'Dim hyder' yn y broses o ddyfarnu graddau Safon Uwch

Disgrifiad o'r llun, Roedd neges y myfyrwyr yn glir yn ystod protest ym Mae Caerdydd ddydd Sul

Mae arweinwyr addysg mewn chwe chyngor yng ngogledd Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw "unrhyw hyder" yn y system sydd wedi dyfarnu canlyniadau Safon Uwch eleni.

Daw hyn ar ôl i 42% o'r graddau Safon Uwch a roddwyd gan athrawon gael eu gostwng gan y corff rheoleiddio arholiadau.

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi caniatáu apeliadau "os oes tystiolaeth" y dylai disgyblion fod wedi cael graddau uwch.

Mewn llythyr, sydd wedi cael ei lofnodi gan uwch swyddogion yng nghynghorau gogledd Cymru, maen nhw'n dweud fod y system yn "annheg".

"Nid ydym yn teimlo y bu'r broses yn un deg na chadarn, ac yn enwedig felly i ddysgwyr bregus a fu'n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru dros y tymor hwn," meddai'r llythyr.

Maen nhw'n galw ar y Gweinidog Addysg i gynnal adolygiad brys o'r sefyllfa.

"Mae'n amlwg iawn bod y brand Safon Uwch wedi'i amddiffyn ar draul dysgwyr unigol sydd ddim wedi cael y graddau a ragwelwyd ar eu cyfer pan wnaeth y dosbarthiad cenedlaethol gyrraedd lefel ysgol," meddai'r llythyr.

"Gwelwyd disgyblion unigol yn cael graddau gan CBAC ble na all ysgolion egluro'r rhesymeg tu cefn i'r dyfarniad."

Yn y llythyr maen nhw hefyd yn dweud bod 70% o'r holl raddau wedi cael eu gostwng mewn ambell ysgol.

Esiamplau

Maen nhw'n rhestru esiamplau o ble mae'r graddau, yn eu tyb nhw, wedi bod yn anghyson:

  • Myfyriwr disglair â'r ysgol wedi rhagfynegi pedair gradd A* iddo yn cael A*/A/A/B;
  • Dau fyfyriwr yn cael graddau D wedi'u hasesu gan y ganolfan, yn disgyn i raddau U gan CBAC, ac un arall yn gostwng o B i E. Dwy radd C mewn pwnc arall yn mynd i lawr i U;
  • Canlyniadau nifer o fyfyrwyr mathemateg mewn un ysgol wedi'u gostwng dwy radd;
  • Ysgol â record tair blynedd o 20% A*/A mewn un pwnc yn cyflwyno graddau wedi'u hasesu gan y ganolfan yn unol â hyn. Er hynny, yn dilyn safoni, ni ddyfarnwyd A*/A i'r un disgybl.

Yn y llythyr mae'r arweinwyr yn galw ar y Gweinidog Addysg i unioni'r sefyllfa i sicrhau nad yw dysgwyr unigol yn cael cam, a bod y disgyblion iawn yn cael y graddau iawn.

"Mae gormod o ddisgyblion yng Nghymru mewn perygl sylweddol o fod dan anfantais a cholli cyfleoedd i ddilyn llwybrau cyflogaeth o'u dewis pan gânt eu cymharu â'u cyfoedion mewn gwledydd eraill yn y DU, Yr Alban yn enwedig," meddai'r llythyr.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd pobl ifanc yn israddio eu disgwyliadau eu hunain o ganlyniad i'r sefyllfa

Dywedodd aelod Ynys Môn o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth bod mwy o bobl nag erioed o'r blaen wedi cysylltu gydag ef yn poeni am "anghyfiawnder ofnadwy", a dywedodd ei fod yn poeni am effaith y canlyniadau ar y proffesiwn meddygol.

Ychwanegodd fod ei ferch wedi cael gwrthod ei dewis i astudio meddygaeth a gwyddoniaeth fiofeddygol yng Nghaerdydd ar ôl iddi gael graddau is na'r hyn a ragwelwyd.

'Israddio eu disgwyliadau eu hunain'

"Maen nhw wedi dweud wrthi na allan nhw ei derbyn gan nad oes ganddi'r graddau, ond os gallwch chi gael eich apêl yn ôl erbyn 31 Awst, byddwn yn cadw'r lle ar agor i chi," meddai.

"Ond a yw hynny'n mynd i ddigwydd, gyda degau o filoedd o ddisgyblion yn apelio?

"Rwy'n gwybod am o leiaf hanner dwsin a oedd eisiau gwneud meddygaeth ond nad ydyn nhw wedi cael y graddau roedd disgwyl iddyn nhw eu cael.

"Bydd pobl ifanc yn israddio eu disgwyliadau eu hunain, oherwydd mae'r llywodraeth wedi dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw cystal ag y maen nhw mewn gwirionedd."

Galw am fynd ar farn athrawon

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am roi'r graddau a ddyfarnwyd gan athrawon fel graddau terfynol disgyblion Safon Uwch.

Yn siarad ar raglen Dros Ginio Radio Cymru brynhawn Llun dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Suzy Davies fod "effaith y broblem wedi bod lot yn fwy nag o'n i'n disgwyl".

"Mae galw ar y system apêl yn mynd i i fod yn ormod a dyw e ddim yn mynd i weithio," meddai.

"Does dim digon o amser felly y peth i neud yw mynd 'nôl i asesiadau athrawon.

Dydy Llywodraeth Geidwadol y DU ddim wedi mynd ar sail asesiadau athrawon, ond dywedodd Ms Davies y byddai eisiau gweld "cydraddoldeb rhwng y ddwy wlad achos mae cystadleuaeth dros lefydd mewn prifysgolion".

"Fy mhwrpas i yw helpu'r bobl ifanc yng Nghymru a dyna pam dwi'n trio rhoi pwysau ar y llywodraeth yng Nghymru i newid ei meddwl," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sally Holland eisiau i brifysgolion "ymateb gydag ysbryd hael"

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod angen gwneud rhywbeth "drastig" er mwyn gallu delio â nifer yr apeliadau yn erbyn y graddau.

Ychwanegodd ei bod o'r farn mai gosod graddau ar sail barn athrawon yw'r unig opsiwn bellach.

"Fe fydd hynny'n cynyddu'r graddau yn sylweddol ond mae hon yn flwyddyn eithriadol," meddai wrth Radio Wales fore Llun.

Dywedodd hefyd y dylid ystyried oedi canlyniadau TGAU os nad oes gan y cyhoedd hyder yn y system erbyn dydd Iau.

"Ar hyn o bryd mae gormod o ddisgyblion yn teimlo na gafon nhw gyfle teg i gael y graddau sy'n adlewyrchu eu gallu a'u hymdrech dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.

Mae'r Athro Holland a'i chyfoedion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gyrru neges ar y cyd i brifysgolion y DU yn gofyn iddyn nhw anrhydeddu'r cynigion maen nhw wedi'u gwneud i fyfyrwyr arfaethedig.

'94% yr un fath neu o fewn un radd'

Dywedodd Llywdraeth Cymru y bydd dros 4,000 o ddisgyblion yn elwa o'r addewid na fydd eu canlyniad Safon Uwch yn waeth na'u gradd AS, a bod hyn tua 15% o'r holl ddisgyblion.

"Hyn yn oed cyn y rheol hynny, mae 94% o'r graddau yr un fath neu o fewn un radd i'r rheiny gafodd eu dyfarnu gan y ganolfan asesu," meddai llefarydd.