Gwahardd ceir i helpu busnesau ddilyn rheolau Covid-19

Ffynhonnell y llun, Stephen McKay/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Bydd ceir yn cael eu gwahardd o Heol y Brenin, Caerfyrddin i helpu busnesau ddilyn canllawiau coronfeirws

Ni fydd ceir yn cael defnyddio rhai o strydoedd siopa prif drefi Sir Gaerfyrddin yn ystod y dydd, er mwyn helpu busnesau ddilyn canllawiau coronafeirws.

Bydd llwybrau un-ffordd hefyd yn cael eu sefydlu i helpu pobl giwio a chadw pellter.

Bydd llefydd parcio'n cael eu symud i wneud mwy o le i bobl, a bydd cyfyngiadau cyflymder yn cael eu gostwng i 20 m.y.a.

Bydd ceir yn cael eu gwahardd o Heol y Brenin, Heol y Frenhines a Sgwâr Nott, Caerfyrddin rhwng 10:00 a 16:00.

Yn Llanelli bydd Stryd Cowell yn dilyn yr un drefn rhwng 10:00 a 16:00, a bydd rhan o Stryd y Gwynt Rhydaman ar gyfer cerddwyr yn unig.

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Bydd mesurau tebyg mewn grym yn Stryd Cowell Llanelli

Dywedodd Cyngor Sir Gâr y bydd y camau hyn hefyd yn gyfle i fesur newidiadau yn safon yr aer.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, ei fod yn gobeithio y byddai'r mesurau newydd yn helpu busnesau.

"Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd pobl yn dod yn ôl i ganol ein trefi ac yn eu helpu i ffynnu eto trwy siopa a threulio'u hamser hamdden yn lleol.

"Rydym yn annog pobl i brynu'n lleol a chefnogi busnesau Sir Gâr," meddai.