Â鶹ԼÅÄ

Pryder na fydd cefnogaeth i ymfudwyr sy'n ffoi camdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
Cam-drinFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymfudwyr sy'n ffoi rhag trais yn y cartref mewn perygl o golli eu cefnogaeth wedi'r pandemig, yn ôl elusen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol yn ystod y pandemig i gefnogi pobl sydd heb hawl i unrhyw arian cyhoeddus oherwydd eu statws mewnfudo.

Ond am nad yw mewnfudo wedi'i ddatganoli, mae gweinidogion Cymru'n dweud y gallan nhw "ei chael yn anodd helpu pobl" pan na fydd rheswm iechyd cyhoeddus dros wneud hynny.

Dywedodd y Swyddfa Gartref bod cynllun peilot gwerth £1.5m mewn lle i roi arian i elusennau sy'n cefnogi pobl sydd ddim yn gallu derbyn arian cyhoeddus.

Does gan unrhyw un sy'n mynd trwy'r system mewnfudo ddim hawl i arian cyhoeddus fel budd-daliadau.

Mae pobl sydd yn y DU yn gyfreithlon yn gallu bod yn y sefyllfa yma, er enghraifft os oes ganddyn nhw fisa myfyriwr neu fisa trwy briodas.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Julie James mae merched "weithiau'n teimlo nad oes ganddyn nhw opsiwn ond aros" gyda phartner sy'n eu cam-drin

Dywedodd Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru, Julie James bod £10m wedi'i roi i gefnogi pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn ystod y pandemig, gan gynnwys dioddefwyr trais yn y cartref a phobl sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fewnfudo ond gan fod Cymru'n gyfrifol am iechyd, maen nhw wedi gallu darparu cymorth i bobl ar sail iechyd cyhoeddus.

"Yn anffodus, unwaith y bydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus wedi dod i ben, oni bai bod Llywodraeth y DU yn gwneud rhywbeth, fe fyddwn ni'n ei chael yn anodd helpu pobl," meddai Ms James.

"Rwy'n enwedig yn bryderus am ferched sy'n ffoi rhag trais yn y cartref, ond sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus, sydd weithiau'n teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond aros am nad oes ganddyn nhw unrhyw le arall i fynd."

'All neb eich cefnogi chi'

Dywedodd Wanjiku Mbugua o gorff Bawso - sy'n darparu llety dros dro i ferched BAME sy'n wynebu trais yn y cartref - ei bod yn bosib na fyddai merched sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus yn cael eu derbyn gan loches am nad ydyn nhw'n gymwys am fudd-dal tai er mwyn ariannu eu lle.

Fe wnaeth Ms Mbugua wynebu sefyllfa debyg 20 mlynedd yn ôl tra'n byw ym Mhen-y-bont.

"Fe es i at yr awdurdod lleol i ofyn am gymorth, tra'n gafael yn fy mabi blwydd oed," meddai.

"Fe ddywedon nhw wrtha i 'all neb eich cefnogi chi - mae'n rhaid i chi fynd yn ôl at eich gŵr'.

"Roedd hi'n sefyllfa mor anodd - roedd gen i blant saith ac un oed ac yn newydd iawn i'r wlad - doeddwn i ddim yn 'nabod unrhyw un."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wanjiku Mbugua bod merched yn poeni y byddan nhw'n cael eu gyrru o'r wlad os ydyn nhw'n gadael eu partneriaid

Dywedodd Ms Mbugua bod Bawso wedi llwyddo i gafod lle i bawb oedd angen lloches yn ystod y pandemig, ond ychwanegodd bod rhai ddim yn awyddus i fynd i loches am y byddai'n eu cymryd o'u hardal leol.

Ei phryder unwaith y bydd yr argyfwng ar ben ydy na fydd merched sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus, sydd wedi ffoi o'u cartrefi oherwydd camdriniaeth, yn gymwys am gefnogaeth.

"Pan maen nhw'n dod atom ni maen nhw wastad yn dweud yr un peth: 'Fe wnes i aros oherwydd, y munud rwy'n gwneud cwyn, fe fyddai'n cael fy anfon o'r wlad. Mae fy statws mewnfudo wedi'i gysylltu â fy ngŵr'."

Pryder am dalu ffioedd mewnfudo

Mae pryder hefyd am bobl sy'n ceisio codi arian i dalu ffioedd mewnfudo - all fod yn filoedd o bunnau - ond sydd ddim wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig.

"Fe wnes i siarad ag un fenyw - roedd hi'n gweithio mewn cartref gofal ond am ei bod yn weithiwr asiantaeth, dydy hi ddim wedi gallu gweithio," meddai Ms Mbugua.

Fe wnaeth mesur newydd ar gam-drin domestig basio'r rhwystr olaf yn NhÅ·'r Cyffredin ddydd Llun, ond doedd dim cynigion ynddo i eithrio dioddefwyr cam-drin rhag cyfreithiau mewnfudo.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae cefnogaeth i ymfudwyr sy'n dioddef camdriniaeth, gan gynnwys cefnogaeth ariannol os ydyn nhw'n gadael eu partner, ac ry'n ni'n buddsoddi £1.5m i'w helpu i sicrhau llety diogel.

"Mae llawer o gefnogaeth ar gael i'r rheiny sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus hefyd, gan gynnwys £300m i'r llywodraethau datganoledig."