Â鶹ԼÅÄ

Galw am gyfnodau clo lleol wrth i achosion gynyddu

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ardal bwrdeistref Caerffili ei roi mewn cyfnod clo yr wythnos ddiwethaf

Dylai Cymru ddefnyddio cyfnodau clo lleol iawn er mwyn osgoi cyfnod clo cenedlaethol dros y gaeaf, medd Plaid Cymru.

Yn ddiweddarach dydd Mawrth, bydd Llywodraeth Cymru'n amlinellu cynllun i ddelio gyda coronafeirws dros fisoedd y gaeaf.

Yn ôl Plaid Cymru, gellir cloi ardaloedd bychain o gwmpas clwstwr o achosion yn hytrach na chloi ardal awdurdod lleol cyfan.

Caerffili oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gael cyfnod clo lleol yr wythnos ddiwethaf.

Ddydd Mawrth bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn cyhoeddi cynllun gwarchod y gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd hynny'n cynnwys mwy o welyau, newid y modd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu ac ehangu cynllun brechu rhag y ffliw.

Yn y gynhadledd newyddion ddydd Llun, rhybuddiodd Mr Gething am y risg o gyfnod clo cenedlaethol arall os na fydd y cyhoedd yn parchu rheolau pellter cymdeithasol yn well.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Awgrymodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, "gynllun deg pwynt" ar gyfer coronafeirws sy'n cynnwys cyfnodau clo clyfar - sy'n cael eu defnyddio mewn gwledydd fel Pacistan - gyda chyfnodau clo lleol iawn wedi'u targedu gyda phecyn cefnogaeth economaidd.

Dywedodd Mr Price: "Os na fyddwn yn gweithredu, yna fe allai'r gaeaf droi yn ail don sydd hyd yn oed yn waeth na'r cyntaf a gyda dim dewis ond cyflwyno ail gyfnod clo cenedlaethol llawn."

Mae'r blaid hefyd yn annog pawb i gadw cofnodion cyswllt, gyda chefnogaeth ap ffôn clyfar, a phrofi unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda chleifion coronafeirws ond sydd ddim yn dangos symptomau eu hunain.

Maen nhw hefyd yn galw am brofion poer cyflym, canllawiau cenedlaethol am wisgo mygydau mewn ysgolion a gwell defnydd o systemau awyru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ein system olrhain cysylltiadau yn ein cynorthwyo i adnabod achosion a llwybrau heintio yn gyflym ac yn caniatáu i ni ymateb yn gyflym.

"Rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol yn ardal bwrdeistref Caerffili mewn ymateb i gynnydd sydyn yn yr ardal, a chyfyngiadau cenedlaethol newydd i arafu ymlediad yr haint wedi i ni weld cynnydd yn nifer yr achosion ar draws Cymru.

"Mae awdurdodau lleol hefyd yn cymryd camau lleol wedi'u targedu.

"Fel y dywedodd y prif weinidog ddydd Gwener, mae'r sefyllfa yn newid yn gyflym, ac mae gennym ffenest fach i weithredu er mwyn atal argyfwng coronafeirws arall yng Nghymru.

"Mae angen help pawb yn y wlad er mwyn gwneud hynny."