'Argyfwng' maethu yn sgil pandemig Covid-19

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Chris a Sarah Williams eu bod wedi mwynhau eu 11 mlynedd o faethu

Mae 'na "argyfwng" diffyg gofalwyr maeth yng Nghymru yn sgil pandemig coronafeirws, yn ôl elusen i blant.

Yn ôl Barnardo's Cymru, mae'r cynnydd o 45% yn nifer y plant sydd angen gofal maeth yn cyd-fynd â chwymp o 51% mewn ymholiadau gan rieni maeth posib.

Dywedodd yr elusen bod y pandemig a'r cyfnod clo wedi effeithio'n waeth ar deuluoedd bregus oherwydd toriadau i swyddi.

Pryder yr elusen ydy bod plant yn dioddef camdriniaeth wrth aros am ofal maeth, gyda'r sefyllfa'n gwaethygu wrth i'r cyfnod clo barhau.

Yn ystod Mawrth ac Ebrill, fe dderbyniodd gwasanaeth maethu Barnardo's Cymru 140 o achosion.

96 o achosion gafodd eu cyfeirio yn yr un cyfnod yn 2019.

Ar yr un pryd, roedd 19 o ymholiadau gan bobl oedd yn ystyried maethu - hanner y nifer a wnaeth ymholiad yn yr un cyfnod yn 2019.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Javed Khan: "Mae hyn wedi creu argyfwng, wrth i fwy o blant nag erioed fod angen teulu maeth sy'n ddiogel a chariadus, ond bod llai o oedolion yn cysylltu fel gofalwyr maeth."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Chris Williams bod maethu yn "newid bywyd" rhywun

Mae'r elusen am i fwy o bobl ddilyn esiampl Chris a Sarah Williams o Ynys Môn, sy'n maethu am y trydydd tro.

Dywedodd y cwpl iddyn nhw ddechrau maethu pan ddaeth ffrind un o'u merched atyn nhw yn dilyn ffrae o fewn ei theulu.

"Fe wnaethon ni ei helpu a'i rhoi hi ar ben ffordd hefo'r ysgol," meddai Mr Williams.

"Roedd o'n agoriad llygad go iawn ac fe wnaethon ni fwynhau ei chael hi hefo ni."

'Dwi'n eich annog i godi'r ffôn'

Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, daeth tri o blant o'r un teulu atyn nhw.

"Symudon nhw i mewn 'chydig ddyddiau cyn 'Dolig ac roedd o'n hyfryd i gael plant yn y tÅ· eto adeg yna o'r flwyddyn.

"Fe wnaethon nhw setlo'n sydyn iawn a dod yn rhan o'r teulu."

Dywedodd Mr Williams bod cyfnodau da a drwg "fel unrhyw deulu", ond ei fod wrth ei fodd yn maethu.

"Y darn gorau i ni oedd pan wnaeth y plant ein galw ni'n Mam a Dad am y tro cynta'."

Ychwanegodd: "Os oes unrhyw un sy'n ystyried maethu, dwi'n eich annog i godi'r ffôn.

"Os ydych chi'n teimlo eich bod eisiau helpu, byddwch yn hyderus y gallwch chi."