Yr heriau wrth ailddechrau ffilmio cyfresi poblogaidd

  • Awdur, Ellis Roberts
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Fe fydd dwy o gyfresi mwya' poblogaidd S4C yn ôl ar y sgrin fis nesa' - ond mae cryn dipyn o addasu wedi bod er mwyn medru ailddechrau ffilmio ar 'Rownd a Rownd' a 'Pobol y Cwm'.

Fe gafodd y ddwy gyfres eu hatal yn ystod y cyfnod clo, ac wrth ailgydio ynddi, mae rheolau ynglŷn â chadw pellter yn golygu cryn dipyn o newid y tu ôl i'r llenni.

Dim ond pum munud o ffilmio sy'n bosib bellach mewn diwrnod ar Pobol y Cwm.

Yn achos Rownd a Rownd, bu'n rhaid ychwanegu dau safle newydd i'r un presennol ym Mhorthaethwy.

Disgrifiad o'r llun, Roedd sawl ffactor ymarferol i'w hystyried, medd Cynhyrchydd Gweithredol Rownd a Rownd, Bedwyr Rees

"Mae'r criw i gyd 'di gweithio'n eithriadol o galed," meddai Cynhyrchydd Gweithredol Rownd a Rownd, Bedwyr Rees.

"Bu'n rhaid i ni ail-sgwennu'r sgriptiau i gyd i fod yn bosib i gael eu cyflawni o fewn canllawiau Covid, ond ymarferoldeb y peth oedd y peth mwya'.

"Mae'n hadeilad ni yma ym Mhorthaethwy yn gymharol gyfyng a 'dan ni isio dychwelyd efo dau griw llawn, felly 'dan ni 'di lledaenu'n hadenydd...

"Mae gynnon ni leoliad rŵan yn fan hyn, yn Llangefni ac yng Nghaernarfon er mwyn cadw pawb oddi wrth ei gilydd... ond mae 'di mynd yn rhyfeddol, a phawb di gweithio'n eithriadol o galed."

Disgrifiad o'r llun, Mae proses ffilmio Pobol y Cwm "wedi newid yn sylweddol," medd cynhyrchydd y gyfres, Nest Gwenllian Roberts

Mae'r gwaith cynhyrchu hefyd wedi ailddechrau ers wythnos ar Pobol y Cwm, a hynny'n dilyn trafodaethau rhwng y cynhyrchwyr, Â鶹ԼÅÄ Studios, a Â鶹ԼÅÄ Cymru. Cynhyrchydd y gyfres, sy'n cael ei ffilmio ym Mhorth Teigr yng Nghaerdydd, ydy Nest Gwenllian Roberts.

"Mae proses ffilmio Pobol y Cwm wedi newid yn sylweddol," meddai. "Roeddan ni fel arfer yn gallu ffilmio 16 munud y diwrnod - rŵan 'dan ni'n ffilmio pum munud y diwrnod felly mae'r gwahaniaeth yna'n sylweddol.

"Y rheswm am hynny ydy'r canllawiau pellter dau fetr, golchi props rhwng pob actor. Mae'r broses o wneud checks yr adran golur - dydy hwnnw ddim yn gallu digwydd, yr un peth efo'r adran gwisgoedd... ond iechyd a diogelwch ydy'r flaenoriaeth.

"Fydd petha' fyth yr un fath ar ôl Covid felly mae'n mynd i fod yn falans o ddysgu o'r gorffennol, creu petha' newydd a symud ymlaen fel 'na."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cast a'r criw'n ymwybodol o'r angen i gadw ar wahân, medd yr actor Arwyn Davies

Er nad oes bwriad i gyfeirio at y coronafeirws ar Rownd a Rownd ar hyn o bryd, fe fydd penodau cyntaf Pobol y Cwm yn edrych ar hanes y cymeriadau yn ystod y cyfnod clo.

Un o'r rheini ydy Mark Jones, sy'n cael ei bortreadu gan Arwyn Davies. Mae yntau'n gweld gwahaniaeth yn y drefn newydd.

"Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r pellter rhwng ein gilydd ond mae 'na driciau allwn ni neud efo'r camerâu i wneud iddo edrych fel bod hi'n agosach... ond ar wahân i 'ny mae'n teimlo'r un peth ag arfer."

Mae S4C yn gobeithio y bydd Rownd a Rownd a Pobol y Cwm yn ôl ar y sianel yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 8 Medi 2020.

Disgrifiad o'r llun, Aelod o dîm cynhyrchu Rownd a Rownd ar y set ym Mhorthaethwy