Â鶹ԼÅÄ

AS o Gymru yn codi llais am fewnfudwyr

  • Cyhoeddwyd
Mewnfudwyr ger Dover - 7/8/20
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o fewnfudwyr a cheiswyr lloches wedi ceisio croesi'r Sianel yn ddiweddar

Mae 23 o Aelodau Seneddol o'r Blaid Geidwadol, yn cynnwys un o Gymru, wedi mynegi pryderon ynglŷn â mewnfudwyr anghyfreithlon yn croesi'r Sianel o Ffrainc i Loegr.

Mae AS Gorllewin Clwyd, David Jones, yn un o'r grŵp sydd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, i godi pryderon am y cynnydd diweddar yn nifer y mudwyr a cheiswyr lloches sy'n croesi'n anghyfreithlon.

Mae'r 23 AS a dau aelod o DÅ·'r Arglwyddi, yn dweud eu bod wedi cael sgwrs bositif gyda Ms Patel, a'u bod yn croesawu cynlluniau'r llywodraeth yn Llundain i gyflwyno deddfwriaeth newydd i geisio rhwystro pobl rhag cam-ddefnyddio'r drefn ar gyfer ceiswyr lloches.

Ond yn ol y grŵp, mae angen mynd i'r afael â'r llif diweddar o fewnfudwyr, a hynny "ar frys ac mewn modd radical gyda chamau gorfodaeth".

Disgrifiad o’r llun,

David Jones AS Gorllewin Clwyd

Mae'r llythyr hefyd yn galw ar y llywodraeth i geisio sicrhau cytundeb gyda Ffrainc lle byddai pobl sy'n ceisio croesi ar gychod, a'r rhai sy'n glanio'n anghyfreithlon, yn cael eu hanfon yn ôl i Ffrainc yn syth.

Gofynnwyd am sylw gan David Jones.