Cynnydd arall wrth i Gaerffili gael ei osod dan gyfnod clo

Ffynhonnell y llun, Wales news service

Disgrifiad o'r llun, Sir Caerffili ydy'r ardal gyntaf yng Nghymru i wynebu cyfnod clo lleol

Mae cyfyngiadau newydd wedi dod i rym yn Sir Caerffili yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o coronafeirws yno.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mawrth fod 150 o achosion newydd o'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru - gyda 44 o'r rhain yn Sir Caerffili.

Daw'r cynnydd cenedlaethol wrth i'r gweinidog iechyd Vaughan Gething ddweud na fyddai'n oedi rhag gosod mesurau tebyg mewn ardaloedd eraill pe bai angen.

Dywedodd fod y mesurau yng Nghaerffili, a ddaeth i rym am 18:00, yn dangos fod yna oblygiadau i dorri'r rheolau.

"Fe allai mesurau ddod mewn rhannu arall o Gymru os rydym yn gweld yr un patrwm," rhybuddiodd yn ystod cynhadledd y wasg wythnosol Llywodraeth Cymru.

Doedd yna ddim rhagor o farwolaethau ddydd Mawrth, gan olygu fod cyfanswm y marwolaethau yn aros ar 1,597.

Roedd yna 17 o achosion yn Rhondda Cynon Taf, 15 yng Nghaerdydd, 11 yr un ym Merthyr a Chastell-nedd Port Talbot ac wyth ym Mhen-y-bont.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaeth y cyfnod clo i rym yng Nghaerffili am 18:00

Bydd y cyfnod clo lleol yn Sir Caerffili yn parhau tan o leiaf mis Hydref, yn ôl y gweinidog iechyd, ac y gallai unrhyw un sy'n anwybyddu'r cyfyngiadau wynebu dirwy.

Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn na gadael y sir heb reswm "rhesymol".

Hefyd bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo mygydau mewn siopau, a bydd pobl ond yn cael cyfarfod eraill o du allan i'w teuluoedd yn yr awyr agored.

Yn ôl Mr Gething mae Heddlu Gwent wedi ei gwneud yn glir y byddan nhw'n plismona'r "mesurau arhoswch yn lleol" yng Nghaerffili.

Galwodd ar bobl i ddilyn y rheolau ac i "beidio ein gorfodi ni i gymryd camau o orfodaeth".

Dywedodd Mr Gething bod y dystiolaeth yn awgrymu na fydd newid sylweddol am "o leiaf dwy neu dair wythnos", a bod disgwyl i'r gyfradd achosion gynyddu yn y dyddiau nesaf "gan fod trosglwyddiad yn y gymuned eisoes wedi digwydd".

"Alla' i ddim gor-ddweud difrifoldeb y sefyllfa 'da ni ynddi," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Roedd rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu, medd Vaughan Gething, er y siom tebygol i bobl y sir

Wrth ymateb i gwestiwn pam fod pobl dal yn cael mynd i dafarndai yng Nghaerffili, dywedodd Mr Gething nad oedd y data yn dangos mai hynny oedd y broblem.

"Nid yw'n ffactor wrth drosglwyddo ar hyn o bryd," meddai.

Ond rhybuddiodd nad oedd "am eu gweld yn dod yn ffactor real ac felly gorfod cau busnesau unigol neu'r sector gyfan".

Mewn ymateb i'r cynnydd, mae'r bwrdd iechyd lleol hefyd yn agor canolfan profi gyrru drwodd ym mhencadlys y cyngor sir yn Ystrad Mynach o ddydd Mawrth ymlaen.

Daeth cyhoeddiad ddydd Llun wedi i 98 o brofion coronafeirws positif gael eu cofnodi yn yr ardal mewn wythnos.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y sir â'r gyfradd uchaf o achosion yng Nghymru - 55.4 i bob 100,000 o'r boblogaeth - ac un o'r cyfraddau uchaf drwy'r DU.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd canolfan brofi dros dro ei sefydlu ar dir Canolfan Hamdden Caerffili mewn ymateb i'r cynnydd lleol yn nifer achosion Covid-19

"Dyw'r cyfyngiadau newydd ddim yn syndod," meddai'r cynghorydd sir John Roberts, sy'n cynrychioli ardal Cwm Aber ar Gyngor Caerffili.

"'Dan ni wedi bod yn bryderus am ddyddiau ac yn hanner disgwyl i'r peth ddigwydd.

"'Dan ni eisiau i'r gymuned gael ail fywyd wrth gwrs ond gofal piau hi yn y diwedd - a rhaid cael y cyfyngiadau yma er mwyn cadw y rhai sy'n dioddef, y rhai sy'n fregus ac yn wan yn ddiogel.

"Weithiau mae'n rhaid cymryd cam yn ôl er mwyn cymryd dau gam ymlaen ar gyfer y dyfodol - mae'n bechod ond synnwyr cyffredin yw e yn y pen draw."

'Mae isio bwrw lawr 'to'

Mae Dr Alun Edwards yn feddyg teulu yn y dref, ac mae hefyd yn gweithio ddiwrnod yr wythnos i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac wedi bod yn gwneud trefniadau i ddelio â'r pandemig.

Dywedodd wrth Post Cyntaf fod ei feddygfa ei hun "tipyn bach yn fwy fishi" yn yr wythnos diwethaf.

"Mae'n amlwg bod pethe wedi dechre newid," meddai. "Dwi'n credu bod e yn synhwyrol i neud trefniade a dechre meddwl fel allwn ni lleihau'r nifer achosion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae tua 180,000 o bobl yn byw o fewn ffiniau Sir Caerffili

Mewn ymateb i'r awgrym fod y feirws yn lledu am fod pobl wedi ymlacio gormod wrth gymdeithasu mwy, dywedodd: "Mae wedi bod yn 'wech mis hir, fi'n credu, ma' pobl, yn siŵr, wedi dechra ymlacio.

"Ma' pobl ifanc wedi cael amser caled iawn, heb fynd i'r coleg a i ysgol a ma'n nhw isio ymdopi â hwn i gyd, so fi'n deall be' sydd wedi digwydd.

"Ond nawr fi'n credu, gyda'r nifer o achosion yn ehangu mae isio bwrw lawr 'to a newid beth ni'n neud a neud siŵr bod ni'n cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo - y pethe chi gyd i fod i neud."

'Gweithredu'n lleol yw'r ateb'

Yn siarad ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod teithiau tramor wedi bod yn ffactor yn yr ardal.

"Beth mae'r doctoriaid yn dweud yw mae nifer o bobl wedi dod 'nôl i Gaerffili sydd wedi bod dramor ar wyliau ac wedi dod 'nôl gyda'r feirws," meddai. "Ac ar ôl hynny maent wedi cwrdd gyda lot fwy o bobl eraill a dyna pam ni yn meddwl ni yn y sefyllfa y'n ni ynddi yng Nghaerffili.

"Dros yr haf dwi'n meddwl ni wedi gweld... y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dal ato'r rheoliadau a 'neud pethe yn ofalus. Ond ni wedi gweld rhai pobl eraill sydd ddim yn 'neud hynny, sydd yn mynd ymlaen fel mae coronafeirws wedi diflannu, a dyw hynny ddim yn wir."

Dywedodd bod y sefyllfa'n amrywio'n fawr dros Gymru, ond mai gweithredu'n lleol yw'r ateb pan mae niferoedd yn cynyddu.

"Dydyn ni ddim isie delio gyda'r broblem trwy wneud pethe fel oedd rhaid ni neud 'nôl ym mis Mawrth dros Gymru i gyd, ond i ddelio gyda'r broblem yn gyflym ac i ddelio gyda'r broblem yn lleol ac i helpu y bobl yn lleol i neud y pethe go iawn, a thrwy hynny allwn ni droi y gornel a bydd Caerffili 'nôl yn lle roedd Caerffili yr wythnos diwethaf."

Bydd mygydau'n orfodol yng Nghaerffili, ond dywedodd nad yw'n "rhesymol" ymestyn y rheol honno dros Gymru gyfan.