Cau strydoedd trefi Ceredigion oherwydd Covid-19

Disgrifiad o'r llun, Mae prif ffordd arfordirol yr A487 yn rhedeg drwy ganol tref Aberystwyth
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cau rhai o'r strydoedd yn nhrefi'r sir i gerbydau yn ystod y dydd er mwyn creu 'parthau diogel' ar gyfer cerddwyr.

Y bwriad yw ei gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter diogel o'i gilydd yng nghanol y trefi wrth i fwy o dwristiaid ddechrau ymweld â'r sir.

Yn ôl datganiad y cyngor mae gan "y rhan fwyaf o drefi'r sir gynllun stryd hanesyddol gyda throedffyrdd cul a thraffig yn rhedeg trwyddynt" ac er mwyn i fusnesau fynd at i ailagor ac wrth i ymwelwyr ddychwelyd "nid oes digon o le i bobl gadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd".

"Bydd ein trefi'n edrych yn wahanol i sut y gwnaethant ychydig fisoedd yn ôl", meddai'r datganiad, "ond bydd newidiadau yn golygu y gall busnesau ailagor yn ddiogel tra hefyd yn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion ac ymwelwyr."

Yn ogystal â chau strydoedd i gerbydau yn ystod y dydd bydd y Cyngor yn:

  • creu mwy o le tu allan i fân-werthwyr a'r sector lletygarwch fasnachu
  • clirio palmentydd trwy gael gwared â chelfi stryd ac eitemau eraill
  • cyflwyno arwyddion i helpu ymwelwyr i gynnal pellteroedd diogel.

Dyw Cyngor Ceredigion ddim wedi datgelu manylion yr union strydoedd fydd yn cael eu cau i gerbydau, ond deellir y bydd newidiadau ym mhob tref yn y sir.

Disgrifiad o'r llun, Yn ol i cigydd Rob Rattray mae palmant gul y tu allan i'r siop yn rhwystro pobl rhag gallu cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel

Yn Aberystwyth mae rhai busnesau yn deall yr angen i newid.

Mae siop y cigydd Rob Rattray wedi bod ar agor trwy gydol y cyfnod clo ond gyda newidiadau.

Does neb yn cael mynd mewn i'r siop fach nawr - rhaid aros wrth y drws, talu a chymryd y cig o'r fan yno.

"Dim ond pump o siopau sydd wedi bod ar agor yn ganol y dref trwy'r adeg," meddai.

"Mae pobl wedi bod yn ffonio mewn gydag archeb ac wedyn maen nhw wedi bod yn dod lawr casglu'r bwyd a mynd."

Mae hyn yn golygu y gallai fod yna giw ar y palmant tu fas y siop.

Mae'r pafin yn eithaf cul ac wrth i draffig basio ar y ffordd does dim llawer o le i bobl basio a chadw eu pellter.

Yn ôl Rob Rattray mae'n deall yr angen i wneud newidiadau.

"Fi yn gweld yr angen achos amser mae'n fwy prysur tua diwedd yr wythnos pan mae ciws f'yna mae pobl jyst yn gwthio heibio iddyn nhw ar hyd y pafin.

"Fi yn deall, mae eisiau trio gwneud rhywbeth."

Disgrifiad o'r llun, Byddai Angharad Morgan wedi hoffi petai'r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad gyda pherchnogion siopau

Ond mae nifer o fusnesau yng nghanol Aberystwyth yn poeni y bydd cau'r strydoedd i draffig yn golygu llai o gwsmeriaid.

Ac maen nhw'n dweud nad oes unrhyw ymgynghoriad wedi'i gynnal ynglŷn â'r mater hwn.

"Ers i ni ailagor fi'n gweld bod natur siopa wedi newid", meddai Angharad Morgan, perchennog Siop Inc.

"Mae pobl jyst yn picio i'r dref i nôl beth mae nhw angen.

"Felly mae pobl yn parcio lawr y stryd, picio i fan hyn a mynd nôl i'r car a mynd i ran arall o'r dre i gasglu beth maen nhw moyn.

"Dwi ddim yn siŵr sut mae'r cyngor yn gallu dod i benderfyniad ynglŷn â hyn heb gysylltu gyda pherchnogion busnes y dref."

Disgrifiad o'r llun, Mae caffi teulu Nathan Egerton ar stryd brysur rhwng canol Aberystwyth a'r prom

Mae bwytai a chaffis yn gobeithio y bydd y newidiadau yn golygu y gallan nhw weini mwy o bobl tu fas i'w sefydliad

Mae Nathan Egerton yn gweithio yng nghaffi'r Caban: "Mae'n syniad da cael pedestrianisation fan hyn - da ni angen mwy o gwsmeriaid i dreulio mwy o amser yn y stryd.

"Baswn ni'n gallu cael lot mwy o fyrddau allan fan hyn ar y ffordd, lot mwy o trade yn dod trwodd."

Ailddiffinio llefydd i fasnachwyr yw un o amcanion y newidiadau, yn ogystal â diogelu'r gymuned ac iechyd pobl meddai Cyngor Ceredigion.

Mae busnesau yn Aberystwyth - a threfi eraill Ceredigion - yn aros i glywed mwy o fanylion. Dywed Cyngor Ceredigion "bydd rhagor o wybodaeth am y parthau diogel yn dilyn."au.