Ofnau bydd llai o brofion yng nghartrefi gofal y gogledd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed penaethiaid gwasanaethau cymdeithasol eu bod yn hynod bryderus am gynlluniau i gynnal profion Covid-19 yn llai aml yng nghartrefi gofal y gogledd.

Ar hyn o bryd mae preswylwyr a staff yn cael eu profi bob wythnos ond deallir ei bod yn fwriad newid a phrofi bob pythefnos.

Mae e-bost sydd wedi cael ei anfon ar ran rheolwyr sawl sir yn dweud bod hi'n rhy gynnar eto i fwrw ymlaen â chynllun o'r fath gan y gallai "Cymru fod yn wynebu ail don" o'r haint.

Mae'r Aelod o Senedd Cymru Ceidwadol, Darren Millar wedi beirniadu'r cynllun, ond dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd camau i wella adnoddau profi.

'Cwbl annerbyniol'

Mewn e-bost sydd wedi cael ei weld gan y Â鶹ԼÅÄ, mae Nicola Stubbins, cyfarwyddwr corfforaethol cymunedau yng Nghyngor Sir Ddinbych yn dweud: "Credwn fod clystyrau o brofion positif bob yn ail ddiwrnod ac fe fyddai'n gamgymeriad newid y drefn bresennol".

Mae'n cyfeirio at raddfa gronnus (cumulative rate) uchel y gogledd a nodir bod angen ystyried agosrwydd rhannau o'r gogledd i ardaloedd yn Lloegr lle mae cyfyngiadau lleol dros dro wedi'u cyflwyno.

Mae'n ychwanegu y byddai cryn bryder ymysg gwleidyddion lleol petai llai o brofion yn cael eu cynnal a hynny wrth i fwy o achosion o'r haint gael eu trosglwyddo o fewn cymunedau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed gwleidyddion Ceidwadol yn y gogledd mai mwy o brofion sydd angen yn y rhanbarth, nid llai.

"Mae'n gwbl annerbyniol cael llai o brofion, yn enwedig mewn cartrefi gofal," meddai Darren Millar AS.

"Rwy'n flin bod llai o adnoddau yn y gogledd ar draul mwy o brofion yn ne Cymru.

"Ddylai pobl gogledd Cymru ddim fod yn wynebu unrhyw risg wrth i Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ganoli adnoddau yn ne Cymru."

Mae Mr Millar wedi annog Llywodraeth Cymru i "waredu eu cynlluniau a sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad i brofion - a hynny yn ôl y galw".

Dywedodd hefyd bod yn rhaid i ganlyniadau'r profion hynny gael eu prosesu yn fuan.

'Symud adnoddau i labordai yng Nghymru'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod trafferthion yn parhau o fewn labordai Goleudy Llywodraeth y DU, sy'n gwasanaethu pob rhan o'r DU, a'u bod yn cymryd camau i wella'r capasiti.

"Mae angen ateb brys a chynaliadwy i'r trafferthion sy'n dal yn effeithio ar system y labordai Goleudy a byddwn yn parhau i bwyso am y gwelliannau yma," meddai llefarydd.

"Rydym wedi buddsoddi er mwyn cryfhau ein capasiti profi ac rydym yn cymryd camau brys i symud adnoddau profi i labordai yng Nghymru i gynyddu'r capasiti trwy'r unedau profi symudol tra bo Llywodraeth y DU yn datrys trafferthion y system Goleudy."