Pandemig yn dangos gwendidau cynllunio cartrefi newydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Daniel Griffiths yn hapus gyda'i fflat, ond yn rhwystredig nad oes gofod personol tu fas
  • Awdur, Dafydd Morgan
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae'r pandemig Covid-19 wedi dangos nad oes digon o lefydd preifat tu fas mewn datblygiadau preswyl, yn ôl Comisiwn Dylunio Cymru.

Dywedodd y comisiwn ei bod hi'n debygol iawn y gwelwn ni newid mewn dyluniad ardaloedd cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae Daniel Griffiths wedi bod yn byw yn ei fflat yng Nghaerdydd gyda'i gariad ers rhyw flwyddyn a hanner.

Mae'n hapus gyda'i gartref, y lleoliad, yr adnoddau - ond mae'r cyfnod clo wedi tynnu sylw at un peth.

'Rhwystredig'

"Mae'r fflat yn rili neis, a ma' fe'n agos i fi o ran gwaith - mae'r lleoliad yn grêt," meddai wrth raglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.

"Ond yn anffodus does dim balconi gyda ni. Dwi ar y llawr cyntaf yn y bloc o fflatiau.

"A thu fas mae 'na faes parcio, sy'n ideal i gadw'r car bant o'r hewl, ond wedyn does dim gardd bersonol er mwyn cael awyr iach."

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Daniel Griffiths bod y cyfnod clo wedi amlygu'r angen am falconi neu ardd bersonol

Dywedodd ei bod yn rhwystredig peidio cael ardal yn yr awyr agored, yn enwedig ar ddechrau'r cyfnod clo ble roedd y cyfyngiadau'n llawr mwy llym.

"Gallen i fod wedi mynd i'r lle parcio i eistedd yn yr haul, neu ar bwys y car, ond dyw hwnna ddim yr un peth a gallu mynd mas i gael awyr iach mewn lle personol dy hunan," meddai Daniel.

"O'dd hwnna'n bach o struggle a bod yn onest - jest rhwystredig.

"Hyd yn oed os byddai balconi bach gyda ni bydden ni'n gallu mynd mas i gael bach o awyr iach a chael haul, neu fwyd tu fas, ond yn anffodus doedden i ddim yn gallu gwneud hynny yn y bloc o fflatiau rwy'n byw ynddo."

'Diffyg hyblygrwydd cartrefi'

Nid Daniel yw'r unig un i gael y broblem yma.

Yn ôl Efa Lois o Gomisiwn Dylunio Cymru, mae'r cyfnod clo wedi dangos gwendidau amlwg o ran dyluniad y llefydd ry'n ni byw.

"Dwi'n meddwl bod diffyg hyblygrwydd o fewn cartrefi, fel diffyg mynediad i ofod allanol, yn enwedig i'r rheiny sy'n byw mewn fflatiau heb falconi neu ardd," meddai.

"Y ffaith nad oes modd i bawb gerdded o gwmpas a chael mynediad i wasanaethau a'r pethau sydd angen arnyn nhw wrth gadw pellter cymdeithasol.

"Anhygyrchedd rhai cartrefi hefyd, o ran bod dim modd i rai pobl - oherwydd ble maen nhw'n byw - fynd i gerdded mewn parc neu gael mynediad i ryw ofod allanol sy'n saff.

"Dwi'n credu bod y misoedd diwethaf 'ma wedi amlygu beth yw gwerth balconi a gofodau fel roof terraces a gerddi cymunedol a gerddi preifat, a'r pwysigrwydd bod gan bobl fynediad i ofodau gwyrdd cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n agos i ble maen nhw'n byw, a hefyd bod modd mynd i'r gofodau 'ma yn ddiogel."

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Efa Lois mae'r cyfnod clo wedi amlygu gwendidau o ran dyluniad y llefydd ry'n ni byw

Ychwanegodd ei bod yn debygol iawn y gallwn ni ddisgwyl peth newid yn y dyfodol.

"Does dim angen newid mawr i'r system gynllunio o reidrwydd ond falle bod angen mwy o ffocws ar y syniad o greu lleoedd gwell a saffach i bobl," meddai.

'Man gwan'

Mae cyfarwyddwr y Royal Town Planners Institute Cymru, Dr Roisin Willmott yn cytuno.

"Efallai bod y pandemig wedi amlygu beth sydd angen ar bobl o'r llefydd maen nhw'n byw, a bod ardaloedd gwyrdd agored yn bwysig," meddai.

"Y man gwan yw pan nad yw pobl yn gallu cael mynediad i fynd tu fas.

"Felly, yn ystod y cyfnod clo, mae hi'n anodd iawn os ydych chi mewn tÅ· neu fflat fach iawn heb unrhyw ofod tu fas o gwbl."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Roisin Willmott bod diffyg ardaloedd tu fas yn "fan gwan" o ran dylunio

Dywedodd cyfarwyddwr cynllunio Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai, Andrew Whitaker wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod datblygwyr yn barod i ddarparu'r hyn mae cwsmeriaid yn gofyn amdano.

"Un o'r blaenoriaethau allweddol pan yn adeiladu cartrefi dwysedd uchel mewn ardaloedd trefol yw creu ardaloedd tu fas i bobl allu mwynhau, boed hynny yn agosrwydd at barc neu falconi sy'n creu gofod tu fas," meddai.