Â鶹ԼÅÄ

'Angen gwneud pob ymdrech i ddiogelu busnesau bach'

  • Cyhoeddwyd
Caffi gwagFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i nifer o siopau a chaffis gau dros dro oherwydd prinder cwsmeriaid

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart a Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates yn galw ar Lywodraethau'r DU a Chymru i gydweithio a gwneud pob ymdrech i ddiogelu dyfodol busnesau bach Cymru.

Fe ddaw y llythyr yn sgil pryderon y bydd coronafeirws yn dod yn rhan nodweddiadol o fywyd pob dydd am gryn amser, ac mae'r ffederasiwn yn galw am baratoi ar gyfer rheoli achosion lleol o'r feirws o fewn cymunedau lleol yn ofalus.

Yn sgil cynnydd mewn achosion yn rhai ardaloedd yn Lloegr, cafodd cyfyngiadau eu hailosod yng NghaerlÅ·r ac yn ardal Manceinion i ddelio gyda'r sefyllfa ar lefel leol.

Er nad yw Llywodraeth Cymru wedi gorfod delio gydag achosion ar lefel gymunedol eto, dywed FSB Cymru fod "rhaid troi sylw at gynllunio wrth gefn sut y gellir cefnogi'r sector busnes trwy unrhyw gau lleol o'r fath".

'Mwy agored i broblemau ariannol sylweddol'

Gyda'r Cynllun Cadw Swyddi yn dechrau dirwyn i ben, a'r disgwyl iddo ddod i ben yn llwyr ym mis Hydref, fe fydd cwmnïau'n gorfod cynnal costau rhedeg llawn eu hunain unwaith yn rhagor.

Mae'r ffederasiwn yn pryderu y gallai hyn adael cwmnïau'n fwy agored i broblemau ariannol sylweddol pe bai cyfyngiadau cloi lleol yn eu hatal rhag masnachu unwaith eto.

Mae FSB Cymru hefyd wedi galw am greu cynllun cyfathrebu sy'n denu sefydliadau, busnesau a phartneriaid eraill o bob rhan o Gymru all helpu i hysbysu'r gymuned fusnes am yr hyn sy'n digwydd, pwy sy'n cael eu heffeithio a sut mae angen iddynt ymateb.

Dywedodd Ben Francis, Cadeirydd Polisi FSB Cymru fod "yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel o galed ar fusnesau ym mhob sector a phob cornel o'n gwlad.

"Rydyn ni i gyd yn dod o hyd i ffyrdd o addasu ein bywydau bob dydd i'r realiti y bydd coronafeirws yn rhan o'n bywydau am gryn amser i ddod.

"Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cynllunio ar gyfer sicrhau nad yw unrhyw gamau yn y dyfodol i atal lledaeniad coronafeirws yn gwneud mwy o ddifrod i fusnesau.

"Mae llawer o gwmnïau eisoes wedi defnyddio eu cronfeydd wrth gefn ac wedi mynd i ddyled er mwyn goroesi'r cyfnod cloi cyntaf. Rhaid edrych ymlaen nawr ar sut y gallwn sicrhau na fydd ail don - a'r cyfyngiadau a allai ddod gyda hi - fydd y gwelltyn olaf ar gyfer y busnesau sy'n ganolog i'n cymunedau."