Â鶹ԼÅÄ

Owain Arthur: O Cyw i roi ‘bear hug’ i Mick Jagger

  • Cyhoeddwyd
Owain Arthur yn nangosiad cyntaf y gyfres deledu Hard SunFfynhonnell y llun, Dave J Hogan

"Fedrai ddim deud wrthach chi pa mor bizarre oedd o i hogyn o Rhiwlas i fynd mewn car efo Bryan Cranston a chael cyfarfod Mick Jagger a Ronnie Wood."

O fod yn wyneb cyfarwydd i blant Cymru fel Prys Plismon yn Cei Bach ar Cyw - a chyn hynny ar Rownd a Rownd - i'r brif ran ar lwyfan y West End, mae Owain Arthur bellach yn actor ffilm a theledu byd-eang.

Mae'n actio yn ffilm newydd Disney ac wrthi'n ffilmio cyfres deledu Lord of The Rings yn Seland Newydd i Amazon.

Wedi ei rhyddhau ar Disney+ fis Awst, mae The One And Only Ivan wedi ei seilio ar nofel a stori wir am gorila oedd yn perfformio ac yn paentio lluniau mewn canolfan siopa yn yr Unol Daleithiau.

Mae Owain yn actio rhan y dyn diogelwch, Costello, ac yn rhannu golygfeydd gyda Bryan Cranston, sef Walter White i ddilynwyr Breaking Bad.

Roedd actio gydag un o'i arwyr yn dipyn o brofiad i Owain.

"O'n i methu coelio'r peth pan ddaeth y job drwadd: yn un peth Disney; yn ail beth Bryan Cranston; ac yn Pinewood Studios ar lwyfan James Bond!" meddai ar Radio Cymru.

"Mae Sam Rockwell yn un o'n hoff actorion i hefyd, sef y prif gymeriad."

Mae Angelina Jolie, Helen Mirren a Danny DeVito hefyd yn lleisio'r anifeiliaid yn y ffilm.

Ffynhonnell y llun, Disney
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryan Cranston yn actio rhan Mack, perchennog y sioe, yn y ffilm am y gorila, Ivan

Yn ogystal ag ymddangos ar y sgrîn efo Cranston cafodd Owain gyfle am ambell noson allan gyda'r actor hefyd.

"Aeth Bryan a fi allan un noson i'r theatr a gweld sioe un o'n ffrindiau i, Angela Griffin, Building the Wall. Ddaethon ni ar draws dynas o'r enw Sally Wood, gwraig Ronnie Wood, un o'r Rolling Stones.

"Achos bod Sally Wood yn gymaint o ffan o Breaking Bad gathon ni VIP tickets a mynd ar guest list Ronnie Wood drwy hynny.

"Fedra i ddim deud wrthach chi pa mor bizarre oedd o i hogyn o Rhiwlas i fynd mewn car efo Bryan Cranston a chael cyfarfod Mick Jagger a Ronnie Wood a gwrando arnyn nhw'n chwarae. Oedd y cyfnod yna yn absolutely mental.

"Ddudodd Bryan yn y gadair tra roedd o'n cael ei fêc yp y bore wedyn mai ei adeg gorau o'r noson oedd gwatsiad fi yn rhoi bear hug i Mick Jagger a fynta ddim yn gwybod be' i'w wneud efo'i hun! Fi oedd wedi ecseitio de, cael mynd i VIP parti!"

Gan mai lleisio oedd yr actorion mawr eraill, wnaeth Owain ddim dod ar eu traws gymaint, ond fe wnaeth gyfarfod Angelina Jolie, ar ôl sawl taith mewn bygi golff i chwilio amdani!

"Yn digwydd bod roedd Angelina Jolie yn gwneud Maleficent 2 ar y pryd yn Pinewood Studios ac roedd hi'n mynd rownd yn y golf carts yma - ond roedd un hi wedi gorfod cael ei modifyio am ei bod hi'n gwisgo'r penwisg mawr efo cyrn, felly pan oeddach chdi yn gweld hwnna yn mynd heibio oeddach chdi'n gwybod - Angelina Jolie 'di honna.

"Wedyn roedd Ramón Rodriguez [sy'n chwarae rhan gofalwr yr anifeiliaid] a finna' yn dwyn golf carts ac yn mynd rownd Pinewood pan oedd gennon ni amser i chwilio am Angelina Jolie!

"Mi ddaeth hi ar y set i'n gweld ni yn y diwedd... oedd ei phlant i gyd efo hi, mae hi'n lyfli."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael y brif ran yn One Man Two Guvnors yn y West End yn hwb enfawr i yrfa Owain

Ffilmio yn Seland Newydd

Ers 2019 mae Owain wedi bod yn gweithio ar gyfres deledu fawr newydd Amazon, Lord of the Rings, sydd, fel y ffilmiau eiconig gafodd eu rhyddhau bron i 20 mlynedd yn ôl, yn cael ei ffilmio yn Seland Newydd.

Mae wedi bod yno ers mis Chwefror ac fe fydd y ffilmio yn ail-ddechrau diwedd mis Medi. Oherwydd y coronafeirws mae teithio o'r wlad yn anodd ar hyn o bryd.

"Dwi ddim yn meddwl mod i'n cael mynd nôl adra ar hyn o bryd oherwydd y coronafeirws, oherwydd be' mae'r llywodraeth yn wneud yn fan hyn i gadw'r feirws i ffwrdd, sydd yn briliant, ond be' ma'n olygu ydi bo' fi'n gorfod bod yma am gydol yr amser. Rydan ni yma tan mis Gorffennaf y flwyddyn nesa, mae'n dipyn o stint.

"Mae'r coronafeirws wedi rhoi spanner in the works. Yma fydda i rŵan!"

Fe gyhoeddodd Amazon fis Ionawr ond ers hynny dydyn nhw ddim wedi datgelu llawer mwy a chaiff Owain ddim dweud pa gymeriad mae'n ei chwarae.

"Cha' i ddim dweud, dwi ddim yn meddwl, tan ddaw o allan. Mae'n job cadw secrets mae'n rhaid i fi ddweud!"

Mae'n cael cwmni'r Gymraes Morfydd Clark, sydd hefyd yn aelod o'r cast.

"Mae hi yma allan efo fi hefyd, 'da ni'n cael sgyrsiau Cymraeg efo'n gilydd yn aml iawn," meddai Owain. Maen nhw wedi bod am ambell baned meddai Owain ond gan fod Auckland wedi bod dan gyfyngiadau llymach ers mis Awst dydy hi ddim mor hawdd i bobl gwrdd â'i gilydd.

"Achos bod ni ar lefel tri mae gan bobl lot o ofn, mae'r siopau i gyd wedi cau so dwi mewn isolation ar hyn o bryd."

Mae'r wlad wedi cymryd camau llym i geisio rheoli'r feirws ac roedd rhaid i Owain fod mewn cwarantîn am bythefnos ar ôl y tro diweddaraf iddo gyrraedd y wlad i wneud yn siŵr nad oedd yn dod â'r feirws gydag ef.

Teulu a ffrindiau

Er ei fod yn cymysgu gyda sêr Hollywood erbyn hyn, i rai o aelodau iau ei deulu yng Nghymru, chwarae Prys Plisman ar Cei Bach sy'n ei wneud fwyaf enwog.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Owain fel Prys Plismon a Mirain Haf fel ei wraig, Mari ar Cei Bach

"Ddoe, ro'n i ar Facetime efo Gruff a Iago, hogiau bach fy nghyfnither, Lois, ac maen nhw wrth eu bodd [gyda'r gyfres]; mae'r ieuenga', Gruff, eisiau bod yn blismon achos Prys Plismon ac mae'n dweud wrtha i be' sydd wedi digwydd yn y rhaglen ddiweddaraf.

"O achos hynna, dwi wrth fy modd mod i wedi gwneud hwnna, jyst i weld yr hogiau yn ecseitio amdano fo."

Pan fydd yn cael gadael Seland Newydd, y peth cyntaf y bydd yn ei wneud meddai fydd mynd i weld ei deulu a'i ffrindiau ac ymlacio.

"Dydan ni ddim yn siŵr iawn os fydd 'na ail gyfres [o Lord of the Rings] eto, ond os fydd 'na, fydd gynnon ni flwyddyn off i fynd i wneud pethau eraill a wedyn dod nôl.

"Gawn ni weld sut mae'r sioe yn mynd, dwi ddim eisiau jinxio fo, ond dwi'n gobeithio fydd 'na ail gyfres."

Hefyd o ddiddordeb: