Galw ar Betsi i ryddhau adroddiad uned iechyd meddwl

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw unwaith yn rhagor ar fwrdd iechyd i ryddhau holl fanylion adroddiad o 2013 wnaeth "nodi safonau gofal pryderus" mewn uned iechyd meddwl.

Roedd Adroddiad Holden i uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor wedi rhybuddio fod y ward mewn "trafferthion difrifol."

Cafodd copi o'r adroddiad a oedd wedi ei olygu ei

Ym mis Mehefin eleni, fe wnaeth swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddweud wrth Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ryddhau'r adroddiad yn llawn.

Fe wnaeth y Bwrdd apelio'r penderfyniad.

Maen nhw'n dadlau y byddai "rhyddhau'r adroddiad llawn yn torri ymddiriedaeth y rhai oedd wedi cyfrannu i'r adroddiad."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod camau wedi eu cymryd i fynd i'r afael a'r argymhellion yn yr adroddiad oedd yn edrych ar uned Hergest

Cafodd arolwg o uned seiciatryddol Hergest ei gomisiynu yn dilyn cwynion gan staff.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Robin Holden, fod y berthynas rhwng y staff wedi'i "chwalu i'r fath raddau fel bod cyfaddawdu yn digwydd wrth ofalu am gleifion".

Mewn datganiad ar y pryd dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod camau wedi eu cymryd i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys ailstrwythuro rheolaeth y bwrdd ar wasanaethau iechyd meddwl.

Yn ddiweddarach daeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dan fwy o feirniadaeth yn dilyn ymchwiliad i ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd - a chafodd y bwrdd ei osod dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru yn 2015.

Mae'r mesurau arbennig yn parhau mewn grym.

Disgrifiad o'r llun, Roedd ward Tawel Fan, Ysbyty Glan Clwyd, yn destun ymchwiliad ar wahan

Ar 8 Mai 2019, roedd yna gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am "gopi o adroddiad llawn Robin Holden, wedi'i olygu i'r graddau sydd eu hangen yn unig i amddiffyn cyfrinachedd cleifion a hunaniaeth y chwythwyr chwiban".

Gwrthodwyd y cais ac fe arweiniodd hynny y Comisiynydd Gwybodaeth i adolygu'r penderfyniad.

Mewn rhybudd a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2020, fe dderbyniodd Catherine Dickenson o swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i "ddatgelu copi llawn o'r adroddiad gyda dim ond enwau unigolion sy'n destun yr achwyniadau wedi'u golygu."

Ond mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad.

Dywedodd Simon Dean, prif weithredwr dros dro'r bwrdd, fod ganddynt ddyletswydd o ofal i'w staff ac y byddai cyhoeddi'r adroddiad llawn yn torri eu hymddiriedaeth.

"Ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn 2014, rydym wedi cymryd nifer o gamau i wella safonau a gofal yn Uned Hergest," meddai.

Ychwanegodd fod archwiliadau gan Arolygaeth Iechyd Cymru wedi dangos fod safonau wedi gwella.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd adolygiad ar uned seiciatryddol Hergest ei gomisiynu ar ôl cwynion gan staff

Yr ymateb i benderfyniad y bwrdd iechyd

Dywedodd Darren Millar AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd fod gan bobl yr hawl i wybod a oedd modd osgoi sefyllfaoedd fel Tawel Fan.

"Mae ymdrechion bwriadol i rwystro cyhoeddiad llawn yn tanseilio'r ymddiriedaeth rhwng y bwrdd a'r bobl maent yn gwasanaethu," meddai.

Mae Rhun ap Iorwerth llefarydd Plaid Cymru ar iechyd wedi galw ar y gweinidog iechyd Vaughan Gething i ymyrryd.

"Mae teuluoedd wedi ymladd yn galed er mwyn rhyddhau'r adroddiad.

"Mae rheolwyr y bwrdd wedi ymladd i gadw'n gyfrinach pob cam o'r ffordd, ac mae hynny'n codi nifer o gwestiynau.

"Os nad oes dim byd o'i le, be sydd yna i guddio?"

Ar raglen Sunday Supplement Â鶹ԼÅÄ Radio Wales dywedodd Lesley Griffiths gweinidog yr amgylchedd; "Rwy'n credu os ydych yn gallu cyhoeddi gwybodaeth, mae'n dda o beth i fod yn dryloyw ac mae'n rhywbeth y bydd y gweinidog iechyd yn trafod gyda'r bwrdd iechyd."