Gosod pwyntiau gwefru mewn dau faes parcio ym Mhowys

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys

Disgrifiad o'r llun, Mae pwyntiau gwefru cyflym yn costio tua £50,000 yr un i'w gosod

Mae pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan wedi cael eu gosod mewn dau faes parcio cyhoeddus ym Mhowys.

Mae'r pwyntiau gwefru cyflym ym Machynlleth a Llanidloes yn gallu gwefru car yn llawn mewn tair i bedair awr.

Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hume, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am yr amgylchedd, ei bod yn gam "allweddol" wrth symud tuag at ddyfodol carbon isel.

Yn ôl Cyngor Powys bydd pwyntiau gwefru yn cael eu gosod mewn chwe lleoliad arall yn y dyfodol agos.

Bydd y rheiny yn cael eu gosod yn Aberhonddu, Y Drenewydd, Llanandras, Llandrindod, Llanfair-ym-muallt a'r Trallwng.