Gwrthod cais i roi'r grym i gynnal refferendwm annibyniaeth

Disgrifiad o'r llun, Mae gorymdeithiau o blaid annibyniaeth wedi'u cynnal ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf

Mae cais i roi'r grym i weinidogion Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth wedi cael ei wrthod gan Senedd Cymru.

Cafodd cynnig Plaid Cymru ei wrthod gan 43 o aelodau, gyda naw o blaid ac un yn gwrthod eu pleidlais.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru y gallai Cymru fod wedi delio'n well â'r pandemig Covid-19 pe bai'n llywodraethu ei hun.

Ond yn ôl y Ceidwadwr Darren Millar byddai annibyniaeth yn gwneud Cymru'n "llai gwydn i ddigwyddiadau byd-eang".

Dywedodd y gweinidog Llafur, Jane Hutt ei bod o'r farn mai'r sefyllfa orau i Gymru ydy cael "datganoli cryf o fewn Teyrnas Unedig gref".

Yn gyfansoddiadol, byddai angen i Lywodraeth y DU gytuno i gynnal refferendwm ar annibyniaeth, fel oedd yr achos yn Yr Alban yn 2014.

'Cefnogi'r egwyddor'

Yn agor y drafodaeth, dywedodd Mr ap Iorwerth, aelod Ynys Môn, y byddai Cymru wedi delio'n well â'r pandemig be bai ganddi'r "math o arfau y mae gan wledydd annibynnol y gallu i ddyfeisio".

Ychwanegodd bod gan wledydd bychan fel "Norwy, Gweriniaeth Tsiec, Croatia, Serbia a Lithwania" gyfraddau marwolaethau "deg gwaith yn llai na Chymru".

"Dydyn ni ddim yn gofyn i'r Senedd gefnogi annibyniaeth heddiw, ond yn gofyn iddi gefnogi'r egwyddor mai pobl Cymru ddylai ddewis," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth ofyn i aelodau'r Senedd "gefnogi'r egwyddor mai pobl Cymru ddylai ddewis"

Dywedodd Mr Millar, aelod Ceidwadol Gorllewin Clwyd y byddai annibyniaeth yn "ddrwg i Gymru a drwg i'r Deyrnas Unedig".

"Byddai'n ein gwneud yn llai gwydn i ddigwyddiadau a thrychinebau byd-eang - fe fydden ni'n llai diogel," meddai.

Dywedodd unig aelod UKIP o'r Senedd, Neil Hamilton, y byddai annibyniaeth yn gweld economi Cymru'n "crebachu".

"Rwy'n meddwl ein bod wedi gweld yn yr 20 mlynedd ddiwethaf bod datganoli wedi methu'n llwyr ar yr addewidion oedd wedi'u gwneud amdano," meddai.

'Ni yw adeiladwyr Cymru well'

Dywedodd unig aelod plaid Abolish the Welsh Assembly, Gareth Bennett mai'r unig refferendwm ddylai gael ei gynnal ydy un i i gael gwared ar y Senedd.

Yn ôl y dirprwy weinidog Llafur, Ms Hutt, y sefyllfa orau i Gymru ydy cael setliad datganoli cryf, a bod "y Deyrnas Unedig yn well a chryfach o gael Cymru ynddi".

Ond cyfaddefodd ei bod yn ystyried y setliad presennol fel un "hen ffasiwn ac anaddas".

Yn cau'r drafodaeth dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod Brexit a'r pandemig wedi "agor meddyliau pobl i bosibiliadau newydd".

"Ni, pobl Cymru yw adeiladwyr Cymru well. Ni fydd unrhyw un arall yn ei hadeiladu ar ein rhan," meddai.