Â鶹ԼÅÄ

Awyrennau di-beilot i helpu achub bywydau

  • Cyhoeddwyd
BristowFfynhonnell y llun, MCA

Bydd awyrennau di-beilot yn hedfan i gefnogi gwaith Gwylwyr y Glannau am y tro cyntaf y penwythnos hwn.

Fe fydd yr awyrennau yn cefnogi gwaith chwilio ac achub yng ngogledd Cymru dros y môr ac yn y mynyddoedd.

Cynnig cefnogaeth diogelwch i Wylwyr y Glannau yw nod y prawf gweithredol, ac fe fydd yr awyrennau Bristow yn hedfan allan o Gaernarfon.

Yn y penwythnos cyntaf fe fyddan nhw'n gwneud patroliau dros draethau o fae Conwy i Landudno a dros Eryri.

Daw hyn yn dilyn cyfnod o brofi'r awyrennau a ddechreuodd ym mis Mawrth eleni.

Achub mwy o fywydau

Dywedodd Gweinidog Morol Llywodraeth y DU, Kelly Tolhurst: "Rydym yn chwilio am ffyrdd dyfeisgar a newydd i ddod â gwaith chwilio ac achub i'r 21ain ganrif.

"Mae gan dronau y potensial i gynorthwyo i'n timau Gwylwyr y Glannau ac achub mwy o fywydau.

Ychwanegodd Claire Hughes, cyfarwyddwr Gwylwyr y Glannau: "Mae bob eiliad yn bwysig wrth geisio achub bywydau... mae gan y dechnoleg yma rhan fawr i'w chwarae yn yr eiliadau pwysig yna ochr yn ochr â'n hofrenyddion, timau achub a'n partneriaid o'r RNLI a badau achub eraill."