Â鶹ԼÅÄ

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd: Y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Emyr Llywelyn, Anwen Butten a Wynne Melville JonesFfynhonnell y llun, Amryw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Llywelyn, Anwen Butten a Wynne Melville Jones ymhlith y rhai fydd yn cael eu hurddo yn Nhregaron y flwyddyn nesaf

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 yn Nhregaron.

Cafodd yr eisteddfod ei gohirio am flwyddyn oherwydd argyfwng coronafeirws.

Dyma'r rhai o'r gorllewin fydd yn cael eu hurddo bryd hynny.

Gwisg Werdd

Rhiannon Evans: Mae Rhiannon Evans, Blaenpennal, yn adnabyddus am ei gemwaith, sy'n ddeongliadau gwreiddiol o'n traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd, yn arbennig felly chwedlau'r Mabinogion a chwlt y Seintiau. Ers ei sefydlu yn 1971, mae Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Cynllun Crefft Cymru wedi dod yn gyfystyr bron â Thregaron ei hun. Mae'r Ganolfan yn hybu crefftwaith a wnaed yng Nghymru ac yn noddi artistiaid a dylunwyr o safon trwy'r siop, y gweithdy a'r Oriel. Mae Rhiannon wedi arwain datblygu economaidd gwledig trwy gyd-sylfaenu 'ATOM Tregaron' yn y 1970au, a bu'n fentor i Awdurdod Datblygu Cymru, ac yn aelod o fenter Curiad Cymru.

Wynne Melville Jones: Yn wreiddiol o Dregaron, mae enw Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau'r-Glyn yn gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist. Dyn datblygu syniadau a'u gwireddu ydyw. Mae'r Urdd yn agos at ei galon ac mae'n Llywydd Anrhydeddus y mudiad. Sefydlodd StrataMatrix, cwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru, a'i redeg yn llwyddianus am 30 mlynedd ac mae'n un o sylfaenwyr Golwg Cyf. Yn weithgar yn ei gymuned sefydlodd, gydag eraill, y Banc Bro i ddatblygu gweithgareddau cymdeithasol lleol yn y Gymraeg. Wedi ymddeol, ail-gydiodd mewn Celf a bu'n hynod gynhyrchiol a llwyddiannus, gan dynnu'n helaeth ar ddyfnder ei wreiddiau yn Nhregaron a Cheredigion.

Helgard Krause: Yn wreiddiol o ardal Pfalz, Yr Almaen, daeth Helgard Krause, Aberaeron i Gymru yn 2005. Cafodd swydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn marchnata llyfrau dramor, oherwydd ei phrofiad eang yn y byd cyhoeddi. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymrwymodd i ddysgu Cymraeg er mwyn dod yn Bennaeth Marchnata'r Cyngor, ac ymhen rhai misoedd, roedd yn rhugl. Yn dilyn cyfnod fel Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, dychwelodd i'r Cyngor Llyfrau yn 2017, wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr y sefydliad. Mae'n esiampl arbennig o'r modd y gall rhywun heb gysylltiad â Chymru ddod yn arweinydd un o'n prif sefydliadau drwy gofleidio ein hiaith a'n diwylliant.

Emyr Llywelyn: Brodor o ardal Llandysul yw Emyr Llywelyn, Ffostrasol, sydd wedi gweithio ar hyd ei oes i hyrwyddo a diogelu ein hiaith a'n diwylliant. Bu'n weithgar yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth, ac roedd ar flaen y gad yn y trafodaethau i sefydlu neuadd Gymraeg, ymgyrch a arweiniodd at sefydlu Neuadd Pantycelyn. Fe'i carcharwyd yn 1963 am achosi difrod i safle adeiladu argae Tryweryn, cyn cyhoeddi na fyddai'n defnyddio trais eto. Bu'n gyfrifol am sefydlu ac arwain Mudiad Adfer o ddechrau'r 1970au ac ef yw golygydd cylchgrawn Y Faner Newydd. Bu'n gyson weithgar yn ei gymuned yng Ngheredigion dros y blynyddoedd.

Ann Bowen Morgan: Yn wreiddiol o'r Rhyl, mae Ann Bowen Morgan yn byw yn Llanbedr Pont Steffan ers bron i ddegawd, ac mae'n rhan ganolog o fywyd y dref. Mae'n chwarae rhan flaenllaw mewn pob math o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, gan hyrwyddo'r Gymraeg ym mhob agwedd arni. Mae'n diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi gweithio'n ddygn er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhan o'r gymuned leol. Bu'n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Gorymdaith Gŵyl Ddewi yn y dref, ac mae'n ymroddgar i brosiectau fel y Pwyllgor Croesawu Ffoaduriaid sy'n cefnogi teuluoedd o Syria sy'n byw yn lleol.

Huw Rhys-Evans: A'i wreiddiau yn ardal Tregaron a phlwyf Llanddewi Brefi, mae Huw Rhys-Evans, Harrow, wedi gwneud enw iddo'i hun fel tenor llwyddiannus sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd, gan roi Cymru ar y map ar lwyfannau megis Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, TÅ· Opera Bastille, Paris, a Neuadd Albert, Llundain. Yn enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, bu'n driw i'r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol ers blynyddoedd, gan ddychwelyd i feirniadu ac arwain Cymanfaoedd Canu. Mae'n dysgu canu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain, yn aelod o nifer o gymdeithasau, ac yn canu i godi arian at achosion Cymraeg yn Llundain yn rheolaidd.

Geraint Roberts: Er bod Geraint Roberts, Caerfyrddin wedi gwneud cyfraniad arloesol i fyd addysg cyfrwng Cymraeg, fe'i hanrhydeddir am ei gyfraniad i fyd llên a diwylliant Cymru. Mae'n genhadwr dros Gerdd Dafod ac yn weithgar yn lleol a chenedlaethol. Ef yw sefydlydd Ysgol Farddol Caerfyrddin, a'i frwdfrydedd a'i ddawn trefnu ef sydd wedi sicrhau parhad yr ysgol fywiog hon dros gyfnod o 30 mlynedd. Ef hefyd, ers rhyw ddeng mlynedd, sy'n trefnu tîm yr Ysgol Farddol Fach, sy'n cynnig gwersi blasu'r cynganeddion yn ardal Caerfyrddin dros yr haf. Mae'n gefnogwr brwd o eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru ac wedi ennill llu o wobrau a chadeiriau.

Gwisg Las

Anwen Butten: Bowls sy'n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac fe'i hanrhydeddir am ei chyfraniad i'r gamp ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn cystadlu ar lefel fyd-eang, mae Anwen bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi, ac wedi'i dewis yn aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad y tro nesaf. Yn ogystal â'i llwyddiant ym myd y campau, mae gan Anwen yrfa lwyddiannus fel nyrs arbenigol cancr y pen a'r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mary Davies: Nid gormodiaith fyddai dweud y byddai llawer o weithgareddau Cymraeg ardal Llanbedr Pont Steffan yn dod i stop heb gyfraniad Mary Davies, Dre-fach, Llanybydder. Mae wedi gweithio'n ddiflino dros fudiadau a digwyddiadau - nid yn ysbeidiol ond gyda dyfalbarhad a dycnwch - dros ddegawdau. Bu Mary'n ymwneud â phapur bro Clonc ers ei sefydlu, ac mae hefyd wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn yr ardal. Mae'i chyfraniad i fudiadau lleol, gan gynnwys y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd, ac Undodiaid y Smotyn Du, wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd. Hyd yn oed o ystyried bod gweithwyr caled ym mhob bro, mae cyfraniad Mary Davies yn eithriadol.

Glan Davies: Un o Frynaman yn wreiddiol, mae Glan Davies, Rhydyfelin, Aberystwyth, yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel actor a digrifwr. Yn arweinydd carismatig nosweithiau llawen ledled Cymru, bu'n chwarae rhan Clem Watkins yn Pobol y Cwm o 1988 tan 1997. Cafodd ei ddewis i dywys Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn 2017, yn sgil ei gyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal. Mae'n adnabyddus am ei waith elusennol, gan godi arian i Blant mewn Angen, elusennau iechyd, Clwb Rygbi a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth. Mae hefyd yn rhan greiddiol o'r elusen Calonnau Cymru, a lwyddodd i sicrhau dros 70 o ddiffibrilwyr cyhoeddus yng Ngheredigion a thros 1,300 ar draws Cymru gyfan.

Cyril Evans: Anrhydeddir Cyril Evans, Tregaron, am ei gyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg am flynyddoedd lawer. Bu'n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am bron i ddeng mlynedd ar hugain, gan gyfrannu'n helaeth i fywyd a gwaith y sefydliad hwnnw. Yn ogystal, mae Cyril wedi cyfrannu llawer i fywyd a diwylliant ei filltir sgwâr. Fe'i hanrhydeddwyd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei ymroddiad i Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, fel ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor. Mae'n rhan allweddol o weithgareddau cymunedol yr ardal, ac yn un o'r rhai sy'n cadw Ysgoldy Llanio, hen gartref ei deulu, ar agor, gan gynnal gwasanaeth a chwrdd yno'n rheolaidd.

Anne Gwynne: Mae cyfraniad Anne Gwynne, Tregaron, i'w chymuned yn dyddio'n ôl dros hanner canrif. Ymysg y cymdeithasau a'r sefydliadau sydd wedi elwa o'i gwaith mae cangen Bronnant o Ferched y Wawr, lle bu'n gyfrifol am gasglu deunydd ar gyfer cyfrol i ddathlu 50fed pen-blwydd y gangen, a Chymdeithas Hanes Tregaron. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg yn Nhregaron, a dywed ei disgyblion ei bod yn athrawes 'ardderchog iawn'. Ond, mae'i chyfraniad mwyaf efallai i Gymdeithas Edward Llwyd. Bu'n arwain nifer o deithiau cerdded o'r cychwyn, ac er 2004, bu'n cofnodi'r teithiau misol yn fanwl, ynghyd â nifer o luniau, gan greu archif amhrisiadwy ar gyfer y Gymdeithas.

LlÅ·r James: Mae llawer o gymwynasau LlÅ·r James, Caerfyrddin, yn digwydd yn dawel bach, heb dynnu sylw, ac mae hyn yn nodweddiadol o'r cyfrifydd siartredig hwn sy'n rhedeg ei fusnes ei hun ers yr 1980au. O'r cychwyn, roedd ei gwmni'n darparu gwasanaeth trwyadl Gymraeg. Dros y blynyddoedd, mae wedi pwyso i sicrhau bod yr awdurdodau'n cydnabod ffurflenni a dogfennau yn yr iaith, gan alluogi busnesau a sefydliadau i gynnal eu gweithgaredd hwythau trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'n hael ei gefnogaeth, gan noddi nifer o ddigwyddiadau a sefydliadau Cymraeg, ac mae'n Drysorydd ar Ysgol Farddol Caerfyrddin - ac mae yntau bellach yn cynganeddu hefyd.

Janet Mair Jones: Mae Janet Mair Jones, Pencader, wedi rhoi oes o wasanaeth yn lleol a chenedlaethol, ac mae'i drws bob amser yn agored os oes angen help, boed yn gacennau, darllen gyda phlant ysgol neu sicrhau bod y neuadd gymunedol yn daclus ar ôl ei defnyddio. Mae'n gydlynydd 'County Cars', gwasanaeth lleol i unigolion oedrannus sy'n methu defnyddio bws neu yrru car. Mae'n rhan allweddol o dîm arolygwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae hi a'i gŵr, Eric, wedi gwasanaethu'r Brifwyl am flynyddoedd, gyda Janet yn gofalu am fynediad yr Orsedd i'r Pafiliwn. Braf fydd ei gweld yn cyd-gerdded gyda'r Gorseddogion eraill yn Eisteddfod Ceredigion.

Carys Stevens: Mae cyfraniad Carys Stevens, Aberaeron, i ofal diwedd-oes yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yn enfawr. Mae'n argyhoeddedig fod gan bawb yr hawl i fyw a marw gydag urddas. Sefydlodd gyswllt â phob practis meddygol lleol, gan sicrhau bod tîm o staff, yn wirfoddolwyr a staff cyflogedig, wrth law i gefnogi cleifion a'u teuluoedd. Sefydlodd wasanaeth Hosbis yn y Cartref i fynd i'r afael â heriau darparu gofal lliniarol diwedd-oes i drigolion mewn cymunedau gwledig lleol. Rhydd bwyslais ar addysgu am farw a byw, gan annog siarad yn agored a meithrin agwedd realistig a dyngarol tuag at ddiwedd oes.