael ei chwarae

Ychwanegodd y Cynghorydd Philip Hughes: "Byddwn hefyd yn ailymweld â'r safleoedd y mae angen eu gwella er mwyn sicrhau bod ein cyngor wedi'i ystyried a'i roi ar waith.

"Mae cyflwyno hysbysiad cau bob amser yn ddewis olaf - byddai'n llawer gwell gennym fynd i safle a'i weld yn gweithredu'n ddiogel - ond lle mae gennym bryderon difrifol, ni fyddwn yn oedi cyn rhoi diogelwch yn gyntaf."