Â鶹ԼÅÄ

Pandemig yn cael 'effaith ddinistriol' ar y tlotaf

  • Cyhoeddwyd
Penrhys, Rhondda Cynon TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhondda Cynon Taf ymysg yr ardaloedd gyda'r gyfradd marwolaethau uchaf yng Nghymru, er bod y niferoedd yno wedi gostwng yn sylweddol bellach

Mae'r pandemig coronafeirws wedi datgelu anghyfartaledd mewn cymdeithas ac wedi cael effaith "ddinistriol" ar y cymunedau tlotaf, yn ôl ymchwiliad.

Dywedodd aelodau'r Senedd bod y feirws a'r cyfnod cloi wedi cael yr effaith gwaethaf ar y grwpiau mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas.

Mae aelodau'n galw am gynllun i adeiladu gwlad "decach", gan ddweud bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai trechu anghydraddoldeb wrth wraidd ei hymdrechion i greu "Cymru well".

Roedd aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau eisiau gwybod sut oedd ffactorau fel incwm, rhyw, ethnigrwydd ac oedran yn effeithio ar brofiad pobl o'r pandemig.

Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod pobl mewn ardaloedd mwyaf difreintiedig bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw gyda coronafeirws na'r rhai mwyaf cefnog.

Roedd gweithwyr ar gyflogau isel hefyd yn fwy tebygol o fod mewn diwydiannau a oedd wedi eu cau ac yn llai abl i weithio o adref.

Yn yr adroddiad, mae'r pwyllgor yn ailadrodd galwad am strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â thlodi - rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wrthod o'r blaen.

"Mae effaith ddinistriol y pandemig ar y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn gwneud yr achos dros strategaeth o'r fath yn gryfach fyth," meddai'r adroddiad.

Rhyw

Mae dynion yn fwy tebygol o fod yn sâl iawn neu farw gyda Covid-19, ond mae'r adroddiad yn dangos baich y pandemig ar fenywod hefyd.

Menywod sydd yn cynrychioli'r ganran fwyaf o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a nhw wnaeth y rhan fwyaf o waith gofal di-dal yn y cartref.

Mae data Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos mai menywod o leiafrifoedd ethnig yw'r mwyaf tebygol o wneud swyddi sy'n dod â phobol i gysylltiad gyda coronafeirws.

Ethnigrwydd

Roedd mwy o berygl i bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) o fynd yn sâl, meddai'r adroddiad.

Mae pobl o gefndiroedd BAME hefyd yn fwy tebygol o weithio yn y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer fawr o feddygon yn y Gwasanaeth Iechyd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig

Ond mae prinder gwybodaeth ar ethnigrwydd yn ei gwneud hi'n anodd dadansoddi'r effaith arnyn nhw.

Roedd prinder data am gleifion hefyd. I ddechrau, nid oedd ethnigrwydd cleifion a oedd yn marw gyda Covid-19 yn cael ei gofnodi.

Addysg

Mae `na bryder y gallai plant oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn yr ysgol i wneud hyd yn oed yn waeth o ganlyniad i'r pandemig.

Yn gyffredinol, mae gan fechgyn, plant o deuluoedd incwm isel a'r rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig lefelau cyrhaeddiad is, fel y mae rhai plant o leiafrifoedd ethnig.

Mae cau ysgolion "yn debygol o ehangu'r anghydraddoldebau hyn" a fe fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru helpu'r plant yna, meddai'r adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae pryder hefyd bod rhai plant heb dderbyn cyfrifiaduron a dyfeisiadau tabledi cyfrifiadurol, er gwaethaf cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i brynu offer.

Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gallai athrawon gael eu dylanwadu gan ragfarn ymwybodol neu anymwybodol hefyd, wrth ddyfarnu graddau wedi i arholiadau cael eu dileu.

Y genhedlaeth hÅ·n

Yn ogystal â'r risg o ddiodde'n wael gyda'r firws, mae pobl hŷn wedi wynebu "trallod ychwanegol" o gysgodi a'r posibilrwydd o golli triniaeth.

Cafodd dyletswydd i asesu'r gofal sydd ei angen ar bobl hÅ·n a phobl anabl ei gohirio er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd a chynghorau yn ystod yr argyfwng.

Nid yw'r ddyletswydd wedi'i hail-osod o hyd, sy'n "danfon neges bwerus at y grwpiau hynny o bobl nad yw cyflawni eu hanghenion gofal yn cael ei ystyried yn hanfodol", meddai'r adroddiad.

Roedd y pwyllgor hefyd yn croesawu gwaith gan y Comisiwn Cydraddoldeb a'r Comisiynydd Pobl HÅ·n i weld os oedd hawliau dynol wedi eu torri. Mae'n dilyn nifer uchel o farwolaethau mewn cartrefi gofal.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cytuno bod pandemig y coronafeirws wedi cael effaith anghymesur ar lawer o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

"Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o'r fath yn ganolog i'n hymdrechion i greu Cymru well yn dilyn y pandemig."