Ailagor ysgolion: 'Yr her fwyaf i addysg ers datganoli'

  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae gwaith i ailagor ysgolion yn llawn ym mis Medi wedi cael ei ddisgrifio fel "yr her fwyaf" i wynebu addysg yng Nghymru ers datganoli.

Rhybuddiodd Gareth Evans, academydd blaenllaw, fod effaith y pandemig ar ddysgu disgyblion wedi bod "hynod arwyddocaol".

Daw wrth i brif swyddogion meddygol y DU gyhoeddi datganiad ar y cyd cyn y tymor ysgol newydd.

Maen nhw'n rhybuddio bod parhau i golli'u haddysg yn fwy o fygythiad i blant yn y tymor hir na coronafeirws.

Yng Nghymru, mae tymor yr hydref yn dechrau ar 1 Medi, gydag ysgolion sy'n gallu croesawu pob disgybl o'r dyddiad hwnnw yn cael eu hannog i wneud hynny.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu cyfnod o hyblygrwydd o hyd at bythefnos fel y gall ysgolion wneud trefniadau unigol.

'Effaith hynod arwyddocaol'

Dywedodd Mr Evans, cyfarwyddwr polisi addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei bod yn "hanfodol" i ddisgyblion ddychwelyd "mor gyflym a diogel â phosibl".

"Mae'n gwbl glir bod yr effaith ar ddysgwyr wedi bod yn hynod arwyddocaol dros y misoedd diwethaf ac mae'r bwlch cyrhaeddiad wedi tyfu'n sylweddol," meddai.

"Felly rydyn ni'n gwybod bod dysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig ar eu colled hyd yn oed yn fwy na'u cyfoedion mwy cefnog."

Dywedodd fod pryder bod y ddadl ddiweddar dros raddau arholiadau wedi "gwanhau hyder y cyhoedd yn ein hagenda dychwelyd i'r ysgol".

"Er bod digwyddiadau'r wythnosau diwethaf wedi bod yn arwyddocaol iawn ac wedi dwyn llawer o'r sylw, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod bellach yn ailffocysu'n hegni i gael plant yn ôl i'r ysgol," meddai.

"Mae'n her enfawr i'n system - ac o bosibl yr her fwyaf i wynebu addysg yng Nghymru ers datganoli."

Disgrifiad o'r llun, Mae Kirsty Williams wedi dweud ei bod eisiau pob plentyn yn ôl yn yr ysgol erbyn 14 Medi

Dywedodd Rebecca Williams, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol undeb athrawon UCAC wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru ei bod yn cefnogi safbwynt y prif swyddogion meddygol.

"Mae'n bryd i ysgolion ailagor eu drysau oherwydd mae wedi bod yn amser hir ac mae athrawon yn pryderu'n fawr am eu disgyblion - nid yn unig am eu haddysg, ond hefyd eu lles," meddai.

"Ond mae angen ei weld o fewn ei gyd-destun - mae angen i ysgolion sy'n ailagor fod yn gwneud hynny o fewn cymunedau lle mae cyfraddau trosglwyddo'r feirws yn rhesymol a ddim yn mynd i'r cyfeiriad anghywir.

"Ond mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod amgylchedd yr ysgolion mor ddiogel â phosibl i leihau pob risg."

Dywedodd ei fod wedi bod yn "haf hir ac anodd" i arweinwyr ysgolion wrth iddyn nhw wneud y paratoadau angenrheidiol tra hefyd yn gorfod delio â chanlyniadau'r "debacle cymwysterau".

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth ysgolion Cymru ailagor ar 29 Mehefin, gyda llawer llai o ddisgyblion na'r arfer

Bydd Owain Gethin Davies yn dechrau ar rôl newydd ym mis Medi fel pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy.

Er ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o'r risg o Covid-19, dywedodd fod yn rhaid ystyried effaith cyfnod clo ar iechyd meddwl pobl ifanc hefyd.

"Mae gweld eu ffrindiau a'u hathrawon a dod yn ôl i gymuned yr ysgol yn gwbl hanfodol iddyn nhw," meddai.

"Mi fydd 'na batrwm o ddychwelyd fesul cam gyda blynyddoedd penodol yn dychwelyd gyntaf.

"Ond yn sgil hynny ry'n ni wedi gorfod gofalu bod 'na amseroedd cinio ac egwyl ar wahân i ddysgwyr ac ystyried sut maen nhw'n symud o gwmpas yr ysgol a bod 'na fynedfeydd ac allanfeydd penodol iddyn nhw.

"Mae llawer yn mynd ymlaen i wneud yn siŵr bod dysgwyr a chymuned yr ysgol gyfan yn ddiogel."