Â鶹ԼÅÄ

'Honiadau o ymosodiadau rhyw wedi'u cadw'n dawel'

  • Cyhoeddwyd
Alyse McCamishFfynhonnell y llun, Alyse McCamish
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alyse McCamish adael y coleg yn gynnar

Mae dwy gyn-fyfyrwraig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd yn teimlo bod eu honiadau am ymosodiad a chamymddwyn rhywiol gan fyfyriwr arall "wedi cael eu cadw'n dawel".

Yn ôl Alyse McCamish a Sydney Feder, sydd ill dwy yn 23 oed, dyw'r Coleg Cerdd a Drama ddim wedi ymchwilio i'r mater yn iawn ac maent yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y coleg.

Mae'r ddogfen, sydd yn cychwyn gweithrediadau cyfreithiol, wedi ei anfon i'r Llys Sifil.

Fe gymerodd hi chwe mis i honiad Ms McCamish gael ei adrodd i'r heddlu meddai.

Ymateb y coleg yw bod yna "broses gyfreithiol yn mynd yn ei blaen" ac fe ychwanegodd y llefarydd nad yw'n gymwys "i roi sylw ar fanylion penodol".

'Colli ffydd mewn pobl sy'n rheoli'

Ffynhonnell y llun, Alyse McCamish
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms McCamish yn cyfarwyddo dwy ffilm ar hyn o bryd

Fe wnaeth Ms McCamish, o Tennessee yn UDA, symud i Gymru pan oedd hi'n 19 oed wedi iddi gael ei derbyn i'r Coleg Cerdd a Drama ar ôl clyweliad llwyddiannus. Roedd y ffaith "fod Cymru yn wlad mor hardd" wedi apelio ati.

Ond yn ystod wythnos y glas mae'n honni i gyd-fyfyriwr ymosod yn rhywiol arni. Mae'r myfyriwr yn gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Dywed Ms McCamish, sydd ar hyn o bryd yn cyfarwyddo dwy ffilm, ei bod wedi gadael y coleg yn gynnar oherwydd ei phrofiad.

"Gan ystyried ei bod yn ysgol oedd yn arbenigo yn y celfyddydau roedd hi'n teimlo nad oedd ganddynt lawer o empathi.

"Fe gollais ffydd mewn dynoliaeth ac mewn pobl sydd â llawer o rym."

'Teimlo'n anniogel o'r dechrau'

Fe symudodd Sydney Feder, o Connecticut yn yr UDA i Gymru pan oedd hi'n 18 oed, a dywed ei bod yn teimlo'n anniogel o'r dechrau.

"O'r diwrnod cyntaf un," meddai, "roeddwn yn teimlo nad oedd hwn yn le diogel.

"Yn y gwersi actio fe fyddai pobl yn cusanu heb ganiatâd neu'n cyffwrdd â rhannau o'r corff heb gydsyniad - fe fydden nhw'n cael eu llongyfarch gan staff am wneud hynny ac am wneud penderfyniad dewr."

Ffynhonnell y llun, Sydney Feder
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Sydney Feder i Gaerdydd o'r UDA er mwyn mynychu'r coleg

Yn ystod ei thrydedd blwyddyn dywed Ms Feder bod rhywun wedi ymosod arni tra'r oedd hi ar ben ei hun yn ystafell newid y merched yn ystod rihyrsal ar gyfer sioe.

"Fe wnes i adrodd am y digwyddiad wrth y coleg ond roedd e fel petawn i'n sgrechian mewn pwll diwaelod. Fe wnaethon nhw fy nghyfweld am y mater unwaith. Dyna'i gyd. Na'th neb fy holi i wedyn am y mater," meddai.

"Fe gymerodd hi chwe mis iddynt ddweud wrth yr heddlu."

'Mae'n rhaid i ni ddweud wrth rywun'

Dywed Ms McCamish ei bod wedi cwyno ar lafar i uwch-aelodau o staff ym Mehefin 2017 ond nad oedd y coleg wedi hysbysu'r heddlu o'i chwyn tan Ionawr 2018.

"Gymerodd hi gryn amser i mi sôn am y peth. Roeddwn yn benderfynol am gyfnod i beidio dweud wrth neb ond roedd y cyfan yn fy ngwneud yn berson trist a thywyll. Ac yna fe wnes ddweud wrth fy nghariad pam bo' fi fel hyn.

"Fe ddywedodd e bod yn rhaid i ni ddweud wrth rywun.

Ffynhonnell y llun, Sydney Feder
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sydney Feder ac Alyse McCamish yn anhapus gyda'r ffordd y mae'r coleg wedi delio gyda'u honiadau

"Fe wnes i sôn am y peth ac yna fe ddigwyddodd 'Me Too'. Es nôl i'r coleg gan feddwl fod hyn yn amseru da a'u bod yn mynd i gymryd y mater o ddifrif. Ond roedd fy mhrofiad i yn gwbl wahanol i'r modd yr oedd eraill yn delio ag ymosodiadau rhyw ar y pryd."

Mewn cyfres o e-byst yn 2018, gohebiaeth lle mae staff yn trafod honiad Ms McCamish ac sydd wedi'i gweld gan y Â鶹ԼÅÄ, mae un uwch-aelod o staff yn gofyn "oni fydd rhywun yn gofyn pam ein bod ddim wedi sôn am hyn ynghynt?"

Cafodd Ms McCamish ei chyfweld gan yr heddlu yn Ionawr 2018 ond ni chymerwyd camau cyfreithiol.

"Dywedodd yr heddlu wrthyf y byddai'r honiad ar ei gofnod (cyd-fyfyriwr) ac roedd hynny'n ddigon i fi. Roeddwn yn ffyddiog y byddai'r coleg yn delio â'r mater," meddai.

Myfyrwyr yn lleisio honiadau

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau nad oes ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r mater.

Yn ystod ymchwiliad mewnol gan y coleg fe wnaeth Ms Feder a chwech merch arall gyflwyno honiadau o gamymddwyn yn erbyn yr un myfyriwr.

Dywed y cyfreithiwr John Watkins o gwmni Bater Law bod y coleg wedi methu â dilyn ei bolisi diogelwch ei hun.

Dywed bod y cwynion honedig yn cael eu hystyried yn rhai o "gyffwrdd amhriodol" yn hytrach na chamymddwyn rhywiol ond bod rheoliadau ymddygiad y coleg yn nodi bod "cyffwrdd amhriodol heb gydsyniad" yn cael ei ystyried yn gamymddygiad rhywiol.

Dywed bod y coleg wedi penderfynu ymchwilio i achos Ms McCamish ar wahân i honiadau gan ferched eraill am ei fod yn cael ei ystyried yn "achos mwy difrifol".

Gwadu'r honiad

Mae'r myfyriwr dan sylw wedi gwadu unrhyw honiadau o ymosod yn rhywiol ac yn dweud "nad yw'r digwyddiad honedig y mae Ms McCamish yn cyfeirio ato wedi digwydd".

Dywed y coleg eu bod ar sail tebygolrwydd yn gallu profi honiadau o gyffwrdd amhriodol ond nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi honiad Ms McCamish o gamymddwyn rhywiol.

Cafodd y myfyriwr ei wahardd am bythefnos ac mewn llythyr at fyfyrwyr fe wnaeth ymddiheuro i "unrhyw un a oedd yn teimlo'n anniogel ac yn anghysurus yn ei gwmni".

Ffynhonnell y llun, Sydney Feder
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ms Feder na chafodd hi erioed wybod beth ddigwyddodd wedi iddi wneud yr honiad

Dywed Ms Feder na chafodd hi erioed wybod am beth ddigwyddodd wedi iddi wneud yr honiad. Chafodd hi ddim gwybodaeth bellach, meddai, nes iddi ddwyn achos cyfreithiol.

"Pan wnes i ganfod beth oedd wedi digwydd fe wnes i grio yn syth a hynny flynyddoedd yn rhy hwyr," meddai.

Mae Ms McCamish hefyd wedi beirniadu y ffordd y mae'r coleg wedi delio â chanlyniad yr ymchwiliad gan gynnwys un digwyddiad lle cafodd llythyr gan y myfyriwr, oedd wedi ei gyhuddo, ei ddarllen ger bron myfyrwyr eraill yn y flwyddyn.

Dywedodd: "Doeddwn i methu credu'r peth. Wnaeth neb ddarllen llythyr ar fy rhan i. Roedd fel petai fy mod wedi cael fy nhawelu'n llwyr."

Dywedodd ei bod yn ystod yr wythnos, wedi iddi adrodd am y digwyddiad honedig, wedi gorfod mynychu dosbarth perfformio'n fyrfyfyr gyda'r myfyriwr.

Dywedodd bod yr aelod o staff yr adroddodd hi'r honiad iddo wedi caniatáu i'r myfyriwr fod yn noeth yn ystod y sesiwn.

Beth sydd gan y coleg i'w ddweud?

Ffynhonnell y llun, Geograph / David Dixon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi'i leoli yng Nghaerdydd

Wrth ymateb i'r honiadau dywed Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: "Mae diogelwch a lles myfyrwyr a staff yn flaenoriaeth gennym ac mae gennym fecanwaith ffurfiol i ddiogelu pob aelod o gymuned y coleg.

"Ry'n yn delio gyda phob adroddiad o ddigwyddiad o ddifrif gan ddefnyddio'r ymarfer gorau wrth gymhwyso ein polisïau a'n gweithdrefnau.

"Ry'n hefyd yn adolygu ein polisïau yn gyson - gan ofyn am gyngor arbenigol allanol.

"Ry'n wastad yn barod i wrando'n agored ar unrhyw un sydd am adrodd am ddigwyddiad wrthym - boed yn un diweddar neu hanesyddol ac ry'n yn annog pobl i siarad â ni am unrhyw bryderon.

"Mae'r honiad hwn yn destun proses sensitif gyfreithiol sy'n digwydd ar hyn o bryd. Oherwydd hynny ac ein bod yn parchu'r broses gyfreithiol honno dyw hi ddim yn gymwys i ni wneud unrhyw sylwadau am fanylion penodol.

"Ond fe allwn ni gadarnhau bod anghywirdebau ffeithiol wedi bod mewn adroddiadau. Mae bwrdd y cyfarwyddwyr wedi cael gwybodaeth lawn am y sefyllfa bresennol ac yn cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau."

Gwybodaeth a chefnogaeth

Os ydych angen gwybodaeth am unrhyw fater yn y stori fe allai'r sefydliadau yma fod o gymorth.